Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
Corwen Brass Band will play selections on Market Square, Corwen, on Saturday evening next. Noson y Lecsiwn 1
MARWOLAETH MRS. PRITOHARD,\…
MARWOLAETH MRS. PRITOHARD, DDWYRYD, CORWEN. Boreu Sul diweddaf, Hyd. 4ydd, derbyniwyd y newydd galarus am farwolaeth Mrs. Pritchard, anwyl briod y Parch. J. Pritchard, Post Office, Ddwyryd, Corwen, ar ol cystudd maith a blin. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod selog yn Nghapel Annibynwyr Treddol. Gedy briod a mab i alaru ar ei ol. Nerth a gaffont i ymgynal o dan y brofedigaeth chwerw 'u cyfarfyddodd. Yr oadd yr ymaiavredig yn gymeriad tawel a siriol. Cymer y claddedigaetli (preifat) le yn Mynwent Glan'r- afon, yfory (Mercher). Yr oedd yr ymadaw- edig yn 63 mlwydd oed.
CYNGHOR PLWYF CORWEN.I
CYNGHOR PLWYF CORWEN. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol y Cynghor nos Wener diweddaf, yn Ystafeli y Llyfrgell, Cor- wen. Presenol: Mr. Hugh Morris (cadeirydd); Mri. L. Lloyd John, J. M. Jones, R. J. Chapman Samuel Edwards, J. Davies-Hughes, T. Lloyd Jones, David Davies, a J. Salusbury Roberts (clerc). Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Lamp Aber View. | Derbyniwyd cwyn ynglyn a'r lamp sydd yn ymyl Aber View, gan fod y gwrych yn ei orchuddio. Penodwyd Mri. Hugh Morris, Samuel Edwards, J. Davies Hughes a David Davies, i edrych y lie, ac i weithredu. Mabwysiadwyd cyn'lun a dynwyd allan gan Mr. J. Davies-Hughes mewn perthynas a goleuo lampau y dref. Llwybrau. I Pasiwyd i adgyweirio fence y 11 wybr sydd yn arwain trwy'r Coed o'r Orsaf Glo i Pen-y- bryn, pa un a dinystrwyd yn ystod yr ystorm a gymerodd le mis yn ol trwy i goeden syrthio .arno. Hefyd derbyniwyd cwyn ynglyn a sefyllfa y stepiau sydd ar y llwybr uchod. Hefyd, yr oedd yna gamdda ar y llwybr sydd yn arwain o Bont Corwen i Tycerrig, eisiau ei adgyweirio. Penodwyd y Cadeirydd, Mri. T. Lloyd Jones, R. J. Chapman, a J. Davies Hughes ymweled a'r lleoedd ucbod. Adroddiad y Llyfrgellydd. Nifer o Lyfrau fenthvciwyd yn ystod mis Modi, 1913, pump. Nifer a fenthyciwyd yn ystod mis Medi, 1914, pymtheg. ■ — f
Cyhoeddiadau Sabbothol Corwen.…
Cyhoeddiadau Sabbothol Corwen. I Hydref lleg, 1914. 1 I Y WESLEYAID.-Cyfarfod Gweddio am 10 Mr. Joseph Davies, Gwyddelwern, am 6. Y METHODISTIAID.-Mr. C. LI. Williams, B.A., Bala. YR ANNIBYNWYR CYMIZEIG.-Cyfarfod Gweddio ana 10. Parch. L. Davies, am 6. Yr BEDYDDWYR—Parch. J. S. Jones, Blaenau Festiniog, am 10 a 6. YR ANNIBYNWYR S.AESNIG.-Rev. J. W. Foulkes.
Cjfarfod Dosbarth Edeyrnion.
