Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Enill a Colli ar y Mor. t Collwyd un avail o'n llongau rhyfel yn Mor y Gogledd trwy ym sodiad un o gychod tan-foraidd y Gerrnaniaid. Yr oedd y Theseus dan lywodraeth Cadben Hugh Edwards, ar Hawke dan lywodraeth Cadben Hugh Williams Ymosodwyd ar y ddwy ond bu y Theseus yn ffodus i osgoi tra y suddwyd yr Hawke ynghyda 327 o'r Bwyddogion ar morw; v Yn ngwyneh y golled uchnd mae genym i gofnodi llwyddiant ein llynges yn ei hymos- osiad ar y gelyn ar gyfer Holland pan y sudd- wyd pedair o'i llongaa rhyfel, ac y mae genym hefyd y newydd fod ein Llynges yn Awstralia wedi dal Hong Germanaidd. Colledion Germani a Prvdain mewn llongau sydd fel y canlyn :—Prydain, 10; Germani, 24 heblaw y ddwy, sef y Goeben ar Breslau, a werthwyd i Turkey er mwyn osgoi cael ei suddo yn Mor y Canoldir. Rwssia dim ond Dechreu. I Nid yw y rhan a gvmera Rwssia yn mrwydr fawr Ewrop ond yn dechreu yn awr yn ol addefiad y Rwssiaid ei hunain. Dywedant Dad yw y mân frwydrau sydd eisioea wedi cymeryd lie yn Galicia a Prwssia ddwyreiniol ond symudiadau rhagbarotoawl i chwilio an- sawdd y wlad tra yr oedd y fyddin gyffre- dinol yn cael ei pharatoii wneud ymosodiad ar raddfa eang. Erhyn hyd y maent wedi gwasgaru ei milwyr ar linell yn cyrhaedd 250 milltir, a dissrwylir y bydd ei ymosodiad ar y gelyn cydrhwng Warsaw a Dniester yn esgor ar lwyddiant. Nid oes gwybodaeth faint yw nifer y milwyr ar y naill ochr na'r Hall ond tybir fod dros ddwy filiwn a haner oRwssiaid a miliwn a haner o'r Germaniaid ac Awstriaid yn eu gwrthwynebu. Enill Tir yn Ffrainc. I Ofnir fod llawer o bobl yn edrych ar fedd- iant o Ostend gan y gelyn fel rhywbeth yn rhoddi manteision mawr iddynt ac yn anfan- tais i'r fyddin gyfunol ond ymddengys nad ydyw, o safle filwrol, yn atteb un diben iddynt. Bydd safle y gelyn ar hya o bryd, pan lwydda y fyddin gyftmol i gasglu ei nerth tua cbalonbarth llinell y frwydr, yn un O anfantais fawr iddo i gyrchn yn ol i gyfeir- iad Germani. Rhaid cofio nad yw y gplyn wedi enill dim yn ystod yr wytbnosau diwedd- af fydd o fantais iddo i enill y frwydr ond y mae y fyddin gyfunol wedi enill tir a safle- oedd ar hyd llinell y frwydr am 250 milldir fydd yn fantais aruthrol iddynt pan y gwneir yr ymosodiad cyffredinol ddisgwylir yn fuan. j Felly perygl yw i'r bobl gyffredin feddwl fod dymchweliad Antwerp ac enilliad Ostend yn arwyddion fod y gelyn yn llwyddo. Anafu Llynges Awstria. Ceisiodd amryw o longau rhyfel Awstria, pa rai sydd ers dechreu y rbyfel wedi ym- guddio yn Pola, wneud ei hymddangosiad ond gan gynted ac y daethant albn o'i hym- guddfa yr oedd nifer o longau rhyfel y Ffancod yn ei gwylio a gwnaethant alanastra mawr arnynt. Herio y Gelyn. I Pan gyrhaeddndd catrawd o'r Ffrancod Ile o'r enw Lvs gwelsant ei bod yn anmhosibl croesi yr afon gan i'r Germaniaid chwvthu y bont ac yn ei gwylio yn ofalus. Un noson penderfynodd y Ffrancod fyned trosodd a noOodd nifer o honynt gan gario rhaff oedd yn gysylltiedig a pont symudoL Cyn pen dwy awr yr oedd y catrawd i gyd drosodd yn chwalu y Germaniaid i'r pedwar gwynt. Deheubarth Africa. I Yn ngwyneb y ffaith fod yna fradychwyr yn codi yn Debeubarth Africa dywedir fod gan Botha ddigon o ddylanwvd a milwyr wrth ei alwad i roddi i lawrar unwaith pobsyinudiad fydd yn annheurngarol ei amcan. Yspiwyr Dichellgar. I Aeth pump o yspiwyr Germanaidd i Paris dydd Mercher diweddaf wedi ymgwisgo yn ngwisg cynorthwyon meddygol. Drwgdybi- wyd hwy a dygwyd hwy o flaen meddyg fel y croesholid hwy ar faterion meddygol ond methent ac atteb y cwestiynau ddyJasent fod yn adnabyddus i bob meddyg, a chafwyd nad oeddynt yn gwybed dim. Yna archwiliwyd eu paciau a cbafwyd, yn lie offerynau medd- ygol, ffrwdrbeleni, gynau a mapiau. Aethart i mewn i Paris ond nid oes tebyg yr ant allan. Catrawd o Canada. Cyrhaeddodd yr uchod i PJymout h dydd Mercher diweddaf gan feddwl am aros wyth- nos o leiaf yn y vrlad hon cyn mynd drosodd i Ffrainc ond dydd Tau daetb gorcbymyn o'r Swyddfa llhyfel yn annog iddynt barotoi i forio ar unwaith i'r Cvfandir. Mae yr olygfa hardd arnynt yn canyrchu edmygedd pawb tuag atynt Beth am Holland. Mae y syniad yn un cyffredinol yn yr Unol Dalaethau fod yn mwriad Germani i ddaros- twng Holland i'w meddiant. Os felly, bydd y 30,000 o'r Belgiaid a'r Prydeinwyr aeth yno o Antwerp yn gaffaeliad mawr i Holland fach i gau'r drws yn erbyn y gelyn.

Advertising