Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
WHY LIVE IN SINGLE MISERY? Every requirement for Complete Furnishing may be procured from the vast Stocks of reliable up-to-date goods held by BEVANm n & GAltfOMPAmMKM-milEEy Ltd 280, Oxford Street, Swansea; Cwmhach Buildings, Llanelly; Cardiff, Newport, Pontypridd,t!&c. ) 1 20a WMES LffiST I -? I I. -?- I. 1. FMSIRSl GET MARRIED FORTHWITH! Secure a Comfortable and HilPPY HOME by placing your Furnishing Order in the capable hands of that well-known Firm— am g& A& AQ& Raft BE V A N COMPANY, Ltd. u BRANCHES THROUGHOUT SOUTH WALES. All Goods Warranted. Delivery free up to 200 miles.
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL. Ysgrifaa, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethau i'w hanfon cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y byddo modd i'r GOLYGYDD, CRONICL DYFFRYN AMAN," AMANFORD. I
[No title]
[Er ein bod yn rhoddi pob cyfleustrai ohebwyr ddatgan eu barn ar- gwestiynnau lleol, nid ydyw hynny i olyga ein bod yn cydsynio a u daliadau.—GOL.]
[No title]
Nid ydym yn ymi-wymo i ddychwelyd unrhyW ysgrif annerbyniol os na anjonir amlen a stamp gyda chais am hynny ar y pryd. Cofier hyn, gan y rhoddir toll drom i'r lasged bob wythnos. Rhaid bod yn fyr ac i bwynt.—GOL.
Meysydd Lien a Chan.
Meysydd Lien a Chan. [Cyan, HOMER. "] Gair ymhellach am Elfyn. a chraffed Y Lienor" yn fanwl, obiegid nid ydym yn ymrwymo i fyned dros yr un maes ragor nag unwaith. Oddeutu blwyddyn mwy neu lai cyn ei farw, caniataodd y LIywodraeth bensiwn j blynyddol o 50p. iddo ar gyfrif ei wasanaeth gwerthfawr i lenyddiaeth a barddoniiaeth Gymreig. Yn y Cymro (Lerpwl) am Hydref 6ed, 1892, rhoddodd Elfyn drem ar hanes ei fywyd, ar gais y Golygydd, y di- we ilar Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf). Dyma ddy wedai :■— Dywed Golygydd y Cymro wrthyf y rhaid i mi adrodd tipyn o fy hanes. Dyma fi yn ufuddhau yn ddiesgusawd. Gan nad wyf yn hen lane, nac yn debig o fod yn un, nid oes arnaf ofn i ferched leuainc y Cymro ddod o hyd i fy oed. Ganwyd fi yn Llan- rwst ar yr 8fed o Hydref, 1858. Enwau fy rhieni oedd Charles ac Elizabeth Hughes, y naill yn fab Ïr diweddar Barch. Robert Hughes (T.C.), Conwy, a'r Hall yn ferch i'l diweddar Mr. Owen Owens, Ty'n-y-coed, Llanrwst. Plumber a glazier oedd fy nhad. Ef hefyd a gadwai y Stamp Office yn Llan- rwst, ac yr oedd yn gofrestrydd priodasau dros. y rhanbarth hwnnw, ac yn ddiacon gycla'r Methodistiaid. yng Nghapel Seion. Bu ef farw yn 1873, a fy mam yn 1890. Addysgwyd fi yn Y sgol F rytanaidd LIan- rwst, ond deuthum oddiyno ychydig cyn littwolaeth fy nhad, gan fwriadu dilyn yr un alwedigaeth ag yntau. Ond bu i w farwolaeth ef newid fy nghwrs. Prentiswyd fi yn Ariandy y Mri. Pugh Jones a'u Gyf. (yn awr y National Bank of Wales). Bum yno am o chwech i saith mlynedd. Dech- reuais barotoi ar gyfer y weinidogaeth gyda r Methodistiaid; ond daeth pen ar hynny. Euthum i Lundain i wasanaeth y Mri. Kirby ac Endean, cyhoeddwyr, Oxford Street. Priodais yn 1883 gydag Elizabeth, merch i'r diweddar Mr. Joseph Roberts, Gwrecsam, trafaeliwr adnabyddus am lawer o flynydd- oedd dros y Mri. Hughes a'i Fab, o'r un dref. Yn 1885 euthum i gysylltiad a'r Gwalia yng Nghaemarfon a Bangor. Bum yno yn is-olygydd hyd ddiwedd 1888, pryd y symuàais i Flaenau Ffestiniog i ofalu am y Rhedegydd,' ac yma yr ydwyf hyd heddyw yn byw ar delerau