Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CENEDL WEDI COLLI EI DELFRYDIAETH.

News
Cite
Share

CENEDL WEDI COLLI EI DELFRYDIAETH. Yr oedd Germani unwaith yn gyfryw ac yr oedd safon ei moesoldeb yr uwchaf yn mhlith y gwledydd gwareiddiedig ac yn hynod am ei diwygiadau crefyddol. Yr oedd ei diwinyddion cyntefig a llawer o'i dynion goreu etto heddyw yn cael eu cydnabod fel awduron o safle a phrofiad, ac yn cael edrych i fyny atynt am farn ac arweiniad mewn moesoldeb, crefydd a dysgeidiaeth; ond erbyn hyn y mae Germani wedi colli ei delfrydiaeth uwchaf ac wedi di- rywio mewn moes a chrefyddoldeb yn ei hymdrechion am lwyddiant materol a milwrol Yn 1870 yr oedd yn greulawn tuhwnt i ,ddisgwyliad pawb tuag at Ffrainc yn ei gwaed ond ni ddarfu ddinystrio eglwysi, na lladd y ,y diniwed o gynddaredd. Gan nad oes dim pwrpas milwrol yn cael ei gyrhaedd trwy y gweithredoedd barbaraidd hyn y mae yn gyf- reithlawn i ni weled ynddynt arwyddion o ddiraddiad moesol trwy ba un y mae Germany wedi teithio yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Yn 1870 yr oedd ei milwyr, fel ei hysgrif- •enwyr a'i meddylwyr i raddau helaeth o dan .ddylanwad y diwygiad cenhedlaethol trwy ba un yr oedd newydd fyned trwyddo; ond mewn canlyniad i'w buddugoliaeth ar Frainc, fe hagrwyd ei bysbryd cenhedlaethol a dechrou- ,odd ei moesoldeb ddirywio. Y mae y dirywiad hwnw yn cael ei amlygu nid yn unig yn yr ystyr faterol mewn masnach a bywyd beunyddiol ond yn y barbareiddiwch a amlyga yn eu dull o ryfela. Ymffrostia yn ei nerth, ymfalchia yn ei harfau milwrol a gwrth- oda gydnabod bodolaeth y genedl fach. Yn nadblygiad yr elfen lywodraethol y mae wedi colli yr ymdeimlad o hawliau cenedlaeth- ol y genedl fach a gwan ac nid ydynt ddim yn ei golwg ond rhywbeth iw mathru pan y digwyddant fod ar eu llwybr, ar elfen hon yn ei hysbryd sydd yn dinystrio ei henaid fel cenedl ac yn ei damnio yn ngolