Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Advertising
MATRIMONY! Wanted by a young man of good position and character a SITUATION AS ✓ SON-IN-LAW. THE YOUNG LADY. will be expected to select the Furniture from the same Firm from whom the young man's parents obtained their excellent goods many 1 years ago. BEVAN & Co., Limited, Wales' Largest Furnishers. FURNITURE! IMMENSE SELECTION! EVERYTHING FOR FURNISHING! LOWEST POSSIBLE PRICES! FREE DELIVERY! 280, Oxford Street, & The Arcade, Swansea. Cwmbach Buildings, Llanelly; Cardiff, Newport, &c.
--Forthcoming Events.
Forthcoming Events. [All forthcoming events which are adver- tised in the Chronicle, or for which printing is done at our works in Quay Street, Amman- ford, will be included in the following list.] Feb. 22 & 24.-Church Room, Amman- ford: Performances of Cantata by United Band of Hope Choir. Feb. 24.-Mountain Road, Brynamman: Sale of Furniture. Messrs. 01. Jenkins and Sons. Feb. 24.-Bethel Newydd, Cwmamman: Lecture by Rev. J. Lee Davies, Bryn- amman. Feb. 28.-Alpha Cinema, Brynamman: Grand Performance of the popular Welsh drama, Richard Jones-Davies, Esq. by the Ddraig Goch Dramatic Co., Bethania, Glanamman. Mar. I.-Y.M.C.A. Institute, Ammanford: Grand Welsh Fair in aid of Welsh Flag Day Fund. Mar. 3.-Bethlehem, Porthyrhyd: Lecture by Rev. Taliesin Williams. Mar. 1.-Bryn Seion, Glanamman: Mawrygir clodydd Dewi Sant. Mar. 8.-Palace Theatre, Ammanford: Annual Concert of the Ammanford Ladies' Choir. Mar. 8.-Carmel, Gwaun-cae-gurwen: Grand Organ Recital. Mar. IO.-Bryn Seion, Glanamman: Grand Chair Eisteddfod. Mar. 14.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Grand Benefit Concert. Mar. 17.-Council School, Cwmgwili: Lec- ture by Rev. D. J. Lewis, B.A., Tumble. Mar. 17.-Caersalem, Drefach: Grand Com- petitive Meeting. Mar. 21.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Performance of the Welsh drama, "Cyfoeth ynte Cymeriad," by the Bryn Seion Dramatc Society, Glanamman. Mar. 24.-Parish Hall, Gorslas: Grand Eis- teddfod. Mar. 22 & 25.—St. Margaret's Church, Cwmllynfell: Grand Organ Recitals. Mar. 31.-Bethesda, Tycroes: Lecture by the Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., Amman- ford. Mar. 31.-Bethania, Glanamman: Grand Eisteddfod. Mar. 31.-Public Hall, Tumble: Grand Competitive Concert. April 4.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Grand Patriotic Concert. April 4.-Palace Theatre, Ammanford: Grand Performance of Handel's "Messiah" by Ebenezer Baptist Choral Society. April 7.-Congregational Church, Peny- groes: Grand Organ Recital. April 12 & 14.-Bryn Seion, Glanamman: Two Grand Performances of Mendelssohn's Elijah." April 21.-Council School, Bettws: Grand Eisteddfod. April 25.-Palace, Glanamman: Grand Benefit Performance of Richard Jones- Davies, Esq. by the Ddraig Goch Dramatic Company. May 28 (Whit-Monday).—The Twelfth Annual Chair Eisteddfod at Llandebie.
Church and Chapel Services.
Church and Chapel Services. [Will the Pastors or Secretaries of Churches please send in their corrections as early as possible each week.—ED.J AMMANFORD. All Saints' Church.-Holy Communion, 8 a.m.; Matins and Sermon, 11 a.m.; Even- song, 6 p.m., every Sunday except the second. Second Sunday in the month: Holy Communion, 8 a.m.; Children s Service, 10 a.m.; Choral Eucharist, 11 a.m.; Evensong, 6 p.m. St. David's Church.— II a.m.. Holy Com- munion first Sunday in each month (English) 11 a.m., last Sunday in each month (Welsh). 1 la a.m.. Matins; 6 p.m., Evensong. St. Michael's Church.—8 a.m., Holy Com- munion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Holy Communion (first Sunday in month) 10.30 a.m.. Matins; 6 p.m.. Evensong. Christian Temple (W. C.) .-Moming, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Tegfan Davies, pastor. Ebenezer (W.B.).—Morning, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., pastor. Bethany (C.M.).-Momini, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. Nantlais Williams. pastor. TlRYDAIL. I Welsh Wesleyan. Morning, 10.30 Evening, 6. Preacher, Rev. H. R. Owen, I pastor. LLANDILO. i Ebenezer (W.B.). Morning, 10.30. School, 2.15. Evening, 6. Preacher, Rev. G. E. Williams, pastor. Salem, New Road (C.M.) .—Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. — Perkins, Cefnberach. 1
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL. Ysgrif au, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethau i'w hanfon cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y byddo modd i'r GOLYGYDD, CRONICL DYFFRYN AMAN, I AMANFORD.
[No title]
[Er ein bod pn rhoddi pob cyfleustra i ohebwyr ddatgan eu bam ar gwestiynau Ileol, nid ydyw hynny i olygu ein bod yn cydsynio 6'u daliadau.-COL-1
I O'R __GADAIR WELLT.
I O'R GADAIR WELLT. I [Gan IOLO CAERFYRDDIN.] I OWEN DAFYDD. Ganwyd ef yn rhywle yn Gwynfe, yn y flwyddyn 1751. Enw ei dad oedd Watkin Dafydd Rees, a dyna pam y gelwid ef yn Owen Watkin weithiau; end Owen Dafydd fyddai ef yn ddefnyddio, megi y canodd: Enw'r dyn yw Owen Dafydd, Wrth hyn fe 'nebydd rhai pwy yw." Yn y Cenhadwr Americanaidd, Hydref, 1858, dywed y Parch. Thos. Edwards, Amerca, rai o'i atgofion am y bardd: Dyn canolig o faint oedd Owen Dafydd, gwisgai bob amser ddillad o frethyn llwyd, ac ar ei draed esgidiau coed, pa rai fyddent heb eu naddu yn hardd lawn." Melinydd oedd wrth ei alwedigaeth, a phe buasai byw heddyw, diau y canasai yn rhwydd j'r Bara Rhyfel, yr hwn wna i' m cylla brau godi gwrthryfel yn erbyn ei liw annaturiol. 0 Gwynfe aeth i Felin Rhosaman, ac wedyn i Felin Cwm- grcnig, Ovmaman, lie y priododd a Choyce, merch William Rees, Nant- yrafr. Ymadawodd a Chwmgrenig am Llynchvtwel, gerllaw Glais, Cwm- tawe. Byr fu ei arosiad yno eto, canys symudodd i Gefn Myddfai, yn Llan- gyfelach. Oywedir nad oedd yn wr deheuig i drafod y byd hwn, os gan- wyd bardd felly erioed. Gofidus a Ileddf oedd ei fywyd yn Llangyfelach Ion, oblegid yno y cyfansoddodd ei Gan i'r Gofid," er enghraifft:— "Duw gwyn o'r nef, clyw "lef y gwan, Sy'n cwynfan dan y gofid; Ni feiddiaf fynd i wlad na thre, Na byddo fe'n fy nghwrddyd. Priodais ddynes gvnnes Ion, A