lie dda, mi obeithiaf, a gwyr dewx y chwarelau. Mae yn debig y rhaid i mi ddweyd gair am fy mymryn gyrfa lenyddol. Daeth clefyd y barddoni arnaf cyn i mi fod yn Meg oed, a chlefyd mawr ydoedd. Yr wyf wedi gwneud peth gwahanol i'w fendithio lawer gwaith ar ol hynny. Y llyfrau barddonol cyntaf a ddarllenais oedd gweithiau Trebor Mai, Ceiriog, Mynyddog, a Gwilym Cowlyd. Dysgaie gynghaneddu yn weddol cyn i neb wybod fod yr haint wedi ymosod amaf o gwbl. wyf yn cofio fy llawenydd pan rhwng 14 a- 15 oed ckwy '¡'if diweddar annwyl I. D. Ffraad gyhoeddi englyn o fy ngwaith yng ngholofn Beirdd Bach y Faner.' Dech- reuais gystadlu yn ieuanc, ac fel pob uchel geisyn bychan arall, ennillais amryw fan wobrwyon am brydyddu a thraethodi yn Llanrwst a'r gymydogaeth. Urddwyd fi Arwest GIan Geirionydd gan Gwilym Cowlyd, Tiebor Mai a Gethin. Prin y sel-I y i mi ymosod o ddifrif ar farddom a chystadlu hyd nes priodi. Yn yrir, yr oeddwn ers cryn amser wedi bod i taddau yn afradlon i'r awen, gan fy mod yn cael bias ar rodfeydd eraill. Os bydd Aestr /m fopyn gwobrwyon pwysicaf yn ddiddoffol i rywun, dyma hwy:-Rhe" rn- igerdd, Eisteddfod Gadeiriol Llanrwst, 1878; Cadair y Llechwedd, 1880, am Bryddest IT diweddar Mr. W. 0. Thomas; Cadair Eis- teddfod Powys, 1885, am Awdl ar Dru- igaredd Cadair Eisteddfod Meirion, 1886, am Awdl ar Brydferthaon Najtur I Cywydd, Syr Watcyn," Eisteddfod Gençdlaethol Caernarfon, 1886; Cadair Machynlleth, 1888, am Awdl ar Wlad- garwch Cadair Llangefni, 1888, am Bryddest ar Foddlonrwydd Cadair y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, 1889, am Awdl ar Gyfarfyddiad Owain Glyn Dwr a Syr Lawrence Berkrolles Cywydd, Glaniad y Ffrancod yn Abergwaen," Eis- teddfod Genedlaethol Aberhonddu, 1889; Cadair Arwest y Gordofigion, West Kirby, 1890, am Awdl ar "Y Goleudy Cywydd, Yr Anffyddiwr, Eisteddfod Genedlaethol Bangor; ynghyd ag amryw bryddestau a chywyddau mewn Eisteddfodau Taleithiol a Lleol, nid yw o fudd eu nodi yina. Y mgeisiais am y Gadair Genedlaethol ddwywaith, sef yng Ngwrecsam yn 1888, lie yr oeddwn, yn mam un bekniad o leiaf (Dyfed) yn drydydd allan o ugain." AT ol yr hyn a grybwyHir gan Elfyn ei hun yn y dyfyimiad uchod, ennillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog, yn' 1898, ar A weft." Ym- geisiai deuddeg. Barnwyd y diweddar Dafofog yn ail. I Y sgrrfennodd laweff mewn rhyddiaith hefyd. Y mae ei lyfr ar Capelulo yn hynod o ddiddorol. Ysgrifennodd i'r Cymru ei Adgofion am Hen Gymer- iadau Llanrwst. Y maent yn wledd i'w darllen. Gedy weddw a thri mab; y mae y mab hynaf, Mr. Charles Hughes (Ap Elfyn), yn fardd da. Terfynnwn hyn o lith am Elfyn eto trwy ddyfynnu 'chydig o ffrwyth felys ei awen:- Y BARDD I'W WLAD. I'w gerddi gwridog, a'i hurddog rodau, A'i harddaf lynnoedd, rhydd ei foliannaTJ; Ac a rhyddineb y CTeaI ddoniau Ganig odidog i'w enwog dadau Mae tan at ei burlan bau-nodedig Yn gyneuedig drwy 'i holl ganiadau." I TRUGAREDD. Ufudd i bawb a'i gofyn—yw'n wastad Mewn tostur mae' n disgyn; I egwan fod gweini fyn,— Rhed i ateb cardotyn." v I TYLODI ANGEN. t Dig dywydd, a gadawa Rosynnau'r oes yn r iâ". GOFID GENETH WEDI CLADDU El CHARIAD. Ei chu law rycld yn ei chlog: Egyr lythyr gorlwythog; O'r lien hon dar llena hi Ei fawl ollf t w lili," I ELFYN YN 59 MLWYDD OED. Hoff yw help end un ffon—i hwylio A holaf yr awron, I droi llesg yn .rhodi'wr llon, Ai di-effaith fydd dwyffon?
