Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Advertising
MATRIMONY! Wanted by a young man of good position and character a SITUATION AS SON-IN-LAW. THE YOUNG LADY will be expected to select the Furniture from the same Firm from whom the young man's parents obtained their excellent goods many years ago. BEVAN & Co., Limited, Wales' Largest Furnishers. FURNITURE! IMMENSE SELECTION! EVERYTHING FOR FURNISHING! LOWEST POSSIBLE PRICES! FREE DELIVERY! 280, Oxford Street, & -The Arcade, Swansea. Cwmbach Buildings, Llaneily; Cardiff, Newport, &o.
Forthcoming Events.
Forthcoming Events. [All forthcoming events which are adver- tised in the Chronicle, or for which printing is done at our works m Quay Street, Amman- lord. will be included in the following list.] Feb. 17.-Hermon, Brynamman: Lecture by Rev. T. E. Nicholas, Llangybi. Feb. 2t.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Grand Miscellaneous Concert. Feb. 22 & 24.-Church Room, Amman- ford: Performances of Cantata by United Band of Hope Choir. Feb. 24.-Bethel Newydd, Cwmamman: Lecture by Rev. J. Lee Davies, Bryn- amman. F. 28.-Alpha Cinema, Brynamman: Grand Performance of the popular Welsh drama, Richard Jones-Davies, Esq. by the Ddraig Goch Dramatic Co., Bethania, Glanamman. Mar. 8.—Palace Theatre, Ammanford: Annual Concert of the Ammanford Ladies' Choir. Mar. S.-Carmel. Gwaun-cae-gurwen: Grand Organ Recital. Mar. IO.-Bryn Seion, Glanamman: Grand Chair Eisteddfod. Mar. 14.-Public Hall, Gwaun-cae-gurwen: Grand Benefit Concert. Mar. 17.-Caersalem, Drefach: Grand Com- petitive Meeting. Mar. 24.-Parish Hall, Gorslas: Grand Eis- teddfod. Mar. 22 & 25.-St. Margaret's Church, Cwmllynfell: Grand Organ Recitals. Mar. 31.-Bethania, Glanamman: Grand Eisteddfod. Mar. 31.-Public Hall, Tumble: Grand Competitive Concert. April 4.-Palace Theatre, Ammanford: Grand Performance of Handel's "Messiah" by Ebenezer Baptist Choral Society. April 12 & 14.-Bryn Seion, Glanamman: Two Grand Performances of Mendelssohn's Elijah." April 25.-Palace. Glanamman: Grand Benefit Performance of Richard Jones- Davies, Esq. by the Ddraig Goch Dramatic Company. May 28 (Whit-Monday).—The Twelfth Annual Chair Eisteddfod at Llandebie.
Church and Chapel Services.
Church and Chapel Services. [Will the Pastors or Secretaries of Churches please send in their correction* as early as possible each week.—ED.] AMMANFORD. All Saints' Church.—Holy Communion, 8 a.m.; Matins and Sermon, 11 a.m.; Even- song, 6 p.m., every Sunday except the second. Second Sunday in the month: Holy Communion, 8 a.m.; Children's Service, 10 a.m.; Choral Eucharist, 11 a.m.; Evensong, 6 p.m. St. David's Church.-I I a.m., Holy Com- munion first Sunday in each month (English) 11 a.m., last Sunday in each month (Welsh). 11a a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. St. Michael's Church.—8 a.m., Holy Com- munion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Holy Communion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. Christian Temple (W.C.) .—Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Tegfan Davies, pastor. Gwynfryn (W.C.) .—Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. Esger James, Cardigan. Ebenezer (W.B.).—Morning, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., pastor. Bethany (C.M.) .-Momini, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. Nantlais Williams, pastor. TAIW Road (E.C.).—Morning, 11. Even- Morning, 11. Even- ing, 6. Preacher, Rev. D. E. Harris, pastor. TIRYDAIL. Welch Wesleyan. Morning, 10.30 Evening, 6. Preacher, Rev. H. R. Owen, pastor. LLANDILO. Ebenezer (W.B.). Morning, 10.30. School, 2.15. Evening, 6. Preacher, Rev. G. E. Williams, pastor. CROSS HANDS. Tabernacle (W.C.).—Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Harford Evans, pastor. Tabor (W.B.).—Morning, 10.30 Even- ing, 6. Preacher, Rev. B. O. James, pastor TYCROES. Moriah (W.C.).-Moming, 10.30. Even inc. 6. Preacher, Rev. D. J Moses. B.A.. pastor.
