Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

I I. THE OMNIBUS. I

IA Temporary Settlement.I

ILocal Wedding.

IY Deffroad Gwerinol. I

News
Cite
Share

I Y Deffroad Gwerinol. I [Anerchiad draddodwyd gan y Parch. Ffinant Morgan, B.A., B.D., Glanaman, yn y Workers' Forum, Rhydaman, Chwefror 4, 1919.] Dyma bwnc y dydd, a phwnc llawer dydd ddod. Nis gellir ei anwybyddu-llawei llai ei ddiystyrru a'i fychanu. Rhyw losg- fynydd mawr yw gweriniaeth heddyw, a' r olwg amo yn cenhedlu braw ac arswyd yn meddwl pob dyn difrifol. Nid oes hawl gan neb i fod yn ddibryder a difater mewn dyddlau fel hyn. Dyma awr gwerin y byd I Pwy faidd gysgu yn ddiofal a'r byd yn ferw drwyddo? Gysgadur, cwyd! Mae'r byd wedi deffro! Gweriniaeth ar ddihun—dyna ffaith fawr, bwysig y dydd yr ydym ynddo. Mae'n gynhwrf heddyw ar bum cyfandir. Na thwylled neb ei hun, ond sylweddoled mai cyfnod llanw gweriniaeth ydyw hwn. Yn y pen draw, nid oes yr un gallu fedr atal ei orlifiad; dim ond iddo lifo yn unol a greddfau dyfnaf moes a chrefydd. Cofied pwy bynnag faidd ei Twystro mewn modd gormesol dynged yr hen frenin balch a dwl, Canute. Bu ef yn ddigon dall ac ynfyd i osod ei ewyllys wyrgam yn erbyn deddf y mor. Anghofiasai am y tro fod honno yn ddyfnach ac yn rymusach na i orsedd ef ei hun. Ond nid hir y bu cyn iddo gael ei di- dwyllo. Nid yw gwreng na bonedd yn ddim ddeddf y mor pan gynhyrfo. Ond pwy ydych chwi," ebai rhywun, i geisio- dehongli peth mor fawr a hwn? Ai nid pwnc yw hwn i'r gwladweinydd? Ai nid ydych yn gosod eich traed ar Iwyfan gwaharddedig wrth ymdrin a phwnc fel hwn? Beth wyddoch chwi am y deffroad gwerinol, a pheth all fod gennych chwi ddweyd amo? Mewn gair, pa le mae eich trwydded neu eich tocyn hawl?" Atebaf y cwestiynnau hyn a'u cyffelyb trwy ddweyd fod gennyf ddau o resymau o leiaf. Gallwn chwanegi eraill pe bai rhaid. Yn un peth, ac yn flaenaf peth, gwerinwr ydwyf fy hun hyd graidd fy mhersonoliaeth. Dyna oeddwn a dyna ydwyf. Yr wyf felly o reddf a gwaed, ac hefyd o argyhoeddiad. Pwy fedd y synnwyr neu'r gynheddf honno fedr amgyffred gweTÍniaeth yn ei holl arweddau ond y gwerinwr ei hun? Peth arall, rydd ryddid ac hawl imi drafod pwnc mor ym- arferol a hwn yw fy mod wedi arfer rhodio yn llewyrch yr ysbrydol a'r delfrydol. Oddi- uchod y mae deall yr hyn syddd oddi isod. Dyn dall yw'r materolwr, neu, mewn geiriau eraill, y mae yn rhy ymarferol i amgyffred yr ymarferol. Ni fedd ar grebwyll ysbrydol i dreiddio i mewn i ddirgelion bywyd. Fe fedr agor dorau ambell i ystafell weledig, tra yn ddieithr hollol i uthredd ofnadwy byd y cymhellion a'r delfrydau. Dyma fyd nad yw yn bod yn ymarferol iddo ef. Nid yw rhyfedd yn y byd "iai Agnostic ydyw. Nis gall fod yn ddim arall, tra yn ddall i bwerau mewnol dynol ryw. Gwyr rhywbeth am y dwr a rhedo, ond nis gall weled y ffynnon o ba un y tardd ohono. Mewn gair, problem grefyddol yw' r broblem economaidd yn y gwaelod. Nis gall yT un dewin na'r un materolwr cyfyng