gwraig oedd hon dda ddigon; 'Roedd am grafangu'r byd o rym,— Rhaglunaieth ddim yn foddlon. Mae'm 'sgidau oil yn llaprau, A thyllau yn fy 'sanau; A phan bo un o' r rhain heb wall, Fe fydd y Hall yn eisiau. Rhaid gwerthu'r mochyn mwyaf I dalu' r taloedd tryrnaf, A hala' r ychen tua Chent I dalu'r rhent mi w'rantaf. Rhaid gwerthu' r fuwch dew honno Yn gyfan heb ei sharo; 'Does gen i a'r tylwyth yn ddi-ffael Fawr cig i'w gael I ginio. Mae'r Beili 'n y teulu, Mae hynny' n beth chwith, Fod gwartheg gan Choicy Yn ffaelu cael blith. Down i'n ceisio dim rhyw foethau, Ond caws a bara nos a borau; Yr hyn pan ffaelws i mi gael, Fe'm maedidws ar flaen Myddfai. 'Roedd gen i'r ddafad ffeina ar dwyn Am daflu wyn a'u magu, Hwy fuont fyw nes oant yn dair O'r ffeina gair yng Nghymru; Hwy aent i ddala 'mhell oddiyma, Rhwng Lliw a Dulais, i'r lie dwla, Lle'r oedd y lladron mwyaf creulon Yn Hadd a gwario'r defaid gwirion, Och fi o' r diwedd aethant hwy I ddwylo rhyw elynion. Ni that i fawr i gadw defaid, Mae yma ormod o fwtcheriaid. Y ng nghanol gofidiau dychwelodd drachefn i falu blawd i Felin Cwm- grenig, lie y cyfansoddodd y rhari fwyaf o'i e weithiau barddonof, ac fel Owen Dafydd, Cwmaman, yr adna- byddid ef hyd heddyw. (I,w barhau). O.N.-Gvimaeth Caisar y Wasg dro 'brwnt a brawddeg yn fy llith i'r Eira yn y ihifyn ddiweddaf; dododd man- yn y r h i tell wen ddiniwaid yn lie man- tell wen ddiwniad. Erbyn hyn mae'r -gwlaw wedi d-atod pob cwlwm, a champ i' r Caisar du yw gwnio tyllau'r gwiaw.-I.C.
Ymadawiad y Morwr.
Ymadawiad y Morwr. I [Gan JOHN JONES."] Pan yn tfarwelio a Mr. Dafydd Ricnafds yng Nghlafdy Abertawe, wythnos yn ol, ni feddyliais mai dyna'r tro olaf y caem ymgom. Aeth dan operation dydd Mawrth, Chwefror 13, a diangodd ei ysbryd drannoeth i' r anweledig, heb gyrraedd ohono ym- wybydblrwydd. Brodor o Aberaeron oedd, ond yn adnabyddus iawn i ugeiniau o bobl Cwmaman ddaethant i gyffyrddiad ag ef yn Abeaeron, neu pan ddeuai am dro i Lanaman i aros gyda'i frawd-yng-nghyfraith a'i chwaer, Mr. a Mrs. John Lake. Noson arw oedd un Tachwedd 27, 1916, a thros for ddangosai ei nwydau gwaethaf, oherwydd ei chipio gan wyntoedd cryfion, yr oedd cyfeiriad Hong o Ffrainc i Abertawe. Cymreig oedd ei henw-"Brynawel, a Chymry gwrol oedd y Cadben Williams a' r dwylo bron i gyd. Yn eu plith yr oedd Dafydd Richards, a thua wyth o'r gloch, pan godid y llong ar ysgwydd ton hanner gwalltgof, llithrodd ar y bwrdd a thorrodd ei goes. Ymhen deuddydd cyrhaeddwyd Abertawe, dygwyd ef ¡'r ysbytty, a gyrrwyd am ei chwiorydd. Buont yn ffyddlawn wrth ei wely bob dydd y caniateid, ac yr oedd ei chwaer, Miss Richards, yn ei vmyI drwy'r noson olaf. Dydd Gwener, dygwyd y corff gyda'r tren o Abertawe. Aeth nifer fechan o ffrindiau i'r orsaf i dalu eu parch olaf i gyfaill diniwed a charedig. Claddwyd drannceth ym mynwent Llanddewi, a daeth y pentref- wyr allan i dalu y gymwynas olaf yn grynno iawn. Nofiodd Dafydd Richards foroedd v byd, ymwelodd a'i wledydd, ond cadwodd ei Gymraeg yn bur a'i eymeriad yn lan. Dymunwn bob cysur t'r chwiorydd. Huned yntau mewn hedd yn yr hen fynwent ar Ian mor Aberteifi, o swn y storm ai chlyw.
Nodion o Benygroes.
