Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

THE OMNIBUS.I

How Shall We Build the New…

Random Recollections of Llandovery.

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

-___-__--ILloffion o Lanfihangel.

News
Cite
Share

Lloffion o Lanfihangel. Yn y Cronicl am yr wythnos 4ddiweddaf, sylwais fod Budha," Gwynfe, yn cael ei flino gan haerllugrwydd cymdeithasol y merched. Wel, credaf eu bod yn hawlio yr arferiad newydd, oherwydd fod votes gan- ddynt; ond ofnaf hefyd fod llawer o un- employed ac old-age yn eu plith. Buddiol iddynt fuasai astudio mesur oed ran y farchnad. Deallaf fod arweinydd Cor Undebol y cylch ar fin ymadael o'r lie. Trueni yw hyn, gan fod cymaint o lwyddiant wedi ei ddilyn yn y gorffennol. Pwy fydd yr arweinydd newydd, tybed? Beth am yr A.L.C.M.? Nos lau diweddaf, yn y Church Hall, cynhaliwyd cyfarfod anrhegu Mr. Phylip Roberts, Glynhenilan. Mae ef ar ymadael o'r lie i'r meysydd offeiriadol. Rhwydd hynt iddo, a chredaf yn ddiamheuol sicr y dilynir ef a Ilwyddiant mawr, oblegid eu gymhwys- terau digonol i ymgymeryd a'r gwaith. Profodd ei gymeriad dilychwin yn ofnadwy- aeth i watwarwyr, a gwnaiff ei ysbryd lled- nais ennill arddeliad Duw ar ei weinidogaeth. Mae cyflwr cynyddol y plwyf wedi ennill sylw y Llywodraeth, nes fod y cynhygiad wedi ei osod ger bron am nifer luosog o dai dan yr Housing Scheme newydd yma sydd yn ffynnu yn y wlad. Bu cyfarfod ar y mater n Festri Carmel nos Sadwrn diweddaf, a chlywais fod yno lawer o lefaru a thafodau dieithr, oblegid oeddent yn methu deal! eu gilydd. Gohiriwyd ef a.-i bythefnos. Deallaf hefyd fod syched anithrol trigolion Carmel wedi ennill sylw y cyfarfod. Dad- leuasant fod cant neu ddau o latheni yn ormod i gyrchu dwr o lygad y ffynnon, ac fod rhaid ei gael wrth y ddor. Chwarae teg, mae cyfleusterau wedi dyfod cystal yn awr, nes teimlaf fod hyn yn dra rhesymol; gwell hyn na marw o syched. Beth nesaf, tybed? Brenin braw sydd eto ar ei orymdaith drwy'r cylch. Cydymdeimhvn yn fawr a Mr. a Mrs. Lewis, Gambi, yn en tr&llod dvrys ar ol hebrwng eu hefeilliaid bychain i'r fyn- went brudd, diwedd yr wythnos. Er gwaghau o'r aelwyd, hwy addurnant goron yr lesu. Eiddo y cyfryw rai ydyw Teymas Nefoedd." Dydd Llun diweddaf, claddwyd, yng Ngharmel, Mrs. Williams, Tirgroes, Der- wydd. Byr fu ei chystudd, ond yn ddigon llym i wahanu y corff a'r bywyd, a gadawodd alaru ar ei hoi briod ieuanc a phlentyn bychan annwyl. Nodded y Nef dros y cyfryw yn eu hamddifadrwydd blin, a nerth gaffo'r galarwyr oil i sychu eu dagrau yn y gobaith gwyn o gael eto gwrdd yr ochr draw. Gwasanaethwyd gan ei gweinidog parchus, y Parch. J. Thomas, a Mr. Williams, Peny- Parch ? eddwch i'w llwch. AERO.

WYTH AWR " GWYR -Y -TOP."…

TANT PRIODASOL I

I---BRYNAMAN. I

FOOTBALL TOPICS.^53#

[No title]