ei weled iad eu gwahanu. Y mae'r naill wedi ymbriodi wrth y llall. Yr hyn a gysylltodd Duw felly na wahaned dyn. Mae'n wir y gellir gwahaniaethu y del- frydol a'r ymarferol, ond nis gellir eu dat- gystylltu. Gobeithio fod y rhesymau a nod- wyd yn ddigon o ymddiheurad dros fy ngwaith yn dewis testyn mor amserol ac ymarferol. Fel crybwyllwyd eisoes, oes gweriniaeth ydyw yr un bresennol. Mae dydd yr auto- crat wedi darfod—dydd yr autocrat fel unigolyn yr wyf yn ei feddwl. Mae lie i ofni ei fod mor fyw heddyw ag erioed, ond ei fod wedi newid ei ddiwyg. Mae'n bosibl ei gyfarfod welthiaty mewn Cyfalaf; bryd arall mewn Llafur. Fodd bynnag am hynny, oes gwerin y byd ydyw hon. Yr oedd yr hen Roegiaid yn dosbarthu hanes y byd i bedair oes neu oruchwyliaeth. Oes o wynfyd pur oedd y cyntaf I gyd-dedwyddwch di- gymysg a'i nodweddai. Marw o aeddfed- rwydd arferai pawb ei wneud oedd yn byw ynddi. Nid oedd angeu ynddi yn gostwng nerth yr ieuanc ar y ffordd. Y nesaf at hon oedd yr oes arianaidd. Oes uniongyrchol y codwm oedd hon, ac yr oedd yn ddirywiad ar yr oes euraidd. Oes gwerylgar iawn oedd hon. Ei harwyddlun oedd A Chain a laddodd ei frawd." Dilynwyd hon gan yr oes bres. Yr oedd hon drachefn yn greu- lonnach na'r un flaenorol. Dywedir i hon ddod i ben trwy ddifetha ei hun. Yr oes _1_£ „ 1 I I i 11 1 uiui wua yr un naiarnaiaa. reUlondeb" gorthrwm a'r cleddyf oedd prif nodweddion hon. Mae'n wir mai rhaniad tybiedig a dychmygol o eiddo r meddwl Groegaidd oedd yr oesau a enwyd. Mi gredaf, serch hynny, nad yw y dosbarthiad yn gwbl afresymol. Mae gwyddoniaeth hanesyddol, ar wahan i dystiolaeth y Beibl, yn tueddu i gadamhau fod yna sail gref 1 r dybiaeth. Beth bynnag am hynny, gallwn fod yn sicr ein meddwJ ein bod heddyw yn byw yn yr oes werinol. Dywed ambell i broffwyd llygadgraff mai hon yw r oes olaf cyn dyfod cyfnod y Mil- flwyddiant. Dywedant beth mor gryf a hynyna ar sail eu dehongliad o arwyddion yr amseroedd. Yr wyf yn rhestru fy hun yn eu plith. Dywed greddfau anniwalladwy ac an- esmwyth gwerin y byd heddyw fod yna rhywbeth mawr yn yr ymyl. Agorer y Beibl yn ddiduedd a darllener ef yn ddeallus, ac fe wehr mai oes ydyw hon a phroffwydol- iaeth bendant wedi ei roddi ynglyn a hi. Gresyn, onide, bod dynion yn cymeryd amynt i feirniadu y Beibl, ac heb erioed ei ddar- llen? Faint o bwys, yn enw rheswm noeth, y gellir ei osod ar fam dynion am y Gy,frol Ysbrydoledig, a hwythau mor dall iddo a thwrch daear i'r haul? Dyweded a ddywedo, dyma'r oes olaf yn ol Gair Duw; ie, ac yn ol tystiolaeth greddfaiu bywyd. Heb fynd ymheliach ar 01 y wedd yma ar yr oes werinol, gadawer i ni yn awr ddod wyneb yn wyneb a' r pwnc sydd ger bron, sef y deffrOad gwerinol. Gwnawn hynny trwy ofyn tri o gwestiynnau uniongyrchol mewn cysylltiad ag ef. I. Yn gyntaf, beth sydd wrth wraidd y cynhwrf neu'r deffrOad gwerinol? Beth yw'r achos neu'r achosion gyfrifant am dano? Nid oes angen eich darbwyllo chwi, o bawb, y rhaid fod yna