Llwydd Cywirdeb; neu, Arthur…
Llwydd Cywirdeb; neu, Arthur Wyn, Cletwr Coch. I NOFEL GYMRAEG, GAN "HOMER". I (Buddugol). I (Cedwir pob hawlfraint). I PENNOD I. Cywirdeb! Mae swyn a barddoniaeth yn yr enw, ac er fod y gair yn hen, mae ynddo newydd-deb parhaus; fel ag y mae yr haul natuxiol yn ffynhonnell y goleuni anianol, felly y mae Cywirdeb moesol yn oleuni treiddiol a thanbeidiol yn y byd moesol. Mae y gair Cywirdeb yn enw ar egwyddor gref ac annorchfygol, ac y mae ei hanes o ddech- reuad y byd hyd yn awr, fel hanes goleuni natur, yn gryf, yn ddilychwin a diddorol. Goleuni natur ydyw yr ysbryd sydd yn ad- rtewyddu Wyneb y ddaear, yn gwisgo y bryniau a' r dolydd mewn gwyrddlesni; efe yw yr angel sydd yn chwythu utgorn at- gyfodiad y Gwanwyn ar ol Gaeaf blin, yn addumo ein gerddi a blodau, yn gwau ffril y lili, yn paentio pob rhosyn a dalen. Felly, Cywirdeb sydd yn harddu y byd mewn ystyr foesol. Efe yw y gallu sydd yn gosod gwerth ar fywyd, yn addurno y fuchedd a blodau, ac yn gwneud cymeriad yn yrthrych edmygedd a mawrhad. Efe ydyw hanfod tlysni a pharhad cymdeithas. Nis gall yr un cymeriad lwyddo yn wirioneddol heb fod ei sail ar gywirdeb. Mae rhai engreifltiau o bersonau wedi llwyddo am dymor, yn fas- nachol, gwleidyddol, a chrefyddol, a hynny trwy dwyll ac anonestrwydd. Ond nid oedd eu Ilwydd yn amgen cwmwl ans icr yr hwn a chwal y gwynt ymaith. Mae nerth corfforol a gwybodaeth eang yn fantais neilltuol, ac yn anhepgorol tuag at fod yn llwyddiannus mewn bywyd; ond, os na fyddant yn cael eu hysgogi gan gywirdeb, nis gallant gynaedd eu hamcanion gwirion- eddol oblcgid y mae Ilwyddiant grym y corff •it meddwl yn dibynnu yn hollol ar gywm- deb fel egwyddor lywodraethol. Mae cywir- deb yn rv-dru 1 lawer, pan na fyddo cyfiwys- te; a feiym corfforol yn medru dim. Y ng tshamwedd y dyn drwg y mae magi, ond y cyfiawn a gan ac a fydd Jawen." 11 y .b a rodio yn uniawn a waredir, ond y reb a fyddo tLW ei ffyrdd, a syrth ar un' Oddiai pa.. yr ymddangosodd pechod ar chwareufwTdd amser hyd yn bresennol, llawer ymgais a wnaethpwyd i ymlid pob cywirdeb oddiar y ddaear. Sylfaenwyd gorseddau, coronwyd brenhinoedd, ac urddwyd tywys- ogion mewn twyll a beiadgarweh anghyfiawn ond, hyd yn hyn, y mae cywirdeb yn aios, er fod miloedd o gleddyfau a bidogau wedi pylu wrth ddaxnio cyrff pleidwyr yr egwyddor euraidd mewn rhyfeloedd gwaedlyd. Mae ei gorchestion yn ddirif ar dir a mor. Er fod ei llwybrau yn goch gan waed, y mae baner goch buddugoliaeth yn ei llaw, 2 choron o burdeb bywydol ar ei phen. Mae ei hym- daith yn nerthol a mawreddus, yn awdllr- dodol a chadam. Y mae bob amser yn elyn- iaethus i dwyll, bradwriaeth, cenfigen, gormes a gweniaeth. Gorfodaeth ami ydyw dadweinio ei chledd, tanio ei magnelau, ac ymxrfogi i dywallt gwaed; eto, cyn y cyll ei ddas, tywallta waed ei chalon i'T ddaear, a rhymer ei damio fel craig gan bylor. Mae yn ymhyhydu mewn heddwch, llawenydd, ^cysur, a ded- wyddwch; ac y mae yn ddar gan ei chalon gyfoeth ac anrhydedd, eto, wrthoda bob un ohonynt ond ar dir cyfiawnder a gonestrwydd. Ei gwefusau ydynt bur, ei llais yn swynol, a'i chymeriad yn ddilwgr. Egwyddor nefol ydyw, a'i llwybrau yn diferu braster ar y ddaear ymhob cyfeiriad. Mae yr hwn sydd yn meddu yr egwyddor hon yn allu llywodr- aethol eifywyd yn wr cadam; mae yn bosibl iddo gael ei fradychu, ei werthu a'i garcharu, ac y mae yn ddichonadwy iddo gael ei ddifenwi a'i gladdu mewn dinodedd am flyn- yddoedd; eto, gan ei fod yn gywir, bydd ei gydwybod yn dawel, a'i feddwl yn mwynhau dedwyddwch i fesur helaeth, a mynych, er gwaethaf ei elynion, daw i'r golwg yn gymeriad llwyddiannus, fel seren loew wedi bod o r golwg thwng cymyl duon am dymor maith. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei le." Nid Haman yw yr unig un a brofodd fod cyfodi crogbren grogi y cywir yn drosedd yn erbyn Duw a dynion. Yn ol hawliau deddf cyfiawnder, bydd y cywir yn sitfr o lwyddo yn y lie y metha yr anghyfiawn a byw! Mae y cywir yn ei dloda yn werth ei bwysau o aur, ac y mae ei dlodi yn fforddio rhoddi iddo fwy o fwynhad nag a fedr cyfoeth roddi i' r anghyfiawn a'r twyllodrus. Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden, ac a gynhydda fel Cedrwydden yn Labanus." Dyna y gwr ieuanc yn gadael ty ei dad, mewn siaced fraith, gyda'r amcan o edrych am ei frodyr oeddynt yn bugeilio eu deadelloedd ar y maes. Oherwydd ei gywirdeb, yr oedd yn wrthrych cenfigen Hyd yn oed i'w berthynasau agosaf. Taflwyd ef i'r pydew; ysbeiliwyd ef o'i siaced; gwerthwyd ef i estroniaid; ym- osodwyd amo gan hudoliaeth; cafodd ei garcharu yn anghyfiawn; ond, trwy ei fod yn bur, yr oedd ea gydwybod yn dawel, ac ennillai barch ac ymddiriedaeth yn holl gysylltiadau ei fywyd, a llwyddodd yn y diwedd i eistedd yng nghadair lywyddol y wlad fwyaf ei hawdurdod a'i dylanwad a feddai y byd yn yr amser hwnnw. Cafodd weled ei elynion yn gorfod ym- grymu geT ei fron, a'1; rhai a'i gwerthasant yn gofyn cardod gan ei fawrhydi. Yr un gallu a'i cadwodd rhag cyflawni Y mawr ddrwg hwn a 1 dyrchafodd hefyd o'r carchar yn llywydd y w Iadwriaeth yn amser cyfyngder, yr hyn sydd yn profi fod y cywir yn sicr o lwyddo, a'r pur ei gymeriad i ennill an- rhydedd. Mae yr egwyddor o gywirdeb bob amser yn creu gwroldeb annorchfygol yng nghalon ei pherchenog. Cof gennyf ddarllen am dri gwr ieuanc yn cael eu caethgludo i wlad eilun-addolgar a dieithr, ac ymhen ysbaid yn cael eu gosod dan fygythiad deddf marwolaeth os na fyddai iddynt ymgrymu i'r ddelw aur a gyfodasai y brenin; ond, gan fod y tri yn etifeddion cywirdeb moesol, yr oeddynt yn meddu air ddigon o wroldeb i ddweyd yn wyneb balch- aidd y teyrn ei hun na fyddai iddynt ufudd- hau iddo ef na'i ddeddfau yn y peth hyn," ac ni wnaethant, serch cael eu taflu i Ffwrn o dan poeth." Coronwyd eu gwroldeb a llwyddiant, a daethant allan o ganol y fflamiau yn fwy na choncwerwyr. Mae mor naturiol i gywirdeb lwyddo ag ydyw i'r wreichionen ehedeg i'r awyr. Mae Cywir- deb fel morwynig nefol wedi cydio yn Haw ambell fachgen ieuanc o Gymro yn ei dlodi, ac wedi ei arwain trwy fil a mwy o anhaws- terau a gwrthwynebiadau i afael cyfoeth, dylanwad, ac anrhydedd, fel y cawn ddangos yn hanes bywyd ein harwr, Arthur Wyn, Cletwr Goch. Mae yn bosibl i r garddwr daflu llaid i lygad y rhosyn prydferthaf yn ei ardd, ac I iddo gael ei lychwino am dymor, ond pan y ca amser i sychu, syrth y llaid ymaith, a bydd y rhosve mor lan a gwridog ag erioed. Os, bydd y ffynnon yn bur, nid hir y bydd y ffrwd heb lanhau ei hunan ar ol ystorm I srw in. Os bydd y galon yn gywir, tafl,-r faint a fynner o Iygredd ar drawf y nid hir y bydd y purdeb mewnol heb wisgo y llygredd allanol allan o' r ffasiwn, ohlegid egwyddor fewnol y galon sydd yn gosod gwerth ac urddas ar y cymeriad allanol yn y pendraw. Ers blynyddoedd yn ol yr oedd ffynnon fechan yn tarddu yn ymyl em preswylfod, ond dechreuwyd ei chladdu a malurion y bryn ger llaw, a pharhawyd i wneud hynny am flynyddoedd lawer; ond erbyn hyn, y mae dyfroedd y ffyooon fechan yn tarddu mewn man arall mor glir a nerthol ag erioed. Mae yn ddigon posibl claddu y pur ei galon o dan falurion amgylchiadau'r byd am gyfnod hir, weithiau, ond bydd cyn sicred a dyfroedd y ffynnon o ddyfod i'r golwg yn y diwedd, oherwydd y mae deddf Cywirdeb yn gryfach na deddf amgylchiadau. (I'w barhau).
Advertising
-n "SOUBDAL" CURES DOIT Head-noises and Nasal Catar V I his new simple remedy is proving vety merciful in cure of these distressing comp;a-rt- Fry one j 2/6 box. You will be deli?1: 1 mar- vellous curative power it poster .1.1, Sourdal" Agents, 45, Station CROYDON.
