Hide Articles List

14 articles on this Page

THE OMNIBUS.I

Ammanford Police Court.

N.S.P.C.C. AND CHILD NEGLECT..…

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

Attodiad ac Adolygiad ar Hen…

News
Cite
Share

Attodiad ac Adolygiad ar Hen Ysgrif. [Gan y Parch. FFINANT MORGAN, I B.A., B.D., Glanaman.] Y RHYFEL. I Tachwedd 26, 1870. Wei," medd rhywun, beth am y rhyfel yn awr? A oes dim argoel am hedd- wch? Nac oes dim. Mae y rhyfel hwn yn parhau mor ffyrnig ag oedd er ys dau tis yn ol. Ymddercgys fod yr Almaniaid yti penderfynnu cymeryd Paris os gallant, a rhwygo Ffrainc yn ddarnau yn eu cynddeiriog- rwydd. Os na lwydda Bismark a'r Brenin William yn eu hamcan dialedd, i wrolder y F francod eu hunain y bydd i Ewrop ddiilch, y rhai ydynt yn dechreu adfywio ar ol yr ergyd a gawsant ar ddechreu y rhyfel ac yn cryfhau pob- dydd. Mae ganddynt yn awi fyddinoedd newydd a lliosog, ac y mae'i milwyr fwy tan ddisgyblaeth nag oedd byddin yr Ymherawdwr, yr hon a ddinystrwvd yn Woerth a Sedan. Nid oes yn awr c'dirn amheuaeth nad yoprif achosion o' u dinystr oedd aflywodraeth y milwyr ac anfedrusrwydd yr ofifcers, ac nid, fel y meddylia llawer, dewrder yr Almaniaid a medrusrwydd milwr- aidd Von Moltke. Mae'r Almaniaid wedi llwyddo hyd yma am fod y fyddin ymherodrol wedi myned yn llygredig a diwerthi. Y m- ddengys fod Moltke yn fawr am fod oiffcers Napoleon wedi ihoddi mwy o' u bryd ur blescr nag ar eu galwedigaeth filwrol. Mae Ffrainc yn awr wedi dyfod i wybod pa le yr oedd ei gwendid, 4c yn penderfynnu gosod terfyn ar y fath gyflwr gwarthus yr oedd ynddo. Dysgant wers sydd wedi costi iddynt yn ddrud, ac nid ydynt yn debyg o'i hanghofio yn fuan. Gwers ydyw a grea ysbryd newydd yn Ffrainc mewn mwy nag un ystyr. Nid oes eisiau doniau proffwyd i ragweled y byda Ffrainc mewn ychydig- flynyddau yn gryfach nag y bu erioed. Bydd ganddi hefyd fyddin- oedd cryfach na fu ganckjt erioed, ac officers mwy medrus a bucheddol. Mae yn flin meddwl, ond gwae fydd eto j'r Prwssiaid., Maent yn hau yn awr yn F frainc hadau rhyfel. Bydd eu hymddygiad barbaraidd a lladronaidd yn F frainc yn sicr o ddwyn dial chwerw ar eu pennau. Maent yn gwyjeuthur ffiangell a ddisgyn ryw ddydd yn drwm ar eu gwarrau. Pe byddai yr Almaniaid yn. ysbeilio Ffrainc yn unig o ymborth, ni fyddai 4jm I cymaint i ddweyd ond ysbeiliant pob ty nid yn unig o ymborth, ond o bopeth allant gludo ymaith--oriorau, awrleisiau, canwy llbrennau, sidanau, ac hyd yn od teganau plant! Mai yw popeth ddaw i felin Max. Y dodrefn na allant gludo ymaith a dorrant yn goed tan, ni waeth pa mor hardded fyddo y dodrefn. Dywedir fod yr officers-plant pendefigim- yn fwy lladronaidd na'r milwyr cyffredin. Pe gwnaethai ein milwyr ni