Advertising
EYERY WONA I ? Nwald emd 2stamps for our IUmistmted Book I I =t= valuabliwormai= ':dA ■ • mad Snprcasioaa may be <nttrety tTMded or removed ■ X bJåmplë_ Recommended byemiMBtPhyNciMM • ? FEV04=VdE:w*?&nd G?enuine Remedy. Never ■ ofTeadmoni&LL bnhed?im ?tFPM.lBt. LjU!CHARD°g?-?!stO!Me,LMdoB jj 
- - - -AT EIN GOHEBWYR AC…
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL. Ysgrifau, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethau i'w hanfon cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y byddo modd i'r GOLYGYDD. I CRONICL DYFFRYN AMAN," I AMANFORD. I
[No title]
[Er ein bod yn rhoddi pob cyfieustra i ohebwyr ddatgan eu barn ar gicestiynau lleol, nid ydyw hynny i olygu ein bod yn cydsynio d'u daliadou .-GOL. J
I O'R GADAIR WELLT.I
I O'R GADAIR WELLT. I [Gan IOLO CAERFYRDDIN.] I YR EIRA. I Hawdd im' garu'r eira tlws, Eira Chwefrol yn ei fri." Efe a ddywed wrth yr eira, a bydd ar y ddaear." Ni fedr y ddaear byth greu eira, nac ychwaith ddihidlo'r gawod wlaw. Er mai o'r nefoedd y daw'r ddwy fendith, fe ddiolchir yn ami am y gwiaw gwedi sychder mawr, ond m chlywais sant erioed yn rhoddi èiolch am yr eira glan. Fel y gwlaw cynnar a graslawn, mae'r eira hefyd yn rhinwedd i adfywio a ffrwythloni. Gwedi gostegu- Yr wybrwynt helynt hylaw Agwrdd drwst a gerdda draw." Yn ara f disgynnodd yr eira yn dyner a distaw, gan orchuddio pobeth i'w liw ei hun, yn ystod oriau'r nos. Wrth edrych drwy' r ffenestr y bore Gwelais eira ghvys oerwyn Ir, heb un brisg, ar ben bryn." Yr oedd yr olygfa yn ddymunol ac arddunol, a hedd a gwynder yn teyrnasu dros y wlad. Mor dlws yw'r hen ddyffryn rhamantus yma'n gwisgo'i fantell wen ddiniwaid, a' r Graig.Ddu a'r Mynydd Du cyn wynned a' r eira yn Salmon. Wrth weled yr eira mor wyn a phux ar y bryniau a'r mynydd- oedd, dyma'r adeg yr wyf yn sylweddoi fy mod yn bechadur, ie, yn bechadur mawr hefyd, a pharod ydwyf i ganu gyda P antycelyn- Mi ddof allan Fel yr eira ar y bryn." Os yw' r pibonwy yn hongian oddiar y bargod, a'r rhew wedi clol'r dwfr yn y pibellau, a rrinnau bechadur du jynghanol gwynder o'm cwmpas, 'rwy'n diolch yn gynnes am y fraint werthfawr o gael ymolchi mewn dwfr eira. Dylem ddiolch fwy am yr eira glan, canys cenhadwr heddychol ydyw, yn wasanaethgar .i ddaear ac i ddyn, a thrwy ei weinidogaeth ddi-dal y daw had i'r hauwr, a bara i'r bwytawr." Mor darawiadol i ni heddyw yw'r englyn hwnnw gyfansoddodd Trebor Mai, i'r eira mawr yn lonawr, rhyw hanner can mlynedd yn ol— Er i leni creulona--cira gwybr. Gael y byd i'r ddalfa; Bydd pob dol, ar ol yr iä, Y nile neis Ebrill nesa." Maddeu im', ddarllenydd mwyn, am ddyfynnu cymaint o farddoniaeth bur beirdd fy ngwlad yn fy llithiau, canys: 0 bob dawn radlawn a roes Yr Ion yn gysur einioes, I Hynotaf peth yn natur Yw mwyn-wakh bardd mewn iaith bur. Ie, fy boff bleser ydyw darllen a cheisio astudio ychydig o weithiau 'r beirdd, o D da fydd ab Gwilym i lawr hyd at Gwydderig, Ymherawdwr y Gynghanedd. Gwrando eto ar y gwr ganodd ormod e gywyddau i'w Forfudd aawadal, yn canu i' r eira: Ni chysgaf, nid af o dy, Ymhoen ydd wyf am hynny, Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw, Na lie rhydd, na llawr heddiw. Ni'm twyllir o'm ty allan Ar air merch i'r eira man. Pla yw'r gwaith, plu ar y gwn A drig fal chware dragwn. Fy esgus yw' r fau wisg sydd Mal unwisg a melinydd, Ai celwydd wedi'r Calan Wisgo o bawb wisg o ban? E dderyw Dduw'r ddaear ddu 0 gyJchoedd ei gwyngalchu. Blawd man yw'r pan ar bob pill, Blawd wybr fal blodau Ebrill, Lien oergur uwch 11 wyn irgoed, Ltth o'r calch yn llethu'r coed. Grut oer yw gweryd tir âr, Gweren dew ar groen daear, Cawad rydew o ewyn, Cnuau mwy na dyrnau dyn, Trwy Wynedd y trywenynt, Gwenyn o nef, gwynion ynt."
"Ar y Groesffordd." I
"Ar y Groesffordd." I Cawsom berfformiad gwir deilwng o r ddrama enwog a chlasurol honno, "Ar y Gioesffordd," nos Sadwrn di- weddaf, yn Neuadd Gyhoeddus Gwaun-cae-gurwen, gan Mr. John Evans (Garnantydd) a'i barti. Gwnaeth Mr. Melfyn Evans i'r Parch. Eifion Harries fyw mewn gwirionedd ger bron ein Ilygaid; a phe bae Nell Dafis, merch Die Betsi, ei hun ar y llwyfan, ni fuasai'n medru dangos ei chymeriad yn well nag y dangoswyd ef gan Miss Olwen Thomas. Cymerodd Garnantydd at gymeriad Dic Betsi gydag hwyl a fuasai'n gorfodi hyd yn oed i Bill Sikes, er garwed hwnnw, gilio i'r cysgod mewn cywilydd o'i dymherau gwlanenaidd. Niae'n wir i'r lleiil o' r parti cymryd eu rhannau' n gampus iawn; ond teimlwn, er hynny, y gallasent fod yn well, pe buasent wedi rhoi mwy o sylw i'w gwisgosdd. Eto, wedi cyfrif y cyfan i fyny, gallwn ddywedyd yn ddibetrus mai Ar y Groesffordd" yw'r ddrama fwyaf per- ffaith a chlasurol a chwaraewyd eriosd ar Iwyfan gyhoeddus Gwaun-cae- gurwen. Hyderwn y bydd Ar y Groesffordd" yn symbyliad i ddramod- wyr ereill y cylch i gerdded allan o ddyffryn niwIog y sothach anghelfydd sydd, hyd yn hyn, wedi cael cymaint sylw ganddynt, i feysydd eang a thor- eithiog awduron yr ysgol newydd.
Nodion o Benygroes.