0 Benygroes. 0I
0 Benygroes. 0 I Ie, o Benygroes. Pa bryd o'r blaen? Mawi cyn lleied o hanes y cylch ymddangos- odd ar tudalennau'r Cronicl y misoedd aethant heibio. Beth ddaeth o ohebwyr dawnus fel Ehedydd y Bryn," Eryr Bane y Rock," Sannan," Gweledydd," Wil Hopcyn," ac eraill? Chwith oedd gennym eu colli. Hoffem ddarllen eugwaith bob amser. Y Sul cyn y diweddaf, cynhaliodd Eglwys Calfajia (B.) ei chyfarfodydd pregethu. Gwasanaethwyd yno gan y Parchn. D. R. John, Porth, a T. Thomas, Carmel. Cafwyd ganddynt bregethau grymus ymhob oedfa, i gynulleidfaoedd mawrion. Bachgen o'r lie hwn ydyw Mr. John. Bu am flynyddoedd yn aelod ffyddlawn o' r eglwys uchod. 'Roedd yn dda calon gan ei lu cyfeillion ei weled, a deall ei fod yn dod i r amlwg fel pregethwr gyda'i enwad. Gyda llaw, un o rianedd tecaf y fro yma ydyw ei annwyl briod. Eiddunaf iddynt ill dau a'r teulu bob llwyddiant. Gwr tyn fel datganwr ydyw Mr. Dyfnant Da.. Mae'n bleser calon gennyf ei lon- gyfarch ar ei fuddugoliaeth odidog yn Eis- teddfod y Tumble, y Sadwm cyn y diweddaf. Hefyd am ei lwyddiant yn Eisteddfod Aber- gwili, yr un wythnos. Tristawyd y gymdogaeth prynhawn dydd Gwener, pan gyfarfyddodd y braw d annwyl, Harri Nicholls, a damwain angeuol ar groes- ffordd y pentref. Pan yn dyfod o heol Castellrhingyll ar ei feisicl, daeth i wrth- darawiad a cherbyd ddigwyddodd ddyfod yr un pryd o'r pentref. Cafodd ei anafu mor enbyd fel y bu farw ymhen rhyw ugain munud. Yr oedd yn adnabyddus iawn y ffordd hon. Bu'n byw yma'n hir, cyn symud gylch Llangadog rhyw ddwy flynedd yn ol. Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw a'r plant yn eu galar a'u trallod. Mae' n syn gennyf mat dim ond un bywyd sydd wedi ei golli ar groesffordd mor beryglus a hon. Fe vvyr y cyfarwydd fod mur uchel y fynwent yn rhwystro pobl i weled o un heol i r llall. Gwna hyn ddamwain bron yn anocheladwy pan gyferfydd dau yn dyfod o 'r cyféiadau a nodwyd. Tybed a ydyw yn bosibl tynnu mur y fynwent i'r hanner, a gosod rhywbeth aran ellid gweled trwyddo, y.i ei lie? Dyna'r ffordd diogel i osgoi drwg ya y dyfodol, ynte? Fe aeth tyrfa oddiyma i fwynhau' r per- fformiad o'r ddrama boblogaidd, Ephraim Harries," yn Neuadd Cross Hands, nos Sad'/rn. Clywais fod pethau'n mynd yn rhagorol yno. Canmol sydd ar Mr. Dan Mathews a'i barti ymhob man. Lwc dda iddo. Y mae r streic wedi rhoddi cyfle ardderchog i lawer o weithwyr i dynnu'r aTdd, fel y dywedir. Rhywbeth fel arfer ydyw'r cnydau y ffordd hon eleni eto. Y mae llawer o ddynion da wedi cael tato pwdr, a llawer o ddynion pwdr wedi cael tato da. Synnwyd fi yn ddiweddar iseled oedd pris y gwnmgod. Gwerthwyd hwy o amgylch y drysau gan rhyw bobl am dri swllt y par. Deuent yn rhatach po fwyaf a brynent. Cynygient dais am dri a chwech, a phe prynech hanner dwsin, hwyrach y cawsech hwynt am ddim. Methai'r gwragedd hefyd a deall sut y gwerthid hwy aled A oedd y gwningod yma'n bwyta blawd, e? Pan ar daith, pa ddydd, gwelais hysbys- lenni ac amynt hysbysiad o gyrddau diolch- garwch a gjmhelir mewn amryw o fannau gan yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yr hysbys- lenni wedi eu hargraffu yn yr iaith Saesneg, Saesneg I cokerl Fe ddywed rhywrai wrtlmn mai hon yw Hen Eglwys y Cymry -vt, Fam Eglwys." Naf Na! 0 f na, nid I Saesnes oedd mam, taw beth II OWAIN LLEWELYN. I I I
Advertising
I FREE TO L?B.?-.? ,¡J,1, >:J'. ¡ I Free to Ladies. Wisewonen.?ii I immediately for Free Sample oi the |j Triumph Treatment ?nd "The Manual of Wisdom.' j ) All irregularities cured without Medicine by f our New Method. Success Guaranteed in every I' case. Acts nstantly where all else has failed. So why worry ? The Manageress: L8 BRASSEUR SURGICAL Co. Ltd., (Dept. V.M.), M(Woro«»tepSt. Birmingham Workm-Passy-Paris. Prance.