yn Yspaen tan Wellington y fath beth gwarthus a hyn, yr ydym yn sicr y saethasai pob enaid ohonynt. Yr oedd yr ysbryd lladronaidd hyn yn yr hen Blucher, yr hwn, pan ymwelodd a Llundain wedi brwydr Waterloo, a waeddodd allan mewn syndod, O! dyma ddinas i'w hysbeilio! Da gennym ddweyd fod Paris yn dal allan yn wrol hyd yn hyn. Dywedir gan rai ddaethant allan mewn balloons yi wythnos hon fod ynddi ddigon o ymborth dros ddau neu dti mis yn rhagor. Mae magnelau y Prwssiaid, medd Dr. Russell, yn rhy bell oddiwrth y ddinas Ïw chyrhaeddid, am fod yr amddiffynfeydd rhynddynt a bi, ac mai gorchwyl lied galed fydd ei gorchfygu. Dywedir fod Bismark yn anesmwyth ei feddwl ac yn ceisio dangos 3rwyneb oreu i'r milwyr, y Thai ydynt yn lied anfoddlawn ar eu cyflwr. Mae'r Almaen hefyd yn dechreu grwgnach oherwydd y draul. Fel ar eraill o blant Adda, nid oes dim a effeithia yn gynt ar galon Max na rheswrn y llooell. Pethau anhepgorol i gario y rhyfel ymlaen yw mag- nelau mawrion, ac y mae'r Ffrancod yn fyr o'r pethau hyn Credaf fod Prwssia a Rwssia yn dealt eu gilydd, ac y byddai yr olaf yn gwneud ail gynnyg yn fuan ar Twrci, oblegid fod Ffrainc yn analfuog i'w gwrth- wynebu. Mae ein tyb wedi troi yn ffaith. Yr oedd yn eithaf amlwg i bawb, oddieithr, I feallai, î n llywodraethwyr yn Downing Street fod cytundeb ddirgelaidd rhwng y ddau bwer a enwasom. Mae Rwssia yn brysur yn parotoi i ryfel, a dywedir ei bod wedi parotoi ym Mor Asof nifer fawr o haiam-longau rhyfel. Am hynny, y mae'r sefyllfa yn bre- sennol yn ddifrifol. Y pwnc yn awr yw a awn ni i rhyfel, neu yn hytrach a adawn ni i Rwssia dorri ei chyfamod? Os awn i rhyfel, byddwn yn llawer gwannach nag o'r blaen, gan nas gall Ffrainc y tro hwn ein cynorthwyo, yr hyn a wyr Russia yn eithaf da. Am Awstria ac Itali, mae yn amheus yn eu cylch. Dichon y bydd gormod o ofn Prwssia ar Awstria. Os awn i rhyfel a Rwssia, cymer Bismark a'i feistr William afael yn Belgium. Os awn i rhyfel a Rwssia, beth fydd 60,000 yn erbyn 250,000 ag y mao/Rwssia yn barod i'w danfon i'r maes? Dechreu yr ydym ni eto deimlo ein colled ar ol Ffrainc, ac i weled y camsyniad a wnaethom i ochri Prwssia, yn enwedig ar ol cwymp Louis Napoleon yn Sedan. Awydd am daleithiau hyfryd Alsace a Lorraine gyffrodd y Prwssiaid i ymosod ar Ffrainc. Dyledswydd Lloegr y pryd hwnnw oedd dweyd yn eglur wrth Prwssia, Os cariwdl chwi y rhyfel ymlaen ym mhellach, y ma# i chwi ddeall nad allaf fi oddef i Ffrainc gael Û dinistrio gennych chwi na neb arall." Yn lie hynny, gadawsom i Prwssia fyned ym mlaen a'i gwaith melldithiol yn Ffrainc. Cofier yr oedd merch ein Brenines yn briod a mab Brenin Prwssia, a Paris wedi gosod i fyny werinlywodraeth. Dywedir yn y papurau i un o'r