Nodion o Benygroes. Bore Gwener diweddaf, yn nhy ei ffrindiau, Mr. a Mrs. Davies, Eryl, bu farw Mrs. T. Roberts, gynt o Maes- glas, ar ol cyrraedd yr oedran teg o driugain a deuddeg mlwydd oed. Symudoda y teulu o'r ardal hon flyn- yddoedd lawer yn ol i Spade Oak Farm, ger Llundain, ac oddiyno y daeth Mrs. Roberts ar ymweliad a' r hen gymdogaeth rhyw ddau fis yn ol. Cyn mynd i Loegr, yr oedd ei phriod, y diweddar Mr. T. Roberts, yn ddiacon parchus yng Nghapel Peny- groes (A.), ac ym mynwent y capel hwn, gyda'i hen gyfoedion, y gorffwys yntau oddiwrth ei lafur, ers blynyddau bellach. Dywedir fod yr adar yn trengu wrth y cannoedd ar y tywydd oer yma. Yn wir, y mae lie i ofni y bydd rhaid i ni foddloni ar yr ychydig fiwsig sydd gan geiliog y rhedyn yr haf nesaf, oher- wydd mae'n bosibl y bydd cor y wig wedi tawelu am byth, os na ddaw cyf- newidiad buan. Y chwi sydd yn hoff o glywed yr aderyn du ya canu ar y goeden ger y bwthyn, bob bore a hwyr drwy'r gwanwyn, peidiwch ag anghofio estyn tamaid i' w gadw yn fyw, y dyddiau enbyd hyn. Y mae dwr yn brin iawn yma, y dyddiau hyn; mor brin, fel y gorfodir llawer i gasglu eira a'i doddi er mwyn cael dwr i wneud bwyd. Y tebygol- rwydd yw fod Llygad Llwchwr wedi cau ar y rhew yma; wela,is i ddim deigryn oidlyno, beth bynnag, ers tipyn. Doniol iawn yw gweled ambell un yn cario dwr o bellder ffordd mewn ystenau, neu fwcedi, a phan gerllaw y ty yn cwympo ar yr ia a cholli'r cwbI. Wrth gwrs, ni fydd yr awdur- dodau mor ffol a dod i ofyn i bobl Penygroes am dal dWr, y tro nesaf; neu fe fyddant yn agar y ffordd i eraill ddod atom i ymofyn arian am beth nad ydym wedi ei gael. WIL HOPCYN. I
[No title]
Danfonir y Cronicl yn wythnoso! trwy y Llythyrdk i unrhyw gyfeiriad am 3/3 yr haner blwyddyn, neu 6/6 y flwyddyn, blaendal.
Advertising
OS YDYCH YN DIODDEF oddiwrth Annwyd yn eich Pen, neu Gatir ya eich Ffroenau, neu oddiwrth yr Anwydwst, neu Dwymyn y Gwair, y peth goreu posibl i chwi yw NOSTROLINE." Y mae'n lladd yr achos o honynt yn lIwyr, ac yn clirio'r pen a'r ffroenau a r gwddf yn well na'r holl gyffyriau eraill a gynhygir i chwi. Dylai NOSTROLINE" fod wrth law ymhob cartref. Meddyginiaeth ryfeddol ydyw i atal annwyd neu ei wella. Fe'i coir oddi- wrth Fferyllwyr am 1/3 a 3/ neu drwy'r post am 1/5 a 3/3, oddiwrth y perchenogion, Harold E. Matthews t't Cwmni. FferyUwyr. Clifton, Bryste.
Nodion o Saron.
Nodion o Saron. Cwyn glywir yn lied gyffredin gan ardalwyr Saron ydyw na fyddai rhywun o' r lie yn curo wrth ddrws Golygydd y Cronicl, yn awr ac eil- waith, i ofyn am ofod fechan er croniclo rhai o ddigwyddiadau mwyaf diddorol yr ardal. Effaith y cwyno hyn yw fy mod i wedi penderfynu an- turio at eich drws ag ychydig nodion byr yn y gobaith y bernwch hwynt yn deilwng o sylw a lie ar dudalennau eich newyddiadur clodwiw. Mae llawer o ardal Saron, fel pob ardal arall, y dyddiau hyn, ar wasgar ar hyd a lied y byd. Ceir rhai ohonynt yn Ffrainc, eraill yn yr Aipht a chyffiniau gwlad Palestina; rhai ohonynt ar dueddau Macedonia, eraill yn gwynebu