Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

Ammanford Police Court.

Ammanford Urban Council. I

AT EIN GOHEBWYR AC ERAI LL.

[No title]

[No title]

Lloffion o Lanfihangel.I

IENCLYN I

Y FANER GOCH. I

SWN Y DEFFRO. I

Y GWEITHIWR. I

GEFNOGAI'R IESU RYFEL?

Y DARAN.

Y WYNFA DLOS.

IY DDEILEN OLAF.

LLINELLAUI

I GWRTHWYNEBWR CYDWYBODOL

I CWYN COLL.

News
Cite
Share

I CWYN COLL. Cyflwjnedig i'r Parch. D. Lloyd Griffiths,. Tirydail, ar ol ei annwyl a'i unig ferch. Gwynneth, yr hon a gollodd ei bywyd yn annhymig trwy foddi yn Afon Lash, yn bum mlwydd oed. ) Myfi yw, nac ofn'-vch." Gwaith anodd ydyw rhoddi Ei eiddo' n ol i Dduw, Er gwybod eu bod hwy yn mynd I loewach byd i fyw Pan ga y galon flodyn, A'r dwyfol ar ei wedd, Gwell ganddi farw na rhoi gwrid Ei wyneb yn y bedd. Ni wn am ddim mwy pruddaidd, Nac ingoedd mor ddi-hedd, Na i fam roi eilun serch ei bron Dan gloion oer y bedd; Ei gobaith gwyn yn bcdd 'n Annhymig ganol dydd. Tra'i hysbryd mewn cynhyrfus frav, Yn crynnu ar ei grudd. Gyfeillion trallodedig! Pe gallwn, rhown fy mraich A f'ysgwydd yn fy ngalar syn I gario rhan o'ch baich. Ond er agosed atoch, Rhy bell yw fenaid i I gario dim o' r gofid sydd Yn eich calonnau chwi. Mae'r syniad rod eich Gwynneth A" thlysni'n fud a gwyw, Yn gwasgu f'enaid bron i ddweyd Fod bai yn nhrefn fy Nuw. Oedd raid i'r Hit ei chipio I gwmni'r Nef cyn pryd? Creu aflonyddwch mae y ffaith Yng ngwraidd fy serch o hyd. Gwaith rhwydd yw dweyd mewn geiriau Nac ofnwch, Myfi yw," Ond gorchest oes fydd canu' r Cair- Fy Nhad sydd wrth y llyw." Mi wn fod lesu'n caru Edrychiad Gwynneth fwyn Ond mae yn anodd peidio dweyd Na ddylai Ef ei dwyn. Mi wn pa fodd y teimlai Fy mrawd y dwthwn erch Y bu yn chwilio r afon ddu Am wrthrych pur ei serch. Ond gwn bydd hedd agored Y ng nghraidd ei galon friw, Tra byddo ef heb groesi'r ffin Ar ol ei eneth wiw. Fy mrawd a'm chwaer mewn trallod. 'Dyw Iesu byth ymhell Oddiwrth yr ysbryd sydd dan faich 0 hiraeth yn ei gell. Nid wyf yn dweyd-na wylwch, Doeth ydyw trefniant Duw Mewn stormydd y mae'n dweyd o hyd, Nac ofnwch, Myfi yw." B. H. JONES (Mab-yr-Awen). Penygroes, Llandebie.

GWAUN-CAE-GURWEN.

I CAERBRYN.