Bavariaid amcanu lladd y Brenin William, ond diangodd mewn pryd. Ni rhyfeddem nad yw yr hanes yn wir, oblegid gwýr priod yw y rhan fwyaf o'i fyddin, ac y maent wedi blino ar y rhyfel. Dyna'r ysgrif, ddarllenydd hynaws! Pwy yw'r awdur, ms gwn ond gwn un peth hyd at sicrwydd-ei fod yn meddu ar ganfyddiad treiddgar ac ar amgyttrediad byw ac lioywo Nis gall undyn ddarllen y sylwadau gydag unrhyw radd o feddylgarwch heb weled I liynny. Medd, yn ddiamheuol, ar lygad proffwyd. Dyn ydyw yn rhodio yn llewyrch gyveledigaeth, ac yn meddu ar ddewTder i gydfyned a hi. Os ydyw yn awr ar dir y byw, beth all fod ei deimlad wrth jveled ei broffwydoliaeth yn cael ei chyilawm bron yn llythyrennol? Des o hyd ï r ysgrif mewn das* o hen gylchgronau llwydion. Darllenais hi yn synllyd drosodd a throsodd, a bum am ysbaid yn pwslan fy mhen ami (Chwedl pobl Glan Teifi). Hawyr bach!" meddwn, 1. pwy wad nad yw proffwydo yn ddawn? Pwy wad, hefyd," meddwn, nad yw rhod Rhagluniaeth yn troi? A wado hyn gwaded ei eni a boed farw." Ar ol sylw cyffredinol fel hyn am dani, gadawer i ni, yn awr, fwrrw golwg mwy manwl drosti. Dilynwn gamrau a lb l ynwn gamrau meddwl yr awdur ei hun. 0 wneud hynny, deuir ar-draws y ffeithiau canlynol (myfi sydd yn gyfrifol am italeiddio gwahanol gyfeiriadau yn yr ysgrif)Gwelir. yn gyntaf -oil, mai rhaib uchelwyr digydwybod yw achos uniongyrchol pob rhyfel rhwng gwiedydd a'u gilydd. Gellir edrych ar Bismark a William fel yn cynrychioli y bwystfil gwaedlyd a thrachwantus sydd yi, cyfaneddu y natur ddynol o dan lywodraeth pechod. Nid yw cryfder milwrol ond cyfle i'r bwystfil ddat- guddio ei hun. Nid oedd Bismark ac nid yw Bemhardi yn waeth nag eraill o angenrheid- rwydd. Rhaib yw prif neilltuolrwydd addolwr grym ym mhob gwlad. Mae Ar- lywydd Wilson wedi bod yn ddigon gonest i gydnabod hyn. Eiddunwn ei Iwydd yn ceisio cyfyngu ar rhaib y bwystfil milwrol. Creu- lawn a gwaedlyd ydyw hwnnw He bynnag y ca gyfle, pa. un ai yn y Caisar ynte yn Lenin a Trotsky. Yr un ydyw yn yr uchelwr a'r gwerinwr. Nid yw Bolshefyddraeth ond enw arall ar Gaiseriaeth, a dweyd y lleiaf. Mewn graddau, y mae'r blasnaf yn anrhaethol waeth na r olaf, serch mae' r un ydyw yn ei natur a thueddfryd. Gresyn ein bod mar dueddol ac annheg ag unrhywiaethu y Sosialydd a'r Bolshefydd.. Nid oes mwy o berthynas rhwng y Sosialydd cyfansoddiadol a'r Bol- shefydd ag sydd rhwng tywyilwch a goleuni. Diwygiwr gwleidyddol yw y Sosialydd, ond chwildroadwr penrydd ac annuwiol yw'r Bol- shefydd esyd ei droed yn ddidrugaredd ar wddf cyfiawnder, ac a boera yn wyneb pob deddf yn ddigywilydd. Mudiad yn gorseddu y diafol ydyw yn lie Duw; ie, mewn gair, mudiad ydyw rydd y ffrwyn ar war yr anifail gwyllt. Nid yw mewn