Nodion o Benygroes. Prynhawn dydd Mawrth cyn y di- weddaf, ym mynwent Penygroes (A.), rhoddwyd i orffwys yr hyn oedd farwol o'r hen chwaer annwyl, Mrs. T. Roberts, gynt o Maesglas. Cafodd angladd barchus iawn. Gwasanaeth- wyd yno gan y Parchn. Berian James, B.A. (A.), Job Herbert (B.), Rd. Thomas (M.C.), a Wm. Bowen (A.). # Yr un noson, yn Festri Penygroes, o dan nawdd Pwyllgor Croesawi ein Milwyr, cafwyd darlith rhagorol iawn. Y darlithydd oedd y Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble, a'i destun oedd Tri Mis yn Ffrainc." Canwyd unawd gan Mr. W. Dyfnant Davies i ddechreu a diweddu y cyfarfod. Llan- wyd y gadair yn ddeheuig gan Mr. T. Morgan, M.E., Bryncwar. Yr oedd yr elw ariannol yn mynd ,i gynorthwyo Trysorfa ein Milwyr. Nos Iau, taenwyd y newydd trist dros yr ardal am farwolaeth y milwr ieuanc, Priv. Stewart Bowen, yn Lerpwl. Tua dechreu y mis diweddaf j cawsom y fraint o'i groesawi yn ol i'r henfro o faes y gad. Y mae pawb ohonom yn cofio am dano yn y cyfar- fod brwdfrydig hwnnw yn Ysgol y Cyngor; edrychai mor lion ac iach a'r goreu oedd yno. Ychydig feddyliai neb ein bod i'w golli mor fuan, ond dyna fe, un brau iawn yw'r corff dynol pan fyddo oreu. Claddwyd ef yn Llandilo dydd Mawrth. Cewch hanes yr angladd, y tro nesaf. I WIL HOPCYN. I
Advertising
IF YOU SUFFER from Cold in the Head, Nasal Catarrh, Influenza, or Hay Fever, you should use NOSTROLINE." Smear it in your nostrils and sniff it up. It goes right -in where the microbes lurk and clears your head instantly, destroys the germs, soothes and heals. Quicker and safer than taking drugs. Suitable for all ages and con- ditions. Should be at hand in every home. Simply wonderful for both prevention and cure. Of most chemists, 1/3 and 3/- (triple size) or by post, 1/5 and 3/3, from pro- prietort, Harold E. Matthews & Co., Chemists, Clifton, Bristol.
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn.
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn. Mae Priv. D. T. Evans, R.W.F., wedi dod adre am dro, yr wythnos ddi- weddaf, a da gennym ei weled yn dis- gwyl mor hapus. Mae Hawer o'r ardal hon yn falch fod y tywydd rhew wedi myned heibio, ac fod y gwlaw wedi dod, am fod y dwfr wedi bod mor brin. Da gennym clywed am lwyddiant Miss Lizzie Michael yn cipio'r wobr am ysgrif ar Dylanwad Aelwyd Grefyddol ar Ieuenctyd," yn Capel Hendre, nos Sadwrn diweddaf. Pob ilwydd iddi eto. Mae Mr. Wm. Davies, Bryncoed, wedi cael newydd da oddiwrth ei fab, yr wythnos ddiweddaf, yr hwn sydd wedi bod yn Ysbytty Abertawe am ryw bedwar mis o amser, ac yn awr ar ddod tua thre.
LLWYDDIANT MYFYRIWR 0 GWMCOCH,…
LLWYDDIANT MYFYRIWR 0 GWMCOCH, GER PENY- GROES. At Olygydd Cronicl Dyjfryn Aman. I Mr. Gol,. ,-Bydd yn dda gennyf gael ychydig le yn eich newyddiadur, yr wythnos hon, i hysbysu 1 lwyddiant myfyriwr ieuanc o'r lie hwn; a diameu y bydd yn dda gan Ilaws gyfeillion y brawd ieuanc, John Davies, o Faesy- gwaed, ger Penygroes, glywed am ei lwyddiant diweddar yn pasioyn llwydd- iannus ei Second Class Manager' s Cer- tificate mewn Mining. Y mae hyn yn adlewyrchu cryn iawer o glod arno, pan gofiwn ei fod mor ieuanc. Bach- gen ieuanc gwylaidd a diymhongar ydyw, ond yn fyfyriwr dwfn a chaled. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn y dyfodol. I fyny, fy mrawd, boed dy nod, Er gwaethaf man rwystrau diri'; I fyny dros lethrau serth clod, I deml parch, urddas a bri. Yn hongian mae allwedd dy lwydd Wrth wregys dy ymdrech dy hun; Pob dor fyddo' n agor yn rhwydd I ti fyned trwyddynt bob un. | CYFAILL.
