Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BETTWS G.G.

News
Cite
Share

BETTWS G.G. Y Gymanfa Ganu :—Mae hon bellach yn mblith y pethau a fu. Cynbaliwyd hon yn Ngbapel y Gro, dydd Iau, Hydref 23ain. Yn absenoldeb y Llywydd penodedig, cymer- wyd y Gadair gan y Parch T. D. Parry. Cafwyd ychydig eiriau ganddo cyn cyflwyno y cyfarfod i ofal yr arweinydd Mr. Harris Jones, Ruthin, yr oedd yntau fel arfer yn ei hwyliau goreu. Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Mr. H. J. Edwards, Post Office, a cherddorfa lawn hefyd, ac yr oedd yn wledd o'r lath oreu i wrando arnynt oil yn myned trwy eu gwaith. Yr oedd hyn yn newydd beth yn banes y Gymanfa eleni a sicr genym y bydd i lawer o'r plant eu cofio am eu hoes Daeth eynulliadau da iawn ynghyd, a chafwyd canu rhagorol iawn hefyd. Cafwyd gair yn ystod y cyfar- fodydd gan y Parchn. T D Parry, Gro, J H Owen, Dinmael, T. Elwy Wiliams, Cernioge Mawr. Ni bydd i neb o honora yn fuan anghofio y wledd a gawsom yn y Gymanfa bon, ond nid oedd rhai heb fod yn wrth- wynebol i gael y Gerddorfa ond mae hynny i'w briodoli i ddiffyg gwybodaeth a chwaeth. Er fed Teyrnaa y tywyllwch wedi bod yn bawlio gwaBanaeth )r offerynau hyn yn y gorffenol, da ydyw gweled a chlywed eu seiniau melodaidd yn dyfod i'r cysegr yma yn ddiameu y mae lie pob peth goreu. Canwyd yr Anthem Am fod fy Iesu'n fyw," (Tom Price), yn ystod y cyfarfodydd a chaed canu da iawn ar yr anthem rhagorol hon. i Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan Mr. W. Jenkin Hughes, Dinmael, a chafwyd gamldo yntau anerchiad buddiol a 'phwrpasol iawn fel arferol Drwg genym oedd gweled y tywydd wedi troi mor wlyb at y nos. Talwyd y diolchiadau arferol gan Mr. Thomas Jont's, Dinmael, a chefnogwyd gan Mr. P. Vaughan, Cynfal, a pbasiodd yn unfrydol. Wedi hyny ymwahanodd pawb wedi cael gwledd ragorol iawn. Darparwyd hefyd ddigonedd o fwyd- ydd gan y chwiorydd darbodus yn; dle fel arfer, yr hwn a fawr ganmolid gan y lluaws. Brysied y dydd i gael gwledd o'r fath eto yn fuan yw ein dymuniad. Ein Milwyr -Da genym oil weled ein cyfaill ieuauc Private David Evans, Hoyal Warwicks, Fach, wedi cael dyfod adref eto unwaith. Cafodd y cyfaill-hwn ei glwyfo yn drwm iawn yn Ffrainc, a rhyfedd ei fod yn fyw druan. Mae wedi bod yn yr Hospital am oddeutu 14 mis, ac wedi cael ei symud oddeutu dau fisyn ol i GraDgeshorp Hospital, Man- chester. Mae golwg gwell arno nag a fuasern yn feddwl ar ol y fath ddioddef agafodd, ond fod ei fraich dde yn hollol ddiwerth iddo eto. Bydd yn troi yn ol ddechreu y mis nesaf. Dymunwn oil iddo lwyr wellhad buan a gobeithiwn gael ei weled adref eto yn fuan ac wedi cael ei ryddhad. L Myfyr Alwen.

IGWYDDELWERN.

£ 40 FINE FOR BEER PROFITEER.

[No title]

Advertising

I -CERRIG-Y-DRUIPION.