PRYDDEST-" HEDDWCH." I
PRYDDEST-" HEDDWCH." I Angerddol syched deimla'r byd Am wenau Heddwch a serchowgrwydd; Mae'n caru swynion teg ei bryd, A hoffa sugno o'i raslonrwydd: Ei gri o hyd yw am gael byw Yng ngwynfa gyfrin ei dawelwch, Heb adwaen neb ond adwaen Duw, Na eis^au dim ond eisiau Heddwch. O'i amgylch y mae adar mwyn Ganasant briodasgerdd Eden; Ar ei rodfeydd ni chlyw,ir cwyn, Try Hiraeth ger ei fron yn Ilawen. Yn ysbrydoli dynion o hyd mae'r Newydd Da, Mae tonnau y Llawenydd Mawr" yn dweyd o hyd daw Ha'; I fyd cythryblus amser mor ber Addewid lor, Daw Heddwch fel yr afon, Cyfiawnder fel y mor Fe dorrir bedd i ragfam leT ei ymchwyddiad hyf, Yn ddistaw cerdd goleuni Hedd, ei fwa sydd yn gryf: Daw dynion wedi'r ornest i fyw mewn llawn- der clyd, Diflanna swn magnelau a chrechwen oes y byd Breuddwydion y proffwydi a ddeuant oil kn, Mae enfys euraidd Heddwch uwch cymyl du y nen Er clywed rhu y stormydd a rhuad* dwfn y don, Mae diliau met Tangnefedd yn rhoddi gwledd i'm bron; Ceir gwrando can angylion a gweld gogon- iant Duw, Ceir esboniadau helaeth ar ddirgelwch bod a byw o ing y gorthrwm genir y newydd oes o hyd, 0 ddyfnder adfyd a'i bangfeydd y cyfyd can y byd. Distewir utgom rhyfell Ni ddyagir rhyfel mwy, Llochesu drwg fwriadau ni wna'r un fron yn hwy; Cleddlyfau droir yn sychau, difodir arfau trais, Gorfoledd ymhob calon, addfwynder ymhob llais Pa,radwys ymhob llygad, a Heddwch ymhob bron, Telynau'r Greadigaeth a rydd mewn cywair lion Uniondeb fel an gyles a'i llawryf yn ei llaw, A orymdeithia'r ddaear a'i moliant yn ddi- daw Daioni yn defnynnu ei frasder yn ddiball, Heb ormes i gyfvgnu ar hawliau',r naill a'r llall: Ei ddylanwadau nerthol ymlidia nwydau drwg, Chwyth o ffu-rfafen foesol gymylau duon gwg; Daw Llafuir a Chyfalaf, daw du a gwyn yn un, A'r ddaear fel y Nefoedd dan ei belydrau cun Hen anghydseiniau bywyd ni ddeuant mwy j'n clyw, Ni chlywir ond anthemau telynau Heddwch Duw; Dan ei weniadau grasol daw'r diffaeth le fel gardd, A blodau anfarwoldeb trwy'r ddaear oil a dardd. Dwg engyl addewidion foliannaiu'r Nef i'n clyw, Fel cluda'r awel dyner swn haf i gangau'r Yw; Try Rhagfyr yn Fehefin, daw pawb i fyw'n gytun, Pob un ddymuna lwyddiant i arall fel ei hun; Mewn preswylfeydd heddychol bydd pawb yn trigo' n braf, Ni welir adyn creulon na',r un preswylydd claf; Llawenydd a hyfrydwch a oddiwedda'r byd, A meillion Hedd yn harddu y ddaew drwyddi i gyd. II. Os bu difirod yn vfnadwy, mid yw tynged cad ymhell, Gwelaf amser yn ymloewi o flaen gwenau dyddiau gwell; Rhaib ni ellir ei ddiwallu, nid yw cam yn benyd oes, Amod ennill ydyw colli, grisiau'r orsedd ydyw'r groes; Os dinistriodd y gelynion bob gwyrddlesni dan eu traed, Blodau Gwanwyn tlysion Heddwch a flodeua'n llwybrau'r Gwaed; Yr anialwch eras sychedig a ffrwythlonna dan ei wrid, Blagur cariad ac addfwynder dyf yn llocfies brad a Hid: Ei gyfrinach ddwed y tonnau gylch y glannau ymhob man, Fod trysorau mawr ei fynwes, eisiau cyrraedd at y lan; FEY cymylau duon Pryder o flaen ei belydrau glan, Wybren tiroedd coll brydfertha, Dyffryn Achor dry yn gan Swynir engyl Nef y Nefoedd hyd ymylon ei rodfeydd, Ac o',i amgylch yr olwyna K uliau'r entrych yn dmfeycJ; Atgyweirir y telyrwu ar helyg cwyn cyhyd, I gynghanedd, a daw'r dc1 ar yn jeiu^lsu gy- 0 dan WQ;I ei urddasalr .vydd ni cheir gwae am symud cyffion, Sylweddolir In am gydraddoli I dynion; Ocheneidiau wedi riwloelcl ipa" aiIl eu hencil, Gorthrwm wedi llwyr <- /•f^nuia ynp ngwen- j iadau dyddiau'r Jiwbil, Ni fytil cyfle i'r goludog en. y<Hn't stor-»a i I frawd yn griddfa", I Cyfle r twyllwr wedi darfod, bydd cyGar">~ j &cr wrlli bob clorian: i, yn roewin I Holl egn*ion dyfnio-. ena i d vn -v r vevm I augneiedd, I Binder a holl orthrymderau yr anialwch olD orfowd Trj> gweddiau yn veithredoedd, daw y' wybTen eto' n glw, x 1 Fe ddaw'r ddaear oil yn newydd a choed- 11 wigoedd fyth yn iir: V Ni cha llofmdd wisgo coron mwy