TYCROES. I
TYCROES. I Cymdeithas p Cymrodorion.—Bydd y Gymdeithas uchod yn cynal ei chyfarfod diweddaf nos Gwyl Dewi, Mawrth I, am y tymor hwn, yn y lie arferol. Cawn gynyrch ein beirdd (gan obeithio y byddant yn bresennol i gyd) ac unawdau gan ein cantorion, Bydd gennym rhaglen hir erbyn y noson hon. Carwn weled Cymry'r ardial yno i gyd. Dyma r tro cyntaf i Gymrodorion Tycroes gynnal cyfarfod yn yr hwyr yn y lie, a gobeithio y dewch yma'n lluosog. Hefyd, mae y Gymdeithas wedi cymryd arnynt i werthu banerau dros y Catrawdau Cymreig, y diwrnod hwn, pryd y daw rhai o'r Cymrodbr- esau ogylch i'w gwerthu. Can ei fod yn Ddydd Gwyl Dewi, Mabsant y Cymry, credaf mai teilwng yw i ni wneud ein goreu iddo fod yn Ddydd Banerau y Catrawdau Cymreig hefyd. Bydd hwn yn gyfle i ni oil i ddangos ein gwladgarwch drwy gynorthwyo ein byddinoedd. Cofied pawb am nos Gwyl Dewi Sant. I B. C. REES, Ysg.
I CAPEL HENDRE.-.1
I CAPEL HENDRE. .1 lnos oadwrn, lonawr Z7, cynhal- iwyd cyngerdd mawreddog yn Festri Newydd y lie uchod, a da gennym ddweyd fe gafwyd cyngerdd lwydd- iannus ymhob ystyr. Cadeiriwyd yn fedrus gan y Parch. Evan George (B.), Hendre; cyfeiliwyd gan Mr. H. Morris, Cross Hsndis; a chymerwyd rhan gan y canlynol :—Bass, Mr. Mor- lais Evans (buddugwr Cenedlaethol); tenor, Mr. Llew Evans; contralto, Miss Hopkins; soprano, Mrs. Ceredig Wil- liams, Llangennech; adroddwr, Elwyn Rees, Hendre; canu penillion, Dai Bevan (Berach Bach), Glanaman; a' r telynwr oedd Tom Bevan, Clifton Shop, Glanaman. Cafwyd cyngerdd hwylus a chwaethus, a rhyfedd y mwynhad gafwyd o seiniau y delyn a' r datganwr, Berach Bach; a siaredir gan lawer yn y gymdogaeth hon am gael mwy o'r delyn a'i diliau. Beth bynnag, trodd y gyngerdd yn llwyddiant, a balch ydym, gan fod yr elw i gynorth- wyo y brawd William John, yr hwn sydd wedi ei analluogi ers misoedd, trwy ddamwain yng Nglofa'r Emlyn. Teimla'r pwyllgor yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth a'u cynorthwy. Nos Sadwrn, Chwefror 17, cynhal- iwyd eisteddfod yn yr un lie, a throdd hon yn llwydiant tuhwnt i ddisgwyliad. Rhoddwyd y gwobrwyon gan y bobl ieuainc, ac am hynny nid oedd un draul i' w chynnal. Cadeiriwyd gan Mr. Thomas Jones, Brynawel (blaenor o'r eglwys). Beiirniad y gerddoriaeth oedd Mr. J. Rees Jones, Saron; a'r amrywiaeth, Mr. B. H. Jones (Mab- yr-Awen), Penygroes. Cyfeiliwyd gan Mr. Dan Hughes, Hendre. Gwobrwy- ,A,yd fel a gan-lyn:-UnTawdi dan 10: laf, Evelyn Rees, Cross Hands; 2il, Gwendoline Davies, Capel Hendre. Adroddiad dan 10: laf, Irene Thomas, Cwmgwili; 2il, Olwyn Pugh, Peny- groes. Unawd dan 13: laf, Maggie Rees, Cross Hands, a Hilda Hughes, Hendre. Adroddiad dan 13: laf, Ben Rees, Blaenau; 2il, Lottie Collins, Cwmgwili. Unawd dan 16: Violet Rees, Cross Hands. Unawd tenor neu soprano: Rhannwyd rhwng Miss R. A. Jones, Hendre, a Mr. D. J. Walters, Hendre. Ysgrif, 'Dylan- wad yr Aelwyd Grefyddol" Miss Lizze Michael, Caerbryn. Canu penillion: Elwyn Rees, Capel Hendre. Dau bennill i'r Beibl Cymraeg," I rai heb ennll o'r blaen: Mr. J. R. Hughes. Hendre. Unawd alto neu bass: Miss A. M. Price, Hendre.' Cvfansoddi enslyn: Mr. R. Rhvdfab Rees. Adiroddiad asored: Miss Jennie Hughes, Hendre. Pedwarawd: Hen- dre Friends (arweinydd, Mr. Danl. Hughes, Hendre).