ar Babylon a Gardd Eden, ym mhellderoedd Mesopotamia. Ceir ambell un yn marchogaeth y don ar foroedd y Gogledd a' r Canoldir; ond er y pellder a phrysurdeb yr amser, nid ydynt yn amddifad o'r Cronic l, a beth sydd yn fwy diddorol iddynt na chael gwybod digwyddiadau a symud- iadau ardal hyfryd lie y' u magwyd? Nid yw yr ardalwyr wedi anghofio y bechgyn sydd fel yma wedi gadael cartrefi cysurus, ynghyd a'r rhai sydd yn annwyl ganddynt, a gwynebu caledi rhyfel er amddiffyn gwlad, cartref, rhyddid, a chyfiawnder. Mae darpar- iadau wedi eu gwneud ers misoedd bellalch i estyn croeso cynnes, ynghyd a rhodd fechan, i bob un ar ei ym- weliad a chartref a faes y gad. Yr ydym wedi cael y pleser o roesawi amryw ohonynt, ac o ganlyniad, wedi cael cyngerddau mynych; ond nid yw y diddordeb yn llai, ac nid oes an- hawster sicrhau adnoddau cyngerddau o radd uchel. Nos Fawrth, C-hwefror 6, cawsom y pleser o roesawi Sergt. Owen Roberts, R.W.F., am dro adref o Salonica. Cynhaliwyd y gyngerdd yn Ysgoldy'r Cyngor, fel arfer, a gor-lanwyd yr adeilad y tro hwn eto yn gynnar. Llan., wyd y gadair gan Mr. H. Morgan, ysgol reistr, ac ni raid iddo wrth eiriau canir.oliaethus. Wedi araith bwrpasol y cadeirydd, awd drwy y. rhaglen a ganlyn:- T Tnawd, Mr. Emrys Bevan; adroddiad, Miss R. M. Davies; deuawd, Masters Emlyn Twaite a T. J. Morris; unawd, Miss Edna Doris Rees; adroddiad, Mr. Dd. Shadrach Davies; adroddiad, Mr. Morgan Mor- gan; unawd, Mr. Harry John; ad- roddiad, Mr. Dd. J. Walters; unawd, Mr. John R. Jones; adroddiad, Master Elwyn Rees (ad-alwyd); unawd, Miss Lizzie M. Davies (ad-alwyd); unawd, Mr. Thomas Pugh Bevan; adroddiad, Miss May Bevan. Cafwyd gwasan- aeth gramophone dan ofal Mr. Willie Davies, Malta House. Siaradwyd ychydig eiriau gan Mri. Henry Elias ac Evan Bevan. Darilenwyd penillion croesawol yn Saesoneg gan "Rhyd- fab (gwel mewn colofn arall), a' r pennill a ganlyn gan Mrs. Vaughan, Pantyblodau Croeso, gyfaill, i dy adre A dy ardal lan; Bachgen wedi gwneud ei ore Trosom yn y tan. Rhoddaist her i'r Caisar creulawn, Rhoddaist her i'r Sultan cas; Rhoddwn ninnau gtoeso calon I ti heno am fynd mas. Trosglwyddwyd rhodd dros weithwyr a swyddogion Glofa'r -Wernos gan Mr. Augustus Williams, a rhodd ardal- oedd Saron a' r Hendre gan y cadeir- ydd. Wedi'r diolchiadau arferol, terfynwyd drwy ganu ein Hanthem Genedlaethol, Mr. John R. Jones yn cymryd yr alaw. Deallaf fod mudiad ar droed i annog ac hwylysu ffordd i'r plant i ddiogelu eu ceiniogau, drwy fenthyca i'r Llywodraeth yn y War Loan, ar delerau a diogelwch eitbriadol. Heb- law bydd hyn yn gymorth mawr i' n miilwyr a'n morwyr, bydd hefyd yn dysgu d'arbodaeth i' r plant. Hyderaf y rhoddir sylw manwl i'r cylch-lythyr pan ddaw. # # Hysbysir ni hefyd fod telerau teg yn cael eu cynnyg i'r neb a fynno gael darn o dir i osod pytatws ynddb, y gwanwyn hwn, gan rai o dir-feddianwyr mwyaf y plwyf. Pwy bynnag sydd arno eisiau ya y cyfeiriad hwn, ym- ofyned fig aelodau y Cyngor PlwyfoJ. I Mae angen y wlad yn galw am oreu pawb. I IEUAN AP TOMOS.
