Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

Ammanford Police Court.

Ammanford Urban Council. I

AT EIN GOHEBWYR AC ERAI LL.

[No title]

[No title]

Lloffion o Lanfihangel.I

News
Cite
Share

Lloffion o Lanfihangel. I Dydd Calan, cynhaliodd Eglwys Carmel ei gwyl bregethu flynyddol. Eleni pregethwyd gan y Parch. T. Roberts, Penybanc, Aman- ford. Cafw/d cyfarfodydd llwyddiannus er dyfnhau y bywyd ysbrydol yn y lie. Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd cyngerdd croesawi yng Nghapel Milo, pryd y gwobrwy- wyd wyth o filwyr y cylch ar eu dychweliad adref. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchn. W. Bowen a T. Thomas. Y rhai gyfranodd a'u talent at lwyddiant y rhaglen oeddynt Miss Olwen Stephens, Miss Eunice Thomas, A.L.C.M., Mri. J. Griffiths, W. Watkins, D. Jones, W. Beynon, Llandebie, a D. Thomas, Llandebie. Terfynwyd cyngerdd hwylus trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Yn yr un cyfarfod, gwobrwywyd Priv. W. Jones, Rhydgoch, a chydnabyddiaeth ych- wanegol o fountain pen ar ei orchestw,ith yn ennill y Military Medal. Da iawn, Billo. Haedda ragor wedi tair blynedd o wasanaeth ffyddlon ar feysydd y gyflafan. Da gennym roesawi i'n plith y milwr dewr, J. Davies, Bryngwynefach. Wedi misoedd o garchariad yn nwylo y Germaniaid, mae eto yn rhydd o' u crafangau creulawn, ac wedi gosod ei draed yn ddiogel ar hen aelwyd hoff ei rieni. Mawr fu'r pryder am dano, ond derfydd mwy yn y Llawenydd o fwynhau ei felys gymdeithas. Brawychir y cylch gan gerddediad trwm yr haint beryglus, y 'f;:fliw." Mae llawer o deuluoedd Carmel yn dioddef o'i effeithiau, a rhai yn bur wael. Dymunaf adferiad buan i'r cyfryw. Bu y Parch. T. Thomas, Carmel, drosodd yng Nghaersalem, wrth droed y Mynydd Du, nos Sadwrn diweddaf, yn traddodi ei ddar- lith fyd-enwog, Telynau a Dorwyd yn Gynar." Diau i'r gynulleidfa yno, fel Ilawer cynulleidfa gynt, fwynhau eu hunain dan ei draddodiad blasus. Dea,llaf fod das un 0 ysgo i Deallaf fod trefniadau priodas un 0 ysgol- heigion y cylch ar waith. Ceir manylion pellach maes o law. AERO.

IENCLYN I

Y FANER GOCH. I

SWN Y DEFFRO. I

Y GWEITHIWR. I

GEFNOGAI'R IESU RYFEL?

Y DARAN.

Y WYNFA DLOS.

IY DDEILEN OLAF.

LLINELLAUI

I GWRTHWYNEBWR CYDWYBODOL

I CWYN COLL.

GWAUN-CAE-GURWEN.

I CAERBRYN.