Cjfarfod Dosbarth Edeyrnion. CORWEN, Medi 25. Llywydd Mr. J. P. Hughes, Brookside. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. R. F. Jones, Llandrillo. Yr oedd yn bresenol gynrvchiolwyr o eglwysi Bryneglwys, Carrog, Glyndyfrdwy, Corwen, Cynwyd, Glan'rafon, Llandrillo, Gwyddelwern Moeladda. Darllenwyd a chadarnhawyd cof- nodion y cyfarfod diweddaf. Darllenwyd llythyrau'n cydnabod cydymdeimlad y Cyfar- fod Dosbarth diweddaf oddiwrth Mr. D. W. Roberts. Bryneglwys; Mr. J. 0. Jones, Carrog; Mr. Robert Evans, Glyndyfrdwy. Pasiwyd i anfon ein cydymdeimlad a Mr. David Hughes Bryneglwys, yn ei brofedigaeth. o golli ei chwaer- Penodwyd y Parch. John Williams, Corwen ar BwylJgor yr Ystadegau. Cafwyd trafodaeth fuddiol ar y mater, sef, "Lle'r Cym- undeb yng Ngwasanaeth y Cysegr." Agorwyd ya alluog gan Parch. Ed. Edwards, Carrog. Pwysleisiai yn benaf bwysigrwydd yr Qrdin- had ac oherwydd byny, yn hawlio lie. amiwg yn y gwasanaeth. Siaradwyd ymhellach gan y Llywydd; Parchn. H. A. Jones, J. F..Ellis, John Williams; Mri R. Roberts, Cynwyd; E. D. Jones, Llandrillo; H. 0. Richard, Corwen, W. Williams, Gwyddelwern. Hyderld v byddai'r drafodaeth yn foddion i roddi Ile am- lycach i'r Cymun Bendigaid yn ein plith. Diolchwyd yn gynes i'r Parch. E. Edwards am ei agoriad rhagorol. Amlygwyd llawenydd o weled Mr. Simon Williams, Corwen yn ein plith wedi ei adferu i'r fath raddau. Cafwyd ychydig eiriau o bro- fiad dwys ganddo yntau. Galwodd y Parch H. A. Jones, sylw at Ganmlwyddiant Marw Mr. Thomas Charles y Bala, ac ar i'r Eglwysi dreulio rhan o'r Sabboth, Hydref 3ydd, i alw sylw arbenig atto a'i waith ynglyn a'r Ysgol Sul. Yn y Cyfarfod Dosbarth nesaf, trefnir ar gyfer yr Ymweliad Eglwysig. Hefyd, dewisir swyddogion a materion erbyri yfl wyddyn ddyfodol. Darparwyd te blasus i aelodau y Cyfarfod Dosbarth gan nifer o chwiorydd caredig Corwen. Diolchwyd yn gynes iddynt.
-1-SALE BRYNMELYN.
1- SALE BRYNMELYN. Gwelir yn ein colofnau hysbysiad y cynhelir Arwerthiant Bwysig ar holl Dda Byw, etc., yn Brynmelyn ddydd Iau nesaf, Hydref 8, ar ym- neullduad Mr. R, N. J ones. Mae y Rhestr yn un lawn a gwerthfawr, a diau y bydd yno brynwyr pwysig i'r fath ddetholiad ardderchog o anifeiliaid.
DENBIGHSHIRE YEOMANRY. 1
DENBIGHSHIRE YEOMANRY. 1 Sergt. J. Andrews of the Wrexham Squad- ron of Denbighshire Hussars Yeomanry writes to say that all the officers and men, with eight exceptions have just been inoculated against typhoid fever. The Yeomanry are billeted in Suffolk. The men are in the best of spirits and are engaged in scouting and general reconnoitance work daily.
[No title]
FOOTBALL—The first match in this district will be played next Saturday at Glyndyfrdwy, when Llantysilio will visit the Linnets' ground.
IBedyddwyr Meirion A'r Rhyfel.