IPENILLION BYRFYFYR -| I
PENILLION BYRFYFYR Ddarilenwyd yng nghwrdd Bethania, Rhosaman, ar ymadawiad Bom- bardier Pritchard Jones, Rose and Crown, yn ol i'r gad. Hawddamor, Pritchard, ar dy dro I'th gartre yn y Rhos; Os oer yw'r hin a llwm yw'r fro, 'Does man i ti mor dlos. Ti ddest o faes y Hid a' r nwyd, 0 swn dibaid y gwn, I gysgod clyd y Garreg Lwyd I daflu lawr dy bwn. — Ti roist erioed rhyw bleth o serch Ogylch dy ardal fad, Cyn fyth i gorn y rhyfel erch Dy a,lw draw i'r gad. Ond heno'th gariad at y Rhos Sy'n cynneu 'n oleu fflam; Yng ngoleu hon ei 'nol i'r fros I' n cadw n rhag cam. Pan glywaist fod yr Ellmyn hyll Yn bygwth samu' n gwlad, Ymaflaist yn dy gledd a'th ddryll, A ffwrdd yr est i' r gad. Ymado wnest a chartre clyd, A thyner fam a thad; Aberthaist dy gysuron drud Ar allor IIwydd dy wlad, Ti weli, gwyn yw'r Mynydd Du, Mae' n gwisgo mantell wen, Er mwyn roi croeso gyda ni I'r gwron o Rydwen. 'R hen fynydd ddywed wrthyt, "Clyw, Dal ati'n ddewr hyd fedd; Cyn sanga r Ellmyn Gymru wiw, Gwnaf symud o fy sedd." Mae afon Aman ar ei thaith Yn sisial i ti gan; A dwed yn hyglyw yn ei hiaith- Pob croeso, Pritch, o'r tan; Tra elyb meib fy nglannau i Cry' lais yr utgorn croch, 'Does perygl fyt'h y troir fy Hi Gan waed y dewr yn goch," Os nad yw' r haul yn gWasgar tes Ar ddae'r sy nghlo gan rhew, Teyrngairwch gwir gynyrcha wres Ym mron y milwr glew. Doed haul gwladgarwch yn ei rym I doddi c' lonnau rhai Sydd dros ein dewrion yn gwneud dim, Er dued cymyl gwae. 0 sudded cerddi' r gyngerdd hon Yn ddwfn i'th galon fad, Fel tarddant etc yn dy fron I ddofi twrf y gad. A boed i'r dymuniadau da Ddisgynantair dy glyw, • Fywhau dy fyd fel heulwen ha' Ar faes y poen a'r briw. Nos da it' 'nawr, y gwron gwir, Mae'r hwyr yn taenu'i len; Doed buddugoliaeth cyn bo hir I' n byd a gwawrddydd wen. Cyn a yn ol i'r ffosydd llaiih, I Pritch ein goreu rhown; A doed o'r gad heb friw na chraith, Yn iach i'r Rose and Crown. Brynaman. BUTTS, j
IER COF I
ER COF I Am Mr. Gwilyrn Rees, M.E., Blaenau, yr hwn a fu farw lonawr 24, 1917. Hoff gyfaill enwog, odlaf gan, Tra'r byd mewn rhyfel erch; Hawdd taro cainc i'th fywyd glan Ar delyn aur fy serch. Mor brydferth oedd dy fore braf Yn henfro Pennar dlos; Ac yng Nghaerbryn, mor her dy haf, Cyn syrthio llenni' r nos. Daw 1 Lawer henwr at dy fedd, Fu gynt yn blentyn gwan, A'r dagrau gloywon ar ei wedd, Gan ymson uwch y fan. Y trysor gesglaist yn dy ddydd A ren,aist mewn mwynhad; A'th enw'n perarogli sydd Yng nghof a serch y wlad. Os gwag yw'th gadair, athraw braf, Mae dy ddylanwad di Fel llanw dwyfol canol haf Yn ein calonnau ni. Mae dalen dy gymeriad glan Yn wyn bob cam o'th oes; Cyfrenaist i ni'n ddiwahan Hardd wersi rhln a moes. Hoff gyfaill mwyn, o blith y byw Esgynaist wedi'th waith, I dderbyn coron gyda Duw Yn anrheg pen y daith. Rhof finnau goron aur mwynhad Mewn gwylder ar dy fedd, Ac na ddoed ysbryd ing na brad I dorri ar dy hedd. R. RHYDFAB REES. Penygroes.
