Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

Llandilo Rural District I…

GARNANT. I

LLANDEBIE. I

LLANDILO. 1

IPENYGROES. I

[ BRYNAMMAN.I

I Eisteddfod at Llandebie.…

I BURIAL OF REV. PENAR GRIFFITHS.…

I Brynamman War Prisoner.…

DEMOCRACY OR ANARCHY?

IBRYNAMMAN UNITED SOLDIERS'…

-"_-._-__- - - - AT EIN GOHEBWYR…

[No title]

[No title]

. - _H_- ..-__n - n - -.-.-…

Lloffion o -Lanfihangel. I

News
Cite
Share

Lloffion o Lanfihangel. Nid amddifad y plwyf uchod o' i ddigwydd- iadau a'i newyddion, pa rai sydd yn deilwng o'u lie yn wythnosol yng ngholofnau y Cronicl. Cynhwysa bentrefi ami a bywiog, ynghyd a phreswylwyr dyfal ac urddasol. Yn naturiol felly, cyfyd o weithgarwch a rhamant gynhwysiad cyhoeddus teilwng i drigianwyr pell. Cynhaliwyd eisteddfod o fri yn y Church Hall, nos Iau diweddaf. Daeth cystadleuwyr megis o gyrrau pella' r ddaear ynghyd yno i ymarfer eu dawn. Deallaf ei bod wedi troi allan yn Hwyddiant mawr, ac fod codaid dda er chwyddo y drysorfa fendithiol er croesawi y milwyr a'r morwyr wedi deilliaw ohoni. Llwyddiant pellach i'r Gymdeithas a r cirysorf a. Ond er cymaint llwyddiant yr eisteddfod, methaf edmygu ymddygiad nythaid fechan o ——— gynhaliodd gyfarfod yn ymyl. Os na fedrwch werthfawrogi gwasanaeth y bechgyn ddioddefasant boethder y rhyfel yn amgenach na phoeri Ïw gwynebau megis, wel, braidd na ddywedaf, Trueni na chawsech eu profiad. Gwylied y sawl sydd yn tybied ei fod yn sefyU, na syrthied. Da calon gennym ydyw croesawi i'n mysg lu o ddewrion o' r meysydd gwaedlyd. Deallaf fod ilawer ohonynt wedi derbyn rhyddhad er dychwelyd at eu cyn-orchwyl. Yn fuan gwawried y dydd pan ddaw holl fechgyn y plwyf i fwynhau eu rhyddid cartrefol. Nos Nadolig, perfformiwyd y gantawd gysegredig, Gweithiau Crist." yng Nghapet? Carmel. Derbyniodd y gwrandawyr o aedd- fed ffrwyth ymdrechion Hafur y Cor. Am- lygwyd drwyddo ddiwydrwydd, ymdrech, a ffyddlondeb. Arweiniwyd gan y cerddoi wuanc, gobeifhiol, Mr. Esaiah Daies, yr hwn sydd yn gyflym ddringo yn tiwch hyd risiau cerddoriaeth. Pwy oedd y cyfryw ymdrechodd rwystro y gantawd am nad oeddent yn credu yn y fath sothach? Rhy gul, wir. Hunodd yn yr angau, yr wythnos ddi- weddaf, eneth ieuanc i Mr. a Mrs. Jones, Llettymawr, ger Pantyllyn. Claddwyd ei gweddillion marwol yn y Tabemacl, Llan- deilo. Heddwch i w Ilwch. Blwyddyn Newydd Dda i bawb. AERO.

DIARFOGIAD (DISARMAMENT).…

iEisteddfod Carmel, llandebie;

BUDDUGOLIAETH Y CYMRO.

IDYCHWELIAD Y BECHGYN.

I - BRYNAMAN.-