Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Belgium mewn Adfyd.

News
Cite
Share

Belgium mewn Adfyd. Mae treialon a phrofedigaethau yn anghen- rheidiol i genedl yn ogystal a phersonau unigol erfdadblygiad ei chymeriad ac addfed- iad ei henaid. Yr oedd Belgium fel cenedl yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf wedi cael y fath lwyddiant fasnachol ynghyda'r gradd uwchaf o ddedwyddwch tymhorol nes iddi es- geuluso dadblygiad ysprydol. Aberthai ei dynoliaeth uwchaf ar allor Mamau ac yr oedd gwychder ac esmwythder bydol yn ganolbwynt ei bywyd. Yr oedd yn ei brys i sicrhau cyfoeth a pleserau daearol yn sathru y delfrydau goreu o dan ei thraed. Nid ydym am foment yn cyfiawnhau trais a chreulondeb Germani ond credwn y bydd cenhedlaetholdeb Belgium ar 01 y galanastra hwn yn cael ei adeiladu ar sylfaeni mwy rhagorol a chadarn, ac y bydd cydraddoldeb cymdeithas ar ol hyn yn enyn fwy o gydymdeimlad, yr hwn fydd yn sym- byliad iddynt rodio llaw yn llaw i gyfeiriad gwawr rhyddid a theyrngarwch tuagat ei gilydd a'u gwlad. Dibyna gwerthfawredd yr offrwm ar fawredd yr aberth a bydd y delfrydau ar ba rai yr adeiledir y Belgium newydd wedi ei puro trwy dan gorthrymderau. Nis gellir cyfeirio at unrhyw gyfnod yn hanes Belgium pan yr oedd ei dynion goreu yn mynd i'r tin dros egwyddor na'i chymeriadau glanaf yn mynd i'r dienyddle dro3 wirionedd ac ni chododd erioed ddynion tebyg i Luther, Melancthon, Cranmer, Knox, a Penri. Eulunod penaf Belgium er dyddiau Caesar a Tacitus ydoedd Cadernid a Dewrder ac nid oedd ei heglwysi gorwych a'i hadeiladau mawrion yn ddim amgen na cof-golofnau i'r gau-dduwiau hyn. Nid oedd ei phwlpudau oud araithfeydd politicaidd i hyrwyddo cyf_ undrefn sydd yn seiliedig ar athrawiaethau pwdredig a'i gweinidogion yn vmbesgi trwy fudr-elwa yn enw y Person mwyaf mwyaf hunan-aberthol a rodiodd y greadigaeth. Credwn y daw y genedl fach allan o'r ffwrn hwn wedi ei phuro ac y bydd yr argyfwng y mae yn myned trwyddo yn ddechreuad nefoedd newydd a daear newydd yn Belguim. :—+

..CORWEN. I

ILLANDRILLO. I

Advertising