YR YSGOL SABOTHOL.
YR YSGOL SABOTHOL. Mesur— Harlech. (Cyflwynedig i Mr. Danl. Jones, Tirydail). Y mae' r Ysgol Sul yng Nghymru Heddyw'n rhoddi dwyfol wers,i, Mae yn ieuanc ac yn heiny Er dros ganmlwydd oed. Gwell nag arian yw cynghorion Ddaw dros wefus ei hathrawon, Tafla drydan i bob calon, Llwyddiant iddi boed. i yna arddc-'I,ladau Nefoedd ar ein gwyliau, Gwisga i phlant ym mlodaii gras Yn addas drwy' r blynyddau. Gwnaeth i filoedd i daranu Rhin a gwerth ei sanctaidd wersi; Mawr yw'r canmol a'r clodfori Ar yr Y sgcl roed. Saboth ydoedd fel chwaraefan I bob rhwysg ac anfoes amcan; Campau ofergoelus, aflan, Oeddent mewn mawrhad. Cael gorchfygu mewn chwaraeon Oedd uchelgais y trigolion; Gwag ac erchyll ydoedd swynion Drwy hen Gymru fad. Ysgol rhad Sabot hoi Ddaeth fel banon siriol ddyrchafu rhin a moet-, A chlirio drwg arferion. Dyma nefol bendefiges, Liaw forwynig efehgyles, I oleuo'r byd yn hanes Iesu, 'r Ceidwad cu. Ciliio wnaeth yr holl fwganod, A'r "canwyUau cyrff gorhynod, Rhoddi iddynt farwol ddyrnod Wnaeth ein Hysgol rhad; Treiddio wnaeth ei dwyf -oleimi Trwy bob congl fach o Gymru; Mae anffyddiaeth bron ar drengu Rhwng hen fryniau'n gwlad. Magodd ar ei dwyfron Luoedd o genhadon, Sy n pregethu enw lor Dros for yn y pellafion. Rhoddodd Feibl yn llaw' r pagan, Llanwodd ef a'r "dduwiol anian tt; Nid oes neb ond Duw ei Hunan Wyr ei buddion mad. Draw ar lwyfanaur Wynfa Gwelaf Raikes a Chiles o'r Bala, Yn edmygu am y mwya Ei gogoniant hi. Gwelsantlawer o'i disgyblion Wedii cyrraedd gwlad a,ngylio,-i-- Dal eu pennau yn yr afon Wnaeth ei gwersi cu. Fyny elo' rfaner Eto mewn ysblander, 'Lie addoli'r pren a maen Heb neb yn adwaen Gwiwner. Coded eto ei ffyddloniaid, Draw o lwythau'r Affricaniaid; Boed ei Uewyrch eto'n danbaid Ar y ddaear ddu. T ycroes. D. J. MORGAN (GIanCerws). Tycroes.