achos neu achosion real iawn ddeffroad mor rymus ac eang a welir heddyw. Dywed rhai nid yw y cynhwrf ond gwaith cynhyrfwyr penwyllt a dilywodraeth. DywediT hyn, sylwer, nid yn unig gan liaws uchelwyr digydymdeimlad a delfrydau gwerin byd, ond dyma fam gan mwyaf o'r werin ei hun. A yw yn gywir? Atebwn, yn ddibetrus, Nag yw. Mae'r esboniad yn un rhy hawdd a chyfleus i draethu yr holl wir. Rhodder taw, meddai y dynion hyn, ar y cynhyrfwyr penboeth ac hyawdl eu tafod, dyna r deffroad neu'r cynhwrf yn, dibennu mewn dim. Nid cam a'r dynion hyn yw dweyd am danynt nad ydynt yn deal! eu hunain ddechreu, heb son am ddeall Eraill. Breuddwydio ar ddihun y maent. Hwyr neu hwyrach, daw dydd eu didwylliad! Os yw yn ngallu penboethiaid i greu deffroad mor fyd-eang a'r hwn yr ydym yn ei ganol heddyw. yna dywedwn eu bod yn ymylu ar fod yn hollalluog. Na, yr oil wna y cyn- hwrfwr penrydd yw cam-gyfeirio y deffroad, ac nid ei wneud yn bosibl. Mae ei achos nid ynddo ef, ond yn ngreddfau dyfnaf y werin. Onribae fool y greddfau hynny wedi ym- deffro. diallu hoillol fuasai y penwyllt. Nid oes gennyf rithyn o gydymdeimlad a dynion penboeth mewn byd nac eglwys; ond yr wyf yn edmygwr hanner-addolgar o bob dyn deffroedig ei feddwl a'i galon. Onid y rheol ddieithriad yw fod y penboethyn yn y diwedd yn diffodd pob deffroad. Efe sydd yn cyfrif am bob adweithiad (reaction). Cyfle'r auto- crat yw eithafion, y penboethyn. Yr hwn na chred hyn, ni chred i'r haul godi. Nid dyn r haul godi. N??*d d 1 i'w gefnogi felly yw penboethyn, ond Ïw ddisgyblu ac i' w gadw ar reiliau prif-ffordd y greddfau. Pam hynny? Oherwydd mai dyn yn tasgu ydyw uwchlaw drychiolaeth ddychmygol. GwêJ y byd ar ben, oblegid na wel ynddo gyfle iddo ef fod yn ben arno. Dyn hunanol ydyw oddimewn iddo ei hun. Byrhoedlog yw pob deffroad rydd yr awenau yn Ilaw yr eithafwr dibarch o hawliau Duw. Gyrru' r cerbyd i' r ffos yw ei hanes ymhob oes a gwlad. Nid oes ond y sobr ei feddwl a'r pur ei galon fedd hawl gyfiawn i fod yn dywysydd (guide) Ïr werin mewn oes mor gynhyrfus a hon. Nid y cynhyrfwr herfeiddiol felly yw achos y deffroad pre- sennol. Rhyw greadur yw ef yn ymborthi ar waeledd dynion ac yn gloddesta ar eu diffygion. Nis gwna ddim ac nid oes ynddo allu i ddyrchafu cymdeithas. Nid yw amgenach na'r gwallgofddyn. Cymerwch gyngor gennyf—os na chymerwch, ys dywedai hen bregethwr-wag o'r blaen, chwi gewch ef —os byth y dowch ar draws y penboethyn, ciliwch oddiwrtho, ac fe dderfydd am dano. Gadawer i ni yn awr ymhellach edrych yn ddyfnach i achos y cynhwrf presennol. Mae'r dull poblogaidd o'i briodoli i waith dyrnaid o gacwn pigog yn hollol anfoddhaol fel dehongliad. (1) Cyfyd yr achos dyfnaf ohono o gyfeiriad crefydd. Mae hwn yn ddywediad go hynod ar un olwg. Beth sydd a fynno chrefydd a deffroad fel hwn? Pa berthynas ddichon fod rhyngddo a chrefydd o bopeth? Ai cellwair ydych neu ynte a ydych o ddifrif? Atebaf yn ddiymdroi er mwyn tawelu eich meddwl fy mod