CONCRO'R SIPSI.I
CONCRO'R SIPSI. I Clywsid y gog ers trydiau yng nghoed Glynyradar, a chwifiai y banadl a' r eithin eu baneri eurlliw hyd minion Aman. Distawodd swn y morthwyl ar eingion y gof ers meityn, a thyrrai glowyr ieuainc y Bettws ynghyd, yn hedd yr hwyr, i wylio'r haul yn machlud ar fynwes Llynllech- owain, ac i son am ddifyr helyntion yr hen fro. Eisteddai nifer ohonom yng nghwrr gardd fechan, pob un yn adrodd stori yn ei dro, a thorrai ein chwerthin yn don o lawenydd ar dawelwch yr hwyr yn amI. Ond, ust! dyna swn troed ysgafn yn dfingo r walmant at gefn y ty, a churo brysiog ar y drws yn dilyn. Egyr y drws ar fyrder, a dyna gyfarchiiad sionc: Good evening, madam. Any of the boys at home?" Yes, they are in the garden; go down and see them." Dyma wr bychan, gwargrymog, yn dod atom, ei ddillad yn garpiog, a bawd ei droed allan drwyei esgid, a llwch deuddydd neu dri ar ei wyneb. Bob Price, myn diain i," ebe un ohonom. How are you Bob?" -All right, boys; how's yer- sel ves ? Well, not so bad, Bob. How's the wife?" Oh, she's all kiff; she knows 'ow to take care of 'erself. That's right. Will you have a •smoke?" Well, I don't mind." Ar amrant, dyma bibell cyn ddued aIr simne allan, ac wedi i'r ieuengaf ohonom ei llanw, a roi tan ynddi, dyma'r hen sipsi yn swatio ar y clawdd, ac yn tynnu nes creu cw-mwl o f\vg. Got any finches now, boys?" Yes, a couple, Bob." Any good?" Yes, all right, you know." Ay, but the birds round ere aint much good. Yer ought to see the birds 'bout 'Ereford way. Why, they're twice the size of the ones round 'ere." 46 Yes, but they are not such good singers, after all, Bob!" Ain't they, be gad! Yer ought to see the one I've got down the tent at the riverside. E' s a real terror. 'E's a peathroat, 'e is. Caught him up 'Ereford way in an orchard. Why, 'e's as big as a thrush, and singing- look ere, we can't sleep of a morn- ing 'cause of the row 'e makes. 'E s a fair knockout, 'e is." Is he for sale, Bob?" Well, if everthink was all right, I wouldn't part with him for a for- tune. But, you know, times is I ard, and I've got to keep the family going." But, tell the truth, Bob; is he a real good one?" E' s the real stuff, me boy; pea- throated, white-legged, and a six- spotted one, too. I tell yer, 'e's a fair knockout. Never eard anythink like him in my puff. I'm a-willing to back 'im 'gainst any finch in creation. Ebe'r ieuengaf ohonom ar amrant, a mellten chwareus yng nghil ei lygad: Right you are, Bob, I'll take you. My little finch shall sing him for half a quid any time you like, if you are willing. Willing, be gad. Why, I'd back him to beat any bloamin' finch in creation for a thousand quid, if yer likes. Right. When will we have it 010" I '4 An me Any time yer likes, me lad." Will to-morrow morning do, Bob? 