Skip to main content
Hide Articles List

18 articles on this Page

Church and Chapel Services.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

O'R GADAIR WELLT.

Advertising

Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn.…

Nodion o Benygroes.

ILLANDEBIE. I

AMMAN VALLEY CHRONICLE.I

IPENILLiON LLONGYF ARCHIADOL…

Advertising

LLONGYFARCHIAD I

DYDD GWYL DEWI. I

News
Cite
Share

DYDD GWYL DEWI. I Diolch gwnawn am Ddydd Gwyl Dewi, Cadwn hwn er mwyn ein plant; Dysgwn hwy i garu Cymru F eI gwnaeth ein delfrydol Sant. Codwn y banerau fyny Yn y dyffryn, ar y bryn; Ac ymroddwn gydagegni Godi'n plant i'w lwybrau gwyn. Canwn hen alawon Cymru Ar y tannau, ac ar fant; Cadwn galon lan j'w canu, Fel y purwyn Dewi Sant. Fe fu Cymru o dan orchudd 0 dy wyl lwch du a brad, Ac yn marw yn ei chystudd, Wedi colli gwyneb tad. Dewi wylai mewn anhunedd, Lleithioii oedd ei ruddiau tlos Wrth weld Cymru yn ei llygredd Bron a marw yn y nos. Cododd Dewi, deff-rodd Cymru, Galwodd hi i lwybrau glan; Dysgodd hi i felys ganu, Nes daeth Cymru'n wlad y gan. Darostyngodd Iu o fryniau, Cododd lawer pantle maWT, A gwasgarodd y cysgodau Rhyngddli oedd a tKoriad gwawr. Dysgodd hi i ddringo' r bryniau I gyfeiriad nefol wlad; Hauodd hadau diwygiadau Ddygodd iddi ei rhyddhad. Os yw Dcwi heno'u huno, Os cuddiedig yw ei fedd, Mae ei blant yn brysur effro Gyda u II aw ar garn y cledd, Nid y cleddyf gwaedlyd hwnnw Sydd yn difa blodau'n oes, Ond cledd dysg yr Hwn fu farw Dros bechadur ar y groes. Cofiwn barchu rhai fel Dewi, Sydd yn deilwng o goffhad; Rhai fu yn y nos yn gwaedu Dros eu hannwyl Walia fad. Er fod Dewi wedi'i gladdu, Gwyrdd o hyd yw llwybrau'r Sant; Dros y cyfryw, dringo i fyny Yn arwrol mae ei blant. J. W. JONEs. ,Tu)yn, Garnant. PENILLION Ar farwolaeth y milwr ieuanc, Priv. Stewart Bowen, gynt o Faesyderi, Penygroes. Bu farw Chwefror 15, 1917. Claddwyd ei ran farwol ym Mynwent Rhosmaen, Llandilo. Gyfaill annwyl! pwy feddyliai Am weld hyn erioed? Pwy freuddwydiai am dy golli'n Bump ar hugain oed? Pan y rhoddaist i mi'r ffarwel, Gydia'th wenau* I-IGN, Nid oedd honno'i fod yn ffarwel Ola 'r ddaear hon. Buost di tu draw i'r moroedd, Ar hyd meysydd braw; Gwaed cyfeillion yn aberoedd Welaist ar bob Haw. Oeraidd gri cenhadon angeu Dorrodid ar dy glyw; Ond o'r drin a'i ddychryruadau Daethost adre'n fyw. Cefaist ddod yn ol i Gyrnru- Dy hen famwlad gu; Cefaist siglo Haw, a gwenu Ar anwyliaid lu. Cefaist groeso ardal gyfan Yma ar dy hynt, A difyrrwch wrth ymddiddan Am y dyddiau gynt. Mae un annwyl ;i ti'n huno Draw mewn estron wlad; Bedd y milwr gafodd yno— Cwympodd yn y gad. Cefaist di ddod yma i Gymru Cyn rhoi'r olaf lam; Cefaist Ie ym medd y teulu Gyda'th annwyl fam. Ffarwel mwy, fy nghyfaill, ffarwel— Gorffwys yn dy fedd; Mwyach ni all berw rhyfel Dorri ar dy hedd. Gyda'r hen eymdogion tawel, Cwsg. 0 cwsg ymlaen, Hyd nes deffry lief yr angel Fynwent fach Rhosmaen. DAVID MAINWARING. Caledfryn, Penygroes.

ATGOFION AM FY MHRIOD.

Advertising

Advertising

Forthcoming Events.!