Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
BWRDD Y GWAROHEIDWAID, CORWEN.
BWRDD Y GWAROHEIDWAID, CORWEN. Cynhaliwyd Cyfarfod pythefnosol y Bwrdd Dydd Gwener diweddaf yn Ystafell y Bwrdd. Presenol :—Mr. D. W. Roberts (cadeirydd), Mri. R. Meyrick Roberts, R. J. Jones, Corwen Thos. Williams, Bettws William Williams a W. Roberts, Cynwyd H. Lloyd, Cerrig; Pencerdd William- Mrs. M. M. Richards, Llangollen Col. Parr-Lynes a T. Thomas, Llangwm J. Hughes, Llandrillo John Jones, Carrog; G. Evans, Bryneglwys David Jones, Brynsaint, Cerrig E. M. Edwards, Llangollea Edward Evans Jones, Llanfihangel Miss C. Walker, Corwen; Mri. E. Derbyshire (clerc) L. Williams (meistr) D. L. Jones a R. 0. Davies (Rheid- weinyddion). Dr. Walker (meddyg). Cofnodion. Darlienwyd a chadarnhawyd cofnodion y I cyfarfod blaenorol. Arianol. I D/ledus gan y Trysorydd E885 3g. Od. I Gohebiaetb. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd Lywodraeth Lleol yn ddatgan eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Mr. John Roberts, fel aelod o'r Bwrdd. Derbyniwyd llythyr o Undeb Bridgend yn ynglyn ag un o'r enw Richard Potts, gynt o Brynsaithmarchog, yn gofyn i Fwrdd Cor wen dalu at ea gynaliaeth. Pasiwyd iddo gael 5s. yr wythnos. Derbyniwyd gohebiaeth o Undeb Pwllheli ynglyn ag un Margaret Morris, gynt o Tyn-y- cefn, Corwen, yn gofyn i'r Bwrdd parhau i'w chynorthwyo. Pasiwyd i wneud hyny. Gostwng y Dreth. Gwnaed amcangyfrifiou o,'r 'precepts am yr haner blwyddyn nesaf, a dywedodd y Clerc fod treth yr Undeb wedi gostwng o 7fc. i 4tc. ar gyfartaledd, bydd y dreth ychydig yn uwch na 4tc. mewn rai plwyfydd. Mr. Pencerdd Williams Mae yr amcan- gyfrifion yn bwysig iawn i'r ran isaf o'r Undeb fel trethdalwyr sydd yn ta!u rhan helaeth o'r trethi ac fe ddylid ystyried hwythau. Dyma cyfarfod chwarterol y pwyllgor arianol a ddim un aelod o x pwyllgor yn bresenol i gynrychiol y rhan isaf o'r Undeb. Yr oedd hyn yn gywilyddus. Adroddiad y Pwyllgor Arianol. Darllenwyd yr Adroddiad uchod gan y Cadeirydd (Col. S. Parr-Lynes). Yr oedd yr adroddiad yn ymddangos fod y swm o 9264 wedi ei dalu am gynhaliaeth lunatics o'r Undeb yn Gwallgofdy Dinbych am chwar- ter blwyddyn. Eglurodd y Clerc fod yna 54 o bersonau o'r Undeb yn y Gwallgofdy ac yr oedd bob un yn costio 8s.2d. yr wythnos i'r Undeb. Nid oedd y cwbl o'r swm yn dod allan o'r trethi, derbynwyd tal oddiwrth perthynasau rai •0 honynt, ac hefyd talwyd swm gan Siroedd Dinbyeh a Meirion. Mr. T. Thomas: Y mae nifer y rhai gwall- gof yn yr Uudeb wedi cynnyddu yn diweddar. | Adroddiad y Meistr. r Nifer yn y Sefydliad yn ystod y pythefnos 57, lleibad o 2 ar yr un adeg y llynedd. Nifer y crwydriaid a gynortbwywyd yn ystod y pythefnos 37 lleihad o 13 ar yr adeg cyf- erbyniol y llynedd Y mae 11 o bersonau gwanfeddwl yn y Sefydliad. Cyflenwad o Pytatws. „ Pasiwyd i hysbysu am prisiau am cyflenwad I o pytatws i'r Sefydliad. Contract Esgidiau. I Gwnaeth amryw o'r tlodion allanol cais am esgidiau. Caniatawyd hwynt. Mr. Thomas Williams, Pencraig Beth yw yr achos fod contract" yr Esgidiau ddim yn dod ymlaen yr un fath a'r contracts eraill. Mr. D. L. Jones Yr wyf yn arfer myn'd i'r lIe bydd y bobl yn arfer a'u gael. Yr wyf yn credu fod y contract gan Mr. J. Davies- Hughes ond nid yw wedi cael ei adnewyddu yn diweddar. Nid wyf wedi trio'r dyn newydd yma eto. Mr. Williams Y mae dros flwyddyn ers pan gafodd Mr. Powell archeb am bar genych. Teg fuasai gosod contract yr esgidiau yr un fath a'r Ileill. e
ETHOLIAD CYNGHOR : DOSBARTH…
ETHOLIAD CYNGHOR DOSBARTH EDEYRNION. Cynhaliwyd etholiad yn rhanbarth uchaf Dosbarth Edeyrnion dydd Sadwrn diweddaf. Achoswyd yr etholiad trwy ymddiswyddiad Mr. John Roberts, Owen Glyndwr, Hotel, Cor- wen. Yr ymgeiswyr oeddvnt y Parch. J. W. Foulkes a Mri. R. J. Chapman. Cymerodd y pleidleisio le yn Ysgol Genhedlaethol Corwen, I fel a ganlyn :— CHAPMAN 166 FOULKES 108 Mwyafrif 53 I
Cyhoeddiadau Sabbothol Corwen.…
Cyhoeddiadau Sabbothol Corwen. Hydref 18fed, 1914. I Y WESLEYAID.—Mr. John Phillips, Llandrillo, 10 Parch. J. Pugh. Jones, Cerrig, am 6. YR ANNIBYNWYR CYMREIG.-Parch. R. Davies, Corris. BEDYDDWYR—Cyfarfod Gweddio am 10 Parch. H. C. Williams, am 6. YR ANNIBYNWYR SAESNIG.-Rev. J. W. Foulkes Y MET]IODISTIAID.-Parch. William Evans, Tal- sarnau.