'Twill do me fine, boys." "We'll be down to-morrow morn- ing about six o'clock then, if it suits you." Right-o. Good night, gentle- men. Dringai'r haul dios ysgwydd Mynydd y Bettws, pan gyfeiriai dau laslanc eu camrau, a lluwch hiraos o lafur caled yn y lofa ar eu gruddiau, tuag at babell y sipsi ar fin Aman. Cariai yr ieuengaf ohonom gawell, ag eurbinc hoyw ynddo, dan ei gesail. Yn araf deuthom at y babell. Good morning, gentlemen," ebe Mrs. Price wrthym, a gwyneb llydan fel pe bai wedi herio sorwyntoedd I canrif a mwy. Good morning, Mrs. Price," ebe ninnau. Where's Bob?" Oh, 'e's a-sleepin', the lazy beggar. Git up, Bob; some gentlemen want to see yer. Dyma Bob o'i wal ar amrant, gan ddweyd: I'll be with yer in a jiffy, I ft boys. Trodd brenhines y babell atom, a chyfeiriodd ei bys at gert oedd. yng nghwrr arall o'r ynys, ac ebe hi: What do yer think of them chaps over there, sleeping on a bundle of rags, that they don't know what's on em, the dirty beggars? Yes, indeed, ebe ninnau; a chanfyddem gyda' r gair draed noeth un o'r teulu yn gorffwys ir y glaswellt drwy rwyg yn y babell. Gyda hyn dyma Bob yn dod o'r afon, wedi hanner ymolchi, ac ebe: Now then, boys, where's yer champion? Here he is, Bob." Gesyd y ddau eurbinc yn yr eithin, ei eiddo ef a wyneb at yr haul, a' r eiddom ninnau o'r golwg yn y cysgod. Eithr ni fuom yn hir cyn unioni'r cam. Dyma ein cerddor bychan yn dechreu arllwys ei felodud, gan wresogi o gainc i gainc, nes oedd èi fiwsig yn distyll yn ffrwd o gynghanedd tros y lie. Ond ni ddeuai yr un tine o gawell aderyn y sipsi. Ebe Bob: Well, be gad, what's the matter with 'im? I've never seen im fail afore." Gyda hyn, cyfeiriodd ei gamrau at gawell ei aderyn, gan dywallt bygythion dirif uwch ei ben. Ond nid oedd dim yn tycio yr aderyn bach. Yr oedd wedi penderfynnu bod yn fudan am y tro. He might have had a cold, Bob ebe fy nghyfaill, yn chwareus. No, no, boys, 'e's broke 'is eart; that's what 'e's done. There's a lot of change 'tween ere-and 'Ere- ford, yer know. But 'e'lI come all right when 'e gets used to the cl imate. Yes, he is sure to come all right again. Bob." Well, I've lost the bet, boys; but the darned thing is, I ain't got a cent on me this morning." Never mind, we shall meet again." I hope so. Good morning." Good morning, Bob." D. R. G. I
EISTEDDFOD BETHEL, BLAENAU,…
EISTEDDFOD BETHEL, BLAENAU, CAERBRYN. At Olygydd Cronicl Dyffryn Aman. Syr,—Wrth ddarlien eich papur pobiogaidd, gwelais fod y beirdd enwog, Ben H. Jones a George Griffiths, wedi cipio y wobr anrhyd ed-dus am y ddau bennill wyth llinell ar y testun, Goleuni," yn Ysgoidy Bethel, Blaenau. Cafwyd eu bod yn gydradd o ran teilyngdod; a chan fod y wobr yn ddigon mawr, nid oedd gan y beirniad ddim arall i wneud ond ei rhannu rhyngddynt. Yr oedd y fuddug- ol,iaeth yn golygu Ilawer mwy na chipio'r wobr, oherwydd dywedir fod un bardd cadeiriol yn cynnyg, a hefyd un neu ddau o feirdd coronog, neu hanner-coronog, o leiaf. Y mae hyn yn galondid mawr i'r ddau frawd Muanc, am eu bod wedi gorchfygu y fath gewri. Os yw pwyllgorau eistedd- fodol am gael beirdd goreu ein cenedl i gystadlu o hyn allan, rhoddent wobrau airrhydeddus fel gwnaeth pwyllgor Eisteddfod Bethel, fel y gall y beirniad hollti'r blewyn, os bydd dau ymgeisydd yn gydradd; a bydd pob ym- geisydd yn derbyn gwerth ei farddon- iaeth wedi rhannu y wobr rhyngddynt. CYMRO BACH, j
iY FLWYDDYN 1916. I