yn meddwl yr hyn a ddywedaf. Dywedaf ef unwaith yn rhagor. Yn wir, yn wir, yn y gwae,lod dwfn, achos pob cynhwrf gwerinol yw cynhwrf crefyddol. Wrth hyn y golygwn fod ysgydwad y greddfau crefyddol, sef greddfau disigl y natur ddynol, yn blaenori ac yn achosi ysgydwad y greddfau economaidd ac ymarfer«l. Gobeithiaf fy mod wedi gwneuthur y gosodiad hwn yn ddigon pendant a diamwys. Er mwyn egluro ein meddwl, awn yn oli ddyddiau Calfin a Luther. Dyma ddeuddyn buont yn ysgwyd Ewrop benbwygilydd. Yn rhyferthwy byth- gofiadwy y deffroad Protestanaidd deffrodd gwerin Ewrop gyntaf. Gwir mai deffro yn uniongyrchol wnaeth y pryd hwnnw i w hangen ysbrydol a thragwyddol; ond y mae pwy bynnag sydd yn hyddysg yn hanes y byd yn gwybod fod dynion y pryd hwnnw hefyd wedi deffro yn anuniongyrchol i'w hangen.ion tym- horol. Wrth greu syched am Dduw, crewyd syched hefyd am fywyd cymdeithasol mwy cydnaws ag hawliau dyn fel dyn. Mae'n wir fod yna gryn wahaniaeth yn syniad Calfin am ddiwygio a'r eiddo Luther. Gwahan- iaethu oeddent yn y moddion, ac nid yn y dyben mewn golwg. Adeni yr unigolyn oedd pwrpas Luther. Nid oedd ef yn ewyllysio creu eglwys newydd. Dyna'r rheswm paham y mae' r eglwys Lutheraidd a' r un Babaidd mor debyg i w gilydd. Adeni cymdeithas oedd pwrpas Calfin. Cyhoeddodd ef anathema uwchben yr eglwys Babaidd, a mynnodd sefydlu eglwys newydd mwy cydweddol a'r Testament Newydd. Iddo ef, medd Dr. Fair- bum, y mae Ewrop yn ddyledus am bob sefydliad rhydd. Nid dweyd hyn yr ydwyf am fy mod yn Fethodist Calfinaidd, ond am dyna ffeithiau hanes. Calfin, cawr-feddyliwr y Diwygiad Protestanaidd, oedd y cyntaf i fyned ati o ddifrif i dorri cadwynau gormes ac hualau caethiwed. Yr oedd eraill wedi cynnyg gwneud hynny o'i flaen, ond wedi methu. Yn ganlynol i'r Diwygiad Protestan- aidd gwnaeth gweriniaeth gamrau breision i gyfeiriad rhyddid gwladwriaethol. Decheu- odd o ddifrif fyned allan o'r Aifft ar waethaf bygythion ami i Pharaoh digydwybod. Dar- llener hanes y cyfnod ac fe welir fod y deffroad crefyddol wedi bod yn achos deddf- wriaeth fwy rhydd a thirion a mwy cyd- weddol ag urddas dyn fel dyn. Bwrier golwg drachefn ar ddeffroad crefyddol y ddeu- nawfed ganrif. Hwnnw, fel mae'n hysbys, rhoddodd fod i'r Ysgol Sul yng Nghymru. Yn arbennig ceir yn yr Y sgol hon ddeiliaid _1 11 canoi oea, nen ac leuamc. Umd hyhi fu magwrfa a mamaeth meddwl y Cymro? Onid yma y dysgodd y Cymro ddarllen a meddwl drosto ei hun? Onid yn hon y dihunwyd ei gynheddfau? Credaf na fuasai deffroad gwerinol yn bosibl onibai am yr Ysgol Sul. Rhaid greddfu hawliau Duw cyn y gellir deffro greddfau y werin. Credaf mai yng Nghymru, yn anad un wlad, y ceir cych- wyniad pob deffroad gwleidyddol yn union- gyrchol neu anuniongyrchol. Y mae y deffroad, gwerinol yn dilyn camrau y deffroad crefyddol yn ddieithriad. Mor anniolchgar o ddall yw'r dynion hynny felly wadant hawl y dwyfol ar eu gwarogaeth. Pe bai eu j gwybodaeth o hanes yn ddyfnach, hwy