Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

THE OMNIBUS. I

Women at the Pithead. I

[No title]

[No title]

- - - - - - -O'R GADAIR WELLT.I

News
Cite
Share

O'R GADAIR WELLT. I [Gan IOLO CAERFYRDDIN.] I HEN URDD CWMAMAN A'R CYLCH. (All Rights Reserved). CADBEN OLIVER MEIRION JONES. I Cefnodd cannoedd ar gannoedd o fechgyn braf Dyffryn Aman a'u cartrefi clyd am faes y gad, ac y maent yn ymladd trosom ar fot a thir. Cwympodd lliaws o honynt yn eu gwisgoedd milwrol i' w beddau cynnar mewn estron dir, ac yn eigionau' r mor. Ysgwaeth- iroedd, danfonwyd amryw o honynt adref yn analluog mwy i wneuthur diwmod o waith. Nac anghofiwn aberth ein gwroniaid byw a marw, a'u teuluoedd yn eu cyni a'u colledion, eithr ymgeleddwn hwynt yn anrhydeddus, canys hyn yw ein rhesymol wasanaeth. Ymunodd nifer fawr a'r Llynges, ac nid peth dieithr yw'r NaVy Blue mwy na'r Khaki yn yr hen fro annwyl. Alltudiwyd yr hen got goch gan y ddau liw hyn, ac ni welir yr hen Filitia mwy. Bu ambell hen filwr yn yr hen ardal cyn y Rhyfel Fawr bresennol, megis Richard William, yr ysgolfeistr, a ddych- welodd yn iach o Frwydr Waterlw. Gan- wyd yr hen filwr dewr mewn bwth ar lethr I CADBEN 0. M. JONES. Craig Brynlloi, eithr gwedi gorffen trin y cledd, bu'n cadw Ysgol Ddyddiol yn Ynys- ccffyl, ger Corsaf Glanaman. Oddiyma symudodd ï r Garnant, lie yr adeiladodd dy, yr hwn enwodd yn Ty'r Ysgol," gerllaw Gwaun yr Esgair, ond a elwir heddyw yn Woodland Castle gan ddisgynyddion glasdwr- aidd y ffop Richard John Davies! Bu 'nhad am ychydig amser yn ceisio addysg gyda't hen ysgolfeistr parchus hwnnw, a chlywais ef yn dweyd mai Dutch oedd ei wraig, ac felly ni fuasai perygl iddi gael y Welsh Note pe bai yn ddisgybl. Yno hefyd bu' r ddau fardd annwyl, Watcyn Wyn a Gwydderig, ac eraill o blant gwerin y fro yn derbyn addysg. Erbyn heddyw mae gennym Ysgol Ganolradd yn y Dyffryn, a mab talen-cog y Bardd Gwyn o'r Gwynfryn yn Brif Athraw, ac ymhlith ei ddisgyblion heddyw gellir dweyd gyda sicrwydd fod amryw o wyrion a gorwyrion i ddisgyblion yr hen ysgolfeistr milwrol fu'n ymladd a Boni yn Waterlw. Y milwr cyntaf welais yn nillad y Regulars oedd David Jones. Cwmberach, yr hwn a fu farw yn Rorb' s Drift yn Rhyfel y Zulu. Erbyn hyn, rhiEr milwyr Dyffryn Aman wrih y miloedd, ac yr wyf am ddweyd gair neu ddau yn awr ac yn y man am rai o honynt. Ymysg y llu a ymrestrodd y mae y Cadben Meirion Oliver Jones, y gwr ieuanc dwylath a welir ei d darlun yn y rhifyn hwn o'r Lromcl. Mab yoyw Mr. a Mrs. John G. Jones, Ardwyn, Glanaman. Hannai o deulu- oedd parchus o'r ddwy cchr. Mae ei fam yn ferch "r cl*weddar Mr. Tiomas Davies, fu unv/aitn yn 5mveyor of Taxes yng Nghaer- fyrddin a Reading, a Mrs. Davies (priod Mr. David Edwards yr ysgolfeistr, wedi hvnny), yr hon oedd yn ferch i'r Parch. Edward Hughes, Aberystwyth. Yn nheulu ei dad mae gwaed Olivers, Llanfynydd, a'r hen Gymro gwlangar, y diwddar Gvrnel David Morris, Ery:i?r). Ewythrod i?do yw y Parchn. D. G. Jones (M.C.), Poniardawe; W. Gia?nant Jones, Dynfant; Eben. Aman,l Jones, B.A., Ceinewydd; Mr. Rhys Evans (Alltfab), awdur Aeres Macsyfeiin Treforfab, a Glan Berach. Mae ei dad, yr hwn sydd flaenor gyda'r M.C. ym Methania. yn fab Ïr diweddar Mr. Thomas Jones, Bryn- lloi Shop, Glanaman. Gwyddai ef am hynafiaethau Dyffryn Aman yn dda, ac yr oedd yn avvdardod ar weithfeydd glo a daearyddiaeth. y Dyffryn. Mae ei lu enw ar lawr yn Report y Survey mewn Blue Book fel enghratfii