Cyfarfodydd Diolehgarwch am…
Cyfarfodydd Diolehgarwch am y I Cynhauaf yn Nghorwen. Cyfarfodydd Diolchgarwch Undebol yn Nghapel yr Annibynwyr heno (Nos Fawrth) am 7 Cyfarfod Uudebol yn Nghapel y Methodistiaid am 2 prydnawn dydd f "Mercher, am 6-30 Nos Fercher cynhelir Cyfarfodydd Gweddio yn mhob capel ar wahan. » —
I Ewyllys Syr Edward Anwyl.…
I Ewyllys Syr Edward Anwyl. I I Gadawodd Syr Edward Anwyl, gynt o I Coleg Aberystwyth, yr hwn a fu farw yn dd- ewyllys, y swm o £ 3,462. J
LLANDRILLO.
LLANDRILLO. Marwolaeth.—Gyda gofid y croniclwn farwolaeth yr hen chwaer garedig Mrs. Mar- garet Foulkes, y Glyn, yr hyn gymerodd Ie ddydd Sadwrn, Hyd. 3ydd, yn 86 mlwyddoed. Dioddefodd gyttadd maith a hyny'n dawel, gan ymorphwys yn hollol ar ewyllys ei thad nefol. Yr oedd yn gymeriad mor hynaws fel ag yr oedd yn tynu pawb i'w hoffi a'i hed- mygu yn wraig rinweddol, ac yn hynod o grefyddol ei hysbryd. Yr oedd yn aelod fiyddlawn gyda'r M.C. tra y gallodd fynd a dod ogwmpas. Un nodwedd arbenig ynddi ydoedd ei haelioni at achosion crefyddol, ac yr oedd bob amser yn pryderu yn nghylch yr Achos Mawr. Chwith genym golli cymei iad mor hoffus a cbymwynasgar a gallwn ddweyd am hon fr 1 Mair gynt, "Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Gadawa 7 o blant i alaru eu colled o un anwyl, ac y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r oil yn eu trallod. Cymerodd y gladdedigaeth le prydnawn dydd Mercher pryd y daeth tyrfa liosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Marwolaeth arall.- Drwg genym gof- nodi marwolaeth Mr. Robert Edwards, tad Mr. Edwards, Station House, yr hyn a gymer- odd le boreu dydd Mercher, yn 68 mlwydd oed. Claddwyd ef dydd Sadwrn yn Llan- gollen. Cyfarfodydd Diolchg arwch—Cynhal- iodd yr Ymneillduwyr eu cyfarfod diolchgar- weh am y cynhauaf nos Lun a dydd Mawrth dweddaf, a chaed cynulliadau rhagorol a cnasgliadauda. DalioddEgl'wys y M.C. ei thir gyda'r casgliad arferol tuagat y Capel, a chyrhaeddodd eto eleni y swm teilwng o £ 25 12s. Od. Dydd Mercher cynhaliwyd Cyfarfodydd Diolchgarwch yn Eglwys y Plwyf pryd y gwasanaethwydgan y Parch. Thomas Lloyd, Rhyl. Casgliad ynglyn a'r Rhyfel — Gwnaeth yr ardal y swm anrhydeddus o JE21 tuagat y Gronfa ynglyn a'r Rhyfel.
CORWEN.
CORWEN. Harvest Festivals.—The annual Harvest Festival Services will be held at the Parish Church on Wednesday next, when the Rector of Denbigh will preach in English at 3 p.m. and the Rev. W. Eilian Davies, Llangwm, will preach in Welsh at 7 p.m. The follow- ing day at Rug Chapel, the Rector of Pen- machno will preach in English at 3 p.m., and in Welsh at 7 p.m.
AMSER GOLEU LAMPAU
AMSER GOLEU LAMPAU Hydref lle6 hyd 17eg. PRYDNAWN PRYDNAWHT 11 Sul 6.16 12 Llun 6.14 13 Mawrth gn 14 Mercher 6.9 15 lau 6.7 16 Gwener .o 6.6 17 Sadwrn 6.4
f GANWYD.
GANWYD. Hyd. IOfed-IMr a Mrs. David Jones, Betryai y Frenhines, Corwen, mab.