Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

THE OMNIBUS, j

Local Elections. I

FOOTBALL TOPICS.

Advertising

Miss Sylvia Pankhurst at Ammanford.I

Liandilo Adjourned Licensing…

--The Welsh Housing and Development…

[No title]

Advertising

I Bethania, Rhosaman.

Deigryn Atco.I

ILloffion 0 Lanfihangel.

News
Cite
Share

Lloffion 0 Lanfihangel. Wrth symudiad sydyn ein cydfforddolion, canfyddwn yn fwy-fwy bob dydd mai brau ac ansicr iawn ydyw bywyd dyn. Chwith calon gennym yr wythnos yma ydyw croniclo marwolaeth annisgwyliadwy y chwaer, Mrs. Roberts, Nantymynydd. Byr fu ei chystudd, yr hyn ychwanega at fesur ein hiraeth. Symudwyd hi yn yr cadran cynnar o 35 mlwydd oed, a gadawodd i alaru ar ei hoi briod hoff, dwy ferch a mab. CIaddwyd hi ym medd cyntaf yr Eglwys yn Church Hall, Carmel, a gwasanaethwyd gan y Parch. E. D. Aldred Williams, Parch. J. Herbert, a'r PaTch. T. Thomas. Heddwch i'w llwch, a nodded ac amddiffyn y Nef dros y galarwyr oil. w w Wedi cyfnod o bryder a disgwyl, daeth i ni atebiad 0' r diwedd o ffrwyth yr ymgeis- iaeth am sedd y Cyngor Sirol. Cymerodd tri o redegwyr eu cwrs yn y rhedegfa, ond cloffodd un ohonynt cyn cyrraedd hanner y ffordd. Rhedodd y ddau arall ysgwydd wrth ysgwydd hyd ran helaeth o'r daith, ond diffygiodd gwynt un arall cyn cyrraedd y winning post, a gadawyd hen ledegydd cyfarwydd' a digon o reserve force ganddo i orffen y daith yn fuddugoliaethus, a gwaeddwn runnau, Hwre." Wet, y cyfrif priodol o ffrwyth yr yro-, drech ydynt:—Parch. T. Thomas, Caeau- newydd, 345; W. Harries, Dryslwynfawr, 250; J. T. Stephens, Tynewydd, 60. Felly, gwelir fod mwyafrif yr ymgeisydd llwydd- iannus yn 95. Credajf y gellir fell plwyfolion deimlo mwyach yn wir foddhaol, a gosod ein hym- ddiriedaeth yn ddiysgog yn ein cynrychiolydd newydd. Gwyddom bellach am ledneis- rwydd ysbryd a thynerwch calon Mr. Thomas, ynghyd a'i barodrwydd cynnes bob amser at unrhyw achos teilwng a da. Wrth fynd heibio clywais fod rhai yn parhau dan yr argraff ei fod yn ddyn plaid neilltuol. Yn awr, gyd-drethdalwyr, codwch eich bryd uwchlaw plaid, enwad a chulni politicaidd. Diolch am fod eangrwydd daliadau Mr. Thomas yn amgenach, a' i fod wedi dod allan ac i fewn i wylio angenion hwynt. I AERO.

! Nodion o Benygroes.I

CARMEL AR CYLGI-I.

DEWI SANT...

Y " FFLU."

ETHOLIAD SIROL LLANDEBIE

ILLANDILO-FAWR.

Ammanford County Court