Y FLWYDDYN 1916. I (Buddugol yn Eisteddfod Ebenezer, Brynaman, Ionawr 20, 1916). Rhyfeddol ymhlith holl flynyddoedd y ddaear Yw hanes ei ymdaith o'i chychwyn iIw bedd; Certh stormydd cynddeiriog, dwys ing- oedd a galar Y rhyfel echry-dus anurddodd ei gwedd: Dynoliaetk fu' n wylo uwch maes ei chyflafan, Anrheithiwyd teg wledydd, aeth masnach yn flin, Llaw greulawn y Bwystfil wnaeth ddelw o'i hunan Ar gyflwr cymdeithas yn 1916. Nos pryder ymdaenodd dros fyrdd o aelwydydd, Aeth defnydd cynhaliaeth yn brin ac yn ddrud; Gan boen eu hanghenion y gwelwodd y gwledydd, Casineb gelynol draws-Iywiodd y I byd. Gobeithion y werin mewn siomiant fu' n wylo Wrth weled gorfodaeth filwrol fel cawr Yn rhwygo cartrefi' r diniwed â' i gyffro, Gan luchio banerau plaid rhyddid i'r llawr. Gwneud arlwy ddinistriol i'r cleddyf a'r fagnel Fu ymdrech egniol celfyddyd pob gwlad; Eu coffrau wagasant ar allor y rhyfel Yn dyrrau anferthol er cynnal y gad: Uchelwyr cymdeithas o'u seddau yn syrthio, Eu hurddas gollasant-aeth rheswm dan draed; Dymchwelwyd gorseddau gan anterth y cyffro, Aeth bywyd yn ddibris mewn mor- oedd o waed. Gwareiddiad fu'n griddfan fel prudd ddioddefydd, A'i fyrdd ddiwygiadau heb gyrraedd eu nod; Ei gwarthus alanas fydd maes yr hanesydd, Ei threuliau yn feichiau i' r oesau sy'n dod. Ond cyn rhoddi ffarwel clywid persain 1 lawenydd Yn treiddio trwy gaddug y flwyddyn a'i chlwy: Cyhoedda fod Cymro ar Brydain yn Llywydd, Tyr gwawr buddugoliaeth, cawn heddwch byth mwy. EDWARD PHILLIPS. Brynaman.
LLONGYFARCHIAD
LLONGYFARCHIAD I'r cerddor cerddgar, Mr. Wyndham Davies, dilledydd, Amanford, am ei lafurus gariad ym myd y gan. Teilwng waith sydd gennyf heddyw, Swynol ac edmygol iawn; Ceisio rhoi cyfarchiad clodwiw I Wyndham Davies, cerddor llawn. Clywais sylw dro a fu Am dano, 'r cyfaill diddan, F el anveinydd cor o fri- Cor Meibion glew Rhydaman. Pwy na theimilai iasau twymol Pan yn clywed dro 'r ol tro, 0 lawenydd digamsyniol Am Iwydd y cyfaill hwn o'n bro? Cerddor cerddgar a 1 lafurus, Dyma rhai nodweddion hwn: Arweinydd hylon a gwir fedrus, Boddlon o dan bwysau',i bwn. Nid rhyw enw mawr hirwyntog, Nac un ymffrost gwag, difudd, Sy'n symbylu Wyndham enwog, Ond hunan-aberth-dyna sydd; Hwn sydd drysor amhrisiadwy, Nad oes cyfoeth byth a'i pryn; Dyma brynodd fyd colladwy Ym Mhalestina draw cyn hyn. Uwch, uwchach dos, gyfaill, eto, A mwy llacher fo dy gan, Yn wastad dy arwyddair fyddo- Ym mlaen, ym mlaen, ym mla'n; A chofia ddal i ddringo Hen fynydd cribog Rhaid; Dwed wrth neb a eiddigeddo, Saf draw," a mi baid. Does dim, rhaid i ni gofio, Ddacth i ran neb rio' d, A gwir anrhydedd ynddo Heb ymdrech at y nod. Da, gyfaill, paid ag ofni, Nac esgeuluso'th ddawn; Dos rhagot mewn daioni, A Duw a'th lwydd yn Hawn. A chwithau, feibion awen, I A chan a lien i gyd, Drwy oil o Ddyffryn Aman, Gwnewch gofio hyn bob pryd- I bleidio'r sefydJiadau Sy' n dyrchu can a raoes, » A gododd ein cyndadau Trwy ddirfawr ing a Ioes. DAVID R. JONES Tirydail, (Jones y Northman). Rhydaman.
Advertising
1- Yen Can Rely On °H £ ^D!dPmss- e a d S-* Remedy, In either Sex. for all Acquired or Constitutional Discharges from Drlnary Organs. Gravel. Pains in the Back led kindred complaints. Over 50 Years' Success. Of C I a r k e' S .11che tn ists, 4/6 per box. \J I d J. C 9 sent direct. post free. for Sixty Penny Stamps by the M 4 |11- Proprietors The Lincoln B41 Pi-Ils and Midland Counties Drug Co.. Ltd., Lincoln. (Fre. from Metroary