ODL HIRAETH
ODL HIRAETH Ar ol Clifford Spencer, mab Mr. a Mrs. Spencer, Harold Street, Tiry- dail, yr hwn gyfarfyddodd ag an- ffawd angeuol drwy foddi, yn Afon Llwchwr, Hydref 14, 1916, gan adael tad a mam, dwy chwaer, a dau frawd mewn galar. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Amanford, Hydref 19, 1916. Ar fy nhelyn canaf iti, Er yn brudd fy mron; Swn adgofion sydd o'm deutu, Colli Clifford lion. Sylwaist di yn dechreu cerdded, Fyrred oedd dy gam; Miwsig per i mi dy glywed Gyntaf yn dweyd Mam." Ond daeth galwad arnat tithau Drodd yn saeth i ni; Galwad Duw yngwisg y tonnau, Collasom ninnau di. O mor anodd ydyw canfod Amcan gwagle'r cryd; Gwenau mwyn y rhos yn darfod Pan ar draeth y byd. Gyda'm hawen wan y plannaf Rosyn ar dy fedd; Tra' n dy ganfod mi ddychmygaf Yn y Wynfa hedd. Hoff rieni, edrych gomaod Ydym tua'r gell; Dwed gwirionedd fod eich Clifford Yn y wlad sydd well. Saron. T. HOSKINS.
ICYNGHORION I'M GWLAD.
I CYNGHORION I'M GWLAD. Pan mae'r gwledydd dan gymylau Yn eu gwarthrudd du, a'r nos, Marwor garwn ar fy ngenau I gynghori Gwalia dlos. Ffodus wyt, fy ngwlad, yn ddiau, Nad wyt sathrfa'r gelyn du; Arogl sanctaidd hen weddiau Sydd yn dy gylchynnu di. 1 Gwledydd eraill sydd dan greithiau, Yn swn griddfan yn ddidrai; Gwaed trueiniaid ar eu aeliau, Tithau'n -mhell o swn y gwae. Gwir fod Hu o'th feibion tirion Yn yr erch gyflafan hon, Ac fod saethau drwg newyddion Yn trywanu'th dyner fron. Diolch gwna, er hynny, 'n v/resog Nad oes arnat arliw gwaed; Nad oes ar dy dir lu arfog, Na erch swn ge'ynol draed. Tra mae llawer cenedl egwan Gyda'u tai a'u temlau 'n friw, Diogelwyd Cymru fechan Gan angyliongwynion Duw. Gwell yw heddwch yn dy fynwes Na chael clod trwy fin y cledd; Bydd yn bur a glan dy hanes, I'th bechodau dyro fedd. Agor gwna dy ddor li'r wawrddydci Dan y ddwys ddisgyblaeth hon; Cymer Jesu'n wir Dywysydd, Os am heddwch dan dy fron, I Dal yn ffyddiog yn y dwyfol iog yn y 8wviol Tra fo'r cymyl du uwch ben; Mae pob cwmwl yn symudol, Aros byth mae glesni'r nen. Cadw fawlgan yn dy galon, Dy gydwybod cadw'n lan; Gloywi wnei yn dy dreialon^ Puro wnei ym mhrawfion tan. Paid ymddiried mewn nerth byddin Na'n ngrymusder llynges gref; Boed dy nawdd a'th wir amddiffyn Dan ei aden dyner Ef. Dal i ddringo ¡'t goleuni, Dros y llwybrau euraidd, glan; Cadw'th wisg heb ei halogi, Cadw yn dy enaid gan. Cod yn ol yr hen allorau, Os am noddfa gadarn, gref; Engyl fydd yn gwylio'th lwybrau Ond it' gadw ffordd y nef. J. W. JONES. Twyn, Gamant. J. W. JONES.
Advertising
Danfonir y Cronicl yn wythnosol trwy y Llythyrdk i unrhyw gyfeiriad am 3/3 yr haner blwyddyn, neu 6/6 y flwyddyn, blaendal. Yon Can Rely Onc 5-'s B41 pMs so .fe and Sure Remedy, In either Ses. for all Acquired or Constitutional Discharges from Urinary Organs. Gravel, Pains in the Bade and kindred complaints. Over 50 Years' Success. Of {1 | Q n 1/ a'q all Chemists, 4/N per box. of ?i.<tl i?C St sent direct, post free, for Sixty Penny Stamps by the n A <f |\M10 Proprietors The Lincoine B41 Pills and Midland Counties Drug Co., Ltd.. Lincoln. (Free from Atercury