gyd- j nabyddent ar y ddeulin eu dyled i grefydd. Ond dyna-beth da! son. Y mae liaweroed? heddyw wedi myned o dan gyfaredd y diafol j ) r ifath raddau fel y mae yn gallu eu cadw I yn gaeth yn ol ei ewyllys. Llywodraethir hwy nid gan rheswm a tfydd, ond gan fym- pwy a nwyd anniwalladwy. Achos arall y deffroad gwerinol oedd y Chwyldroad Ffrengig. GeHir galw hwn yn achos anuniongyrchol. Darfu i'r cynhwrf hwnnw gynhyrfu gwerin gwar pob gwlad i fesur mwy r.eu lai. Daeth y werin i deimlo'i gadwyn sydd yn gwaseiddio yn rhyferthwy hwnnw. Cyfnod agor Ulygaid oadd hwnnw, ond i'w cau eilwaith. Mae'n wir i'r deffroad hwnnw rhodd I bod i laweroedd o bethau annymunol, ond ni chafodd y werin eu hawliau drwyddo. Ar luman y cynhwrf hwnnw oedd y cyfenwau, "Rhyddid," "Cyd- raddoldeb," Brawdoliaeth." Dyma rhyw- beth o 'r diwedd, ebai gwerin Ffrainc, gwedi troi'r byd wyneb i wacred er mwyn ei gael yn beth ymarferol. Ond druain ohonynt, ni ddarfu iddynt ddefnyddio' r moddion oedd yn cyfateb i'r pwrpas mewn, golwg. Twyllasant eu hunain, neu, > yn hytrach, fe'u twyllwyd i gredu mai dyna'r un peth oedd eisieu i gael rhyddid oedd cael gwared o' r duciaid a' r arglwyddi. Ni fu y fath gamgymeriad erioed. Un peth oedd cael gwared y duciaid a' r uchelwyr diras a digydwybod; peth arall oedd cael gwared ar hunan-gais brwnt ac aflan. Wrth symud o'r ffordd y gwyr mawr," fe Ijymrodd y gwýr bach" eu lie. Dyna' r oil ddigwyddodd oedd symudiad gorthrwm o r uchelwr i'r gwerinwr. Y dynion waedd- asant fwyaf am ryddid fu y gwaethaf i gaethiwo. A lwyddodd y Chwyldroad hwnnw? Do a naddo. Mor bell ag y mae ambell i ystorm ar ei hynt yn teneuo y goed- wig, fe lwyddodd. Bu yn foddion i ddwyn delfryd y werin yn fwy i'r amiwg. Mor bell ag yr oedd mudiad gwirioneddoi yn y cwestiwn fe fethodd yn druenus. Paham hynay? Am y rheswm fod y cynhwrf wedi methu gwahaniaethu rhwng yr hanfodol a r I digwyddiadol. Yr oedd arwyddeiriau y Chwyldroad wedi eu gosod o chwith af fanr gweriniaeth. Peth ag sydd gan bro fwerin hawl iddo yw rhyddid, ond cheir mo hoao ond ar liwybr yr Efengyl. Gwrthdroad ar egwydd*rion cymdeithas yw pob Chwyldroad, a dyna pam y metha yn ddieithriad. Beth olygwn wrth hynny? Wel, hyn. I gael rhyddid, rhaid peidio byw i rhyddid. Mewn geiriau eraill, yr oedd arwyddeiriau y ChwyI- droad Ffrengig wedi eu gosod wyneb ) waered. Rhaid newid order y cyfenwad. Rhaid gosod Brawdoliaeth, Cydraddoldeb, Rhyddid yn lie Rhyddid, Cydraddol- deb, Brawdoliaeth." Dim ond brodyr eill fod yn rhydd mewn gwirionedd. Neu mewn geiriau gwahanol, y mae gorbrysuro delfrydau yn atal eu dyfodiad. Nid y ffordd feraf yw'r ffordd i ryddid. Ni cheir brawdoliaeth trwy gyfrwng y guillotine. Fedr hwnnw ddim difodi hunangais. Nid trwy dorri pennau dynion y'u gwneir yn rhyddion, a gosod eu hunain yn babau anffaeledig uwchlaw pawb phopeth. (I'w barhau).

Lloffion o Lanfihangel.I

Nodion o Frynaman.I

'Y JOINT COMMITTEE.

BRYNAMAN.

Ammanford Annual Brewster…

HENDY.