I Bedyddwyr Meirion A'r Rhyfel. Yn Ngbyfarfod Chwarterol Bedyddwyr Meirion, a gynbaliwyd yn Harlech, pasiwyd penderfyniad ar gynhigiad y Parch. Henry liees, Dolgellau, yn cefnogi y Llywodraeth ae yn diolch iddynt am y mcddy gweithredasant yn yr amgylchiad presenol. Yn erbyn y pen- derfyniad aiall fod i'r eglwysi annog ein dynioh ieuainc iymnno a'r fyddin. gwnaed gwrthwynebiad gau y Pareb.,D. Davies, Har- lech. yr hwn ddatganodd ei fod yn amheu a oedd rhai gweinidogion yr Efengyl mor egnioi i gael ymunwyr o dan faner Crist ag oeddynt i gael ymunwyr dan faner ein gwlad. Fel d elliad credai y dylai pawb wneyd eu goreD. o blaid eu gwlad, ond ni chredai y dylid gwneud y pwlpud yn llwyfan i ymlistio.
■——+ I I, I-,,. •.' Mr. LLOYD…
—— + I I, I •. Mr. LLOYD GEORGE YN NGHAERDYDD, Dywedodd y Canghellcr yn Nghaerdydd nOs Fawrth fod 50,000 o filwyr gwirfoddol yn .werth cymaint, ddydd y frwydr, a '^50,000! o wyr wedi eu gorfodi i wisoo arfau. Pan ddarllenasom y geiriau hyn, cofiasom fod yn bosihlgorfodi dynion i ymresti-u,bebgyfraith yn ordeinio hyny. Gellir dirgymell dyn i fesur a'i gwna yn anmhosibl ineb ddywedyd ei fod yn ymunb a'r fyddin o'i wirfodd, ac • y mae byny yn cael ei wneyd yn rhy fynych, y dyddiau hyn. Mae lluaws o ferched ffol, pan gyfarfyddant a dyn ieuanc (hollol ddieithr: iddynt, cofier) yn ei gyfarch trwy ddywedyd Y llwfryn, pam nad ewch i amddiffyu eich gwlad ?" neu yn estyn iddo bluen wen i'w gwisgo iel, y gwypo pawb ,mai llwfryn ydyw. Nid yw y rhai a wnant y cyfryw bethau yn gwneyd dim gwasanaeth i'w gwlad. Pe llwyddent yn y modd yma i beri i rai ymuno a'r fyddin na fuasent yn gwneyd hyny, amgen, ni fyddai y dynion ieuainc hyny yn filwyr gwirfoddol, yn gymaint a'u bod wedi yinuno nid ar gymhelliad cariad at eu gwlad ond ar gymhelliad ofu gwawd. Yn mhellach, mae ambell un yn angbymeradwyct rhoddi anogaeth mewn cylchoedd eglwysig neu grefyddol i wyr ieuaingc ymarfogi. Gwyr y rhai a fynegant eu bangymeradwyaeth y cant eu beio gan bawb o'r bron, a'u herlid gan rai, am hyny. Nid yw hyny yn gyfreith- lawn. Rhydd i bob dyn ei farn ac i bob barn ei llafar." Haedda y rhai a wnant wrth- dystiad ag y gwyddant a gondemnir gan y mwyafrif mawr o'u cyfeillion a'u cydnabod barch am fod yn ffyddlon i'w hargyhoeddiadau* Byddai yn dda genym weledpawb yn ymgadwi rhag anmharcjtiu y rhai a farnant yn wabanol iddynt; a thra yr ydym am adael rhyddid llawn i ddynion apelio at eu cyd-ddynion i fyn'd i ryfel dros eu gwlad, yr ydym yn llwyr gondemio dirgymhelliad nad yw ond enw., arall ar orfodaeth. Ystyried pob un ei ddyled- swydd ac ymgryfhaed i'w gwneyd, ac na cheisied neb dra arglwyddiaethu ar ei gyd— ddyn.