Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BWRDD Y GWAROHEIDWAID, CORWEN.

News
Cite
Share

BWRDD Y GWAROHEIDWAID, CORWEN. Cynhaliwyd Cyfarfod pythefnosol y Bwrdd Dydd Gwener diweddaf yn Ystafell y Bwrdd. Presenol :—Mr. D. W. Roberts (cadeirydd), Mri. R. Meyrick Roberts, R. J. Jones, Corwen Thos. Williams, Bettws William Williams a W. Roberts, Cynwyd H. Lloyd, Cerrig; Pencerdd William- Mrs. M. M. Richards, Llangollen Col. Parr-Lynes a T. Thomas, Llangwm J. Hughes, Llandrillo John Jones, Carrog; G. Evans, Bryneglwys David Jones, Brynsaint, Cerrig E. M. Edwards, Llangollea Edward Evans Jones, Llanfihangel Miss C. Walker, Corwen; Mri. E. Derbyshire (clerc) L. Williams (meistr) D. L. Jones a R. 0. Davies (Rheid- weinyddion). Dr. Walker (meddyg). Cofnodion. Darlienwyd a chadarnhawyd cofnodion y I cyfarfod blaenorol. Arianol. I D/ledus gan y Trysorydd E885 3g. Od. I Gohebiaetb. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd Lywodraeth Lleol yn ddatgan eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Mr. John Roberts, fel aelod o'r Bwrdd. Derbyniwyd llythyr o Undeb Bridgend yn ynglyn ag un o'r enw Richard Potts, gynt o Brynsaithmarchog, yn gofyn i Fwrdd Cor wen dalu at ea gynaliaeth. Pasiwyd iddo gael 5s. yr wythnos. Derbyniwyd gohebiaeth o Undeb Pwllheli ynglyn ag un Margaret Morris, gynt o Tyn-y- cefn, Corwen, yn gofyn i'r Bwrdd parhau i'w chynorthwyo. Pasiwyd i wneud hyny. Gostwng y Dreth. Gwnaed amcangyfrifiou o,'r 'precepts am yr haner blwyddyn nesaf, a dywedodd y Clerc fod treth yr Undeb wedi gostwng o 7fc. i 4tc. ar gyfartaledd, bydd y dreth ychydig yn uwch na 4tc. mewn rai plwyfydd. Mr. Pencerdd Williams Mae yr amcan- gyfrifion yn bwysig iawn i'r ran isaf o'r Undeb fel trethdalwyr sydd yn ta!u rhan helaeth o'r trethi ac fe ddylid ystyried hwythau. Dyma cyfarfod chwarterol y pwyllgor arianol a ddim un aelod o x pwyllgor yn bresenol i gynrychiol y rhan isaf o'r Undeb. Yr oedd hyn yn gywilyddus. Adroddiad y Pwyllgor Arianol. Darllenwyd yr Adroddiad uchod gan y Cadeirydd (Col. S. Parr-Lynes). Yr oedd yr adroddiad yn ymddangos fod y swm o 9264 wedi ei dalu am gynhaliaeth lunatics o'r Undeb yn Gwallgofdy Dinbych am chwar- ter blwyddyn. Eglurodd y Clerc fod yna 54 o bersonau o'r Undeb yn y Gwallgofdy ac yr oedd bob un yn costio 8s.2d. yr wythnos i'r Undeb. Nid oedd y cwbl o'r swm yn dod allan o'r trethi, derbynwyd tal oddiwrth perthynasau rai •0 honynt, ac hefyd talwyd swm gan Siroedd Dinbyeh a Meirion. Mr. T. Thomas: Y mae nifer y rhai gwall- gof yn yr Uudeb wedi cynnyddu yn diweddar. | Adroddiad y Meistr. r Nifer yn y Sefydliad yn ystod y pythefnos 57, lleibad o 2 ar yr un adeg y llynedd. Nifer y crwydriaid a gynortbwywyd yn ystod y pythefnos 37 lleihad o 13 ar yr adeg cyf- erbyniol y llynedd Y mae 11 o bersonau gwanfeddwl yn y Sefydliad. Cyflenwad o Pytatws. „ Pasiwyd i hysbysu am prisiau am cyflenwad I o pytatws i'r Sefydliad. Contract Esgidiau. I Gwnaeth amryw o'r tlodion allanol cais am esgidiau. Caniatawyd hwynt. Mr. Thomas Williams, Pencraig Beth yw yr achos fod contract" yr Esgidiau ddim yn dod ymlaen yr un fath a'r contracts eraill. Mr. D. L. Jones Yr wyf yn arfer myn'd i'r lIe bydd y bobl yn arfer a'u gael. Yr wyf yn credu fod y contract gan Mr. J. Davies- Hughes ond nid yw wedi cael ei adnewyddu yn diweddar. Nid wyf wedi trio'r dyn newydd yma eto. Mr. Williams Y mae dros flwyddyn ers pan gafodd Mr. Powell archeb am bar genych. Teg fuasai gosod contract yr esgidiau yr un fath a'r Ileill. e

ETHOLIAD CYNGHOR : DOSBARTH…

Cyhoeddiadau Sabbothol Corwen.…

Cyfarfodydd Diolehgarwch am…

I Ewyllys Syr Edward Anwyl.…

LLANDRILLO.

CORWEN.

AMSER GOLEU LAMPAU

f GANWYD.