o fewn Llywodraeth lor, Gwaedlyd wrid a sychir ymaith oddiar rudd gwanegau r mor; Baner Heddwch ddaw a chwifio uwch llanerchau'r byd i gyd, Dros y beddau taena obaith trech nag angau yw ei hud, Cariad a Brawdgarwch ydyw uchel weision maWT ei lys, O! na ddeuai ei gyfaredd nefol dros y ddae' rl ar fry's; Rhoddai wrid ar wedd erlidwyr creai fyd- oedd o fwynhad, Ac yn nrych ei siriol wenau ymhyfrydai'r Dwyfol Dad Ysgwyd dwylo wna'r pegynnau dan ei an- rhydeddau hael, Fe gaiff Heddwch fuddugoliaeth lie y metha'r cledd a.i chael. Trist ofnadwy fu eneidiau dan dymhestloedd erch y drin, Gweld cenhedloedd ag ochenaid yn lie clodydd ar eu min Gweled trachwant yn tywyllu aur ffenestri Eglwys Dduw, A pharlysu'r pur i dyfu ac yn rhwystro'r gwell i fyw Siom a Brad bron llwyr ddiffoddi llawer o ddisgwyliad hiir, A chymylu ter oleuni gobaith i lewyrchu'n glir; Gwelaf gilio'r holl ystormydd draw trwy ysbienddrych ffydd, Gyda chymyl du yr hwyrddydd i roi lie i loewach dydd: Pryddest-2 Nefoleiddir yr awyrgylch a'r beroriaeth fwyaf swynol, Ni bydd ysbryd dialgarwch, na chardotyn ar yr heol; Cyfrinachau.r Anweledig yn dylifo i bob calon, A'u dyrchafu i uchelder difiycheulyd Ei fyfyrion Y Barbariaid wedi cyrraedd gwaw l Ei ras a'i Gariad Dwyfol, Llygaid oesau wedi agor ar Ei Fawredd annilfannol; Cerddi per am oruchafiaeth glywir ar de-lyn-au Seion, A charolau Buddugohaeth" yn gwefr- eiddio yr angylion Anghydseiniau brwydiau bywyd wedi troi' n gynghanedd gref, A dynoliaeth yn cael drachtio o ffiolau gwtn y Nef. Ofer ydyw i frenhinoedd daear ymderfysgu ynghyd, Byth ni alnt atal bendjth heulwen Heddwch ddod at fyd; Trwy holl hanes y canrifoedd llwyddo mae cynlluniau Duw, Methu'n lan a'u digoroni mae tymhestloedd dynol-ryw; Pregeth Mynydd y Gwynfydau leinw'r ddaear faith i" gyd, Dringa Heddwch Teyrnas lesu i holl orsead- femciau'r byd; Trechir pechod gan sancteiddrwydd trwy y greadigaeth dlos Fel mae haul y dydd yn gosod sel o dan ar fedd y nos: Mawi i'r Arglwydd ddaw i chwyddo ar delynau dynol-ryw, Nef a daear a briodir mwy with allor Hedd- weh Duw. Fe ddaw offrwm ei gynghanedd a phob ben- dith gydag ef, Daw yr haf i harddu'r llwyni a daw'r ddaear fel y N d Daw yr hen delynau adref a fu'n fud mewn estron wlad, Daw y byd yn un frawdoliaeth, a daw plentyn at ei Dad. III. Myrtwydd dyf yn lie mieri, a ffynidwydd yn lIe drain, Coed a maes a gurant ddwylo gweled ol ei law mor gain; Argraffedig fydd sancteiddrwydd ar holl ffnvynau meirch y byd, Holl fwysfifod y coedwigoedd gyll eu helifen ynddo i gyd; Pori ynghyd wna'r arth a'r oenig, cwsg y llewpard gyda'r myn, A chysgod diniweidrwydd gyda'i fwng wna'r llew pryd hyn. Fendigedig ddaear newydd heb ofidiau ac heb ddrain, Cynnyrch daear a barlyswyd gan felldithion ydyw rhain; Oddiar- Bisga'r" Addewidion gwela'n ogoneddus iawn Holl freuddwydion y proffwydi o dan flflodau. i hystyr Ilawn; Daear newydd yn disgleirio fel gogoniant Nefoedd wen, A phob mynydd1 yn werth codi pebyll bythol ar eu pen. Heddwch mewn cydwybod euog dyna ryw anfeidrol rodd," Edrych ar ei urddasolrwydd geidw'r Hanfod with ei bodd; Salmau hudol telyn profiad o dan swynion Heddwch Duw, Fel melodedd telyn angel y pereiddiaf fiwsig yw; Byth ni flina'r ddaear wrando ar ei cherddi swynol hi, Boed yn nwylo Dafydd Israel neu ein Pantycelyn ni; Yn eu swyn y daw'r cenhedloedd i ymwasgu at y Nef, .vr telyng Heddwch y ceir gweld Ei Wyneb Ef. Pan ar donnau cefnfor bywyd bron yn an- obeitliio byw, Melys ydy Ei Dangnefedd, ynddo mae C! ;{,. 0 õ lwch Duw; i ..do. j'r ;v.y:yddoedd tywyll," ac i ry n yr afon gref, NI rl --n, 'm cynnal ond Ei. Hedd- weh .L wyjc' L t; Plyfar ■ ;r Ei Orsedd Sanctaidd i Weddio'r funud hon; Dyro Htddwch ar y ddaear, dyro'i V ynT.. J ( y.i hob bron. PAX. I
Advertising
r*?nforir y Cronicl yn ..)thucsol trwy y 1. N) T,.J5 i ur»}-yv. ,:í "riad am 4/4 yr haner blwyddyi., nen 8/8 y fi,vyddm blaen- diI.
• •<.- • - I Tirydail, -"Amanford.