gwirionedd ond addolwr grym gwaedlyd. Ni l I cha'r gwerinwr ei hawliau tra y byddo'r bwystfil ar yr orsedd. Nid yw penrhyddid ond gwedd arall a gwaeth ai gaethiwed gormesol. Unwaith eto gwelir fod yr awdur yn bygwth gwae ar y Prwssiaid, a dial chwerw air eu rhaib lladronaidd. Onid yw hyn, bellach, .wedi ei wireddu yn llythyrennol? Onid yw y Prwssiaid eisocs wedi dwyn dialedd .ar eu pennau? Mor wir yr hen ddywediad Cymraegf Yr hwn a laddo a chleddyf a leddir." Dywed naturiaethwyr fod adar h r-aden log yn cael eu twyllo gan yr aden i hedfan weithiau yn rhy bell allan 1 r mor; ac fod miloedd ohonynt yn trengu cyn dychwelyd. Un ddefnyddiol iawn yw'r aden hir, ond aden beryglus, serch hynny. Onid ynfydrwydd milwrol y Caiser yn ym- ddiried yn yr aden hir esuonia ei gyflwr gresynus heddyw? Ai nid gwell fuasai i' r Almaen pe na roddasai ei llaw llechwrus ar Alsace a Lorraine? Onid yw yr aden hir (grym milwrol) wedi dwyn dialedd yn grug- lwyth ar ei phen? Pa bryd, atolwg, y daw y gwahanol genedloedd yn ddigon call i beidio ymddiried yn yr aden hir? Onibae fod Prydain wedi l arfer synnwyr anarferol, buasai hithau, oherwydd yr aden hir, wedi mynd i lawr. Beth yw ystyr Cynghrair y Cenhedl- oedd? Onid hyn, sef ceisio hyrhau yr aden hir, ac felly symud y brofedigaeth i rhaib a thrachwant? Cyfeiria yr awdur at un peth diddorol iawn yn yr ysgrif. Dywed fod yna gytur.deb I cudd" rhwng Prwssia a Rwssia yn ystod y cyfnod cynhyrfus y cyfeiria ato. Yn ol fy marn un o amodau hanfodoi heddwch rhwng cenhedloedd yw dinoethiad pob cytundeb. cudd. Mae diplomyddiaeth lechwrus >n bla yn Ewrop, ac yn waradwydd ar wareiddiad. Yn hyn o beth y mae Prydain mor euog ag unlrhyw deymas. Gobethio y gwna "Cynghrair Gweithwyr y Byd" roddi atalfa oesol ar y balance of power." Magwrfa gelyniaeth a rhaib ydyw hwnnw. Coreu i gyd po gyntaf y ca ei ddifodi. Wrth derfynnu, dymunaf ddweyd mor hyglyw ag sydd bosibl, na cheir heddwch parhaus hyd nes y daw y cenhedloedd i dalu gwarogaeth ysbrydol i Dywysog Tangnefedd. Y mae gobaith y byd ynddo Ef. Rhodder felly iddo Ei Ie. Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd -dyna Ei ffordd Ef I sefydlu brawdoliaeth gyffredinol. Cofier y gellir cael gwared o'r Caiser, a'r bwystfil i wro l mor fyw milwrol mor fyw ag erioed. Nid oes ond Ysbryd Crist yn unig fedr wneud i ffwrdd ag ysbryd y Caiser. Cofied gwerin Ewrop y wers os gwna gyfsanogi o ysbryd Wilhelm ei pherygI hithau fydd methiant a gwarlh. Gwareder hi felly rhag Bolshefyddiaeth; hynny yw, Caiseriaeth.

Lloffion o Lanfihangel.

I ER COF !

I BLODEUGLWM HIRAETH

IY CRI AM FWY 0 DDIODYDD MEDDWOL.

ILlandilo Board of Guardians.…

I Y FRIALLEN. :

I ER COF:t

IDliLCH I DDUW AM Y FUDDUGOLIAETH…

I ATGO