o self-taught geologist. Ei weddw, yr hon sydd o fewn ychydig ddyddiau i'w phedwar ugain, eistedda' nawr ret hogen ddeunaw yn fy Nghadair Wellt, a'i Beibl maluriedig ar. y bwrdd o'i blaen. Perthynas agos yw hi i'r hen gylioeddwr doniol, Simon y Gof, fu ym Milo gynt, ac onid o'i wraidd ef y tyfodd y blaguryn prydferth, Syr John Simon, y bar-gyfreithiwr enwog? Dymunaf longyfarch Meirion ar ei ddyrchafiad i fod yn Gadben ym Myddin Prydain Fawr. Nid yw ef eto ond chwech ar hugain oed, obiegid ganwyd ef yn y flwyddyn 1892. Bu yn blen- tyn yrv Ysgol y Cyngor, Glanaman, o dan addysg Mr. Thomas Thomas. Oddiyno aeth i'r Ysgol Canoiradd yn Llandeilo, a thra yno pasiodd y Matriculation, ac y mae ei enw ar y restr o ddisgyblion anrhydeddus sydd yn hongian ar furiau' r ysgol. Bu am ychydig yn swyddfa Mr. T. M. Evans, M.A., Rhyd- aman, ac oddiyno treiglodd i Fryste. Nid arhosodd yno'n hir, canys cychwynnodd ar daith yn 1913 am China drwy Holland, Ger- mani, Rwsia, a thros y Trans-Siberian Rail- way i Port Arthur. Ymsefydlodd am dipyn yn Shanghai (a chyda llaw, y gair Cymraeg am Shanghai ydyw Ar y Mor"), ac yn ystod ei arhosiad yno daeth i gyffyrddiad a Dr. Timothy Richard a'r Parch. Hopcyn Rees, y cenhadon enwog. Er ymhell o Gymru, bu'n ffyddlon i'r hen wlad a'i hiaith, ac efe oedd ysgrifenydd Cymdeithas gyntaf y Cymrodorion a sefydlwyd yn y Dwyrain draw. Trefnodd hefyd i gael gwasanaeth crefyddol Cymraeg yn Shanghai bob deufis. Ar Awst 4, 1914, sef y dydd y torrodd y rhyfel allan, yr oedd ar y Yellow Sea ar ei ffordd i Manchuria, a phreswyliodd yn Moukden, prif-ddinas y dalaith honno, a'r lie yr ymladdwyd y frwydr boethaf rhwng y Rwsiaid a'r Japaniaid am ddeg mis. Yna mudodd i Tientsin, ond ni fedrai oedi'n hwy heb, ddod yn ol i wneuthur ei ran dros ei genedl, ac yng Ngorffennaf, 1915, mordwy- odd am Brydain, ac wedi teithio saith wyth- nos ar yr eigion, glaniodd Llundain. Erbyn Medi, 1915, yr oedd wedi derbyn comisiwn yn y Royal Welsh Fusiliers. Ymunodd â'r Machine Gun Corps yn lonawr, 1916, a chroesodd i Ffrainc ym Mehefin, 1916, a thra yno gwnaed ef yn Lieutenant. Ymadaw- odd am Salonica yn Rhagfyr, 1916, ac yna drwy'r Aifft aeth i Balestina ym Mehefin, 1917. Bu gyda' r Cymry eraill yn gwersyllu ger bron Beersheba, un o hen bydewau Abraham. Yn Hydref, 1917, dychwelodd yn ol i Ffrainc, ac apwyntiwyd ef gan y War Office yn oruchwyliwr ar y Chinese Labour Corps, a dyrchafwyd ef yn Gadben, ac yn Rhywle yn Ffrainc neu Fflandrys yr erys hyd yn hyn. Medr siarad y Chinaeg mor rhugl a Chymraeg. Er nad yw ond ieuanc, gwelir ei fod wedi teithio darn helaeth o'r hen fyd, a bwriada pan ddel y rhyfel erchyll hon i ben ail ddechreu ar ei grwydr. Dymunaf i Meirion annwyl arbediad einioes i gyflawni ei fwriad a chychwyn ar yrfa I llwyddiannus mewn heddwch cyffredinol. Arall a dry' n anturiwr Dirus, a'i daith dros y dwr I dramorfyd, er mawr-fudd, A thine iaith Cobeithion cudd Am bethau gwell rhyw bell bau W na fi wsig o 'i wefusau:— Ei obaith sy'n rhoi diben l'rhoew long a'r hwyl wen,— Pob hwyl-fel braich disgwyliad Fyny'n ymledu am wlad, A phwy wyr pa wobr gaiff e', Wedi'r helynt, o rywle? Os wyneb y presennol Geir yn wg i'w yrru'n ol, Yfory, efe hwyrach Ga fyd, nid ynysig fach."

CARMEL A'R CYLCH.I

ITANT PRIODASOL

ICANIG--

Mining Matters.

ITHE NATION'S GOD.

Ammanford Police Court.1

IARREST OF (INOFFICIAL COMMITTEEMAN

AT EIN GOHEBWYR AC iERAILL.…

IBETHEL, CROSS HANDS.I

[No title]