• •< • I Tirydail, Amanford. Prynhawn Mawrth, y 7fed cyfisol, cynbal- iwyd gwledd de ddanteithiol iawn yng Nghapel Elim (M.C.), Tirydail, dan nawdd a charedigrwydd gwyr ieuainc yr eglwys. Hefyd, yn yr hwyr, caed cyngerdd llwydd- iannus ac amrywiol a rhagorol yno o dan amgylchiadau hynod hapus a hwyliog., Cadeirydd ac arweinydd bywiog, barddol a medrus y cyfarfod hwn ydoedd y veteran eis- teddfodol, a'r hen adroddwr llwyddiannus y blynyddau gynt, Mt. David R. Jones J ones y Nort h (Ehedydd y Cwm), neu Jones y North- man fel y'i gelwir gennym, 18, Harold Street, Tirydail. Mac y brawd barddol hwn yn meddu ar elfernau hanfodol angenrheidiol arweinydd eisteddfodol llwyddiannus. Caed anerchiadau barddonol teilwng a doniol ganddo ef ac eraill. Caed canu ac adrodd- iadau rhagorol hefyd yn ystod y cyfarfod gan amryw o'r lie, ac o Gaerbryn a'r cylch. Achlysur cynhaliad y wledd dê a'r cyngerdd yma ydoedd dathlu sefydliad a chychwyniad Cymdeithas Ddiwylliadol y Bob I Ieuainc yn y lie. Llwydd iddynt yn eu gwaith da hwn. Ymadawiad.—Gyda Haw, dymunwn gyd- nabod ein mawr ofid calon am fod y Pairch. W. Nantlais Williams, bugail a gweinidog y gangen eglwys Elim, yn ymryddhau oddiwrth ei ofal bugeiliol ag Elim oherwydd gor-waith a gor-Iafur yn ei gysylltiad a Bethany, Peniel, ac Elim. Bwriedir cael bugail newydd yn fuan, a dewisir hwnnw, meddir, y Saboth nesaf. Dymunwn ei llwydd yn yr argyfwng hwn. Dymunwn Iwydd i garedigion Capel Gwyn- fryn ar eu hanturiaeth hwythau ar gychwyniad eu Cymdeithas Lenyddol y tymor yma eto. Ewch rhagoch, gyfeillion; gan wneuthui daioni.
ILlarftiovery Eisteddfod.
I Llarftiovery Eisteddfod. A grand chair eisteddfod, under the aus- pices of the Llandovery Branch of the National Federation of Demobilised ard Dis- charged Sailors and Soldiers, was held at the Drill Hall on Saturday, the 27th ult. The president was Mr. W. J. Williams, The Grange, Llandovery; and chairman of com- mittee, the Mayor (Mr. Daniel Jones) secre- tary, Mr. A. D. Morgan, Victoria Street (late of the 4th Welsh Regiment) treasurer, Mr. D. R. Williams, New Road; conductor, Rev. J. Volander Jones, Llandovery; adjudi- cators-music, Mr. J. Harries-Thomas, A.R.C.M., Ammanford; literature, Mr. W. Jones (Gwilym Myrddin), Bettws; accom- panists, Mr. Haydn Davies, Llanwrda, and Mr. D. S. Williams, Llandovery. Although the railway strike was on, the event attracted an immense crowd to the town, who utilised all manner of means for transport, from the stately and powerful motor-car to the homely pony and trap and ipush-cycle. Throughout the afternoon and evening, the Drill Hall was filled to suffo- cation, and crowds had to be satisfied with listening outside. The chief awards were:— Mixed choir, not under 30 in number, Ffarwel i ti, Gymru Fad (Dr. Parry): Divided between Cwmdwr, Halfway, Brecon- shire, and Trecastle United. Male voice* choir, not under 20 in number, Sailors' Chorus Rhandirmwyn. In both contests silver-mounted batons were awarded the conductors. Champion solo, any voice, own selection: Divided between LLinos Brydan and Madam Esther Cooper. Bass solo: Mr. W. Jones, Ystradgynlais. Tenor solo: Mr. Stephen Rogerson, Glan- amman. I Soprano solo: Madam Ceinwen Thomas. Contralto solo: Miss Thomas, Cefn nfa, Llandovery. Solo for girls under 14: Miss Prytherch, Llandovery. Champion recitation: 1, Mr Dan Matt^-ws, Pontardulais; 2, Miss Jane Thomas. 72, I ..igh Street, Llandovery. Pryddest-goffa, Hedd Wyn Winner of the chair, whose effort was highly praised, Rev. D. J. Howells, Llandovery. Hymn-tune for those over 50: Mr. John Davies, Water Street, Llandovery (late Pen- pompren) Pianoforte solo under 15: Divided between Miss Maggie Daniels, Orchard Street, and Miss Rees, Six Bells, Llandovery. Recitation (open): Miss Jones, Glanamman. The same lady was winner m the recitation for those under 14.
Advertising
I A Reliabh Remedy I I TO LAOiFS. I I Irregularities, &c.. removed by an entirely new and I B absolutely certain method without Medicin. No B ■ mixtures or nauseous druzt to i k< Th ? 'rcatesi ■ ■ discovery of Modern Medical 'ienc Gr>* n- H| ■ teed =rs. r-?t:V,c, .f" c. I LJ' and 8 « speedy. Does not ime.U .e ."tli bousebold duties. H S E"ry case gu,te,d. Do ,t exp"riment with V er"eiiies. Send a? onc a ar,?p?,d ad- B Iressed °nve!op< for full particulars and testimonials. I Caaraateed ftntvae mJer a ;wnalty of IS.000. I SMrs. STAFFORD BROOKES (D. R. Dept.>. 1 I Ardgowan Road, Hither Green, -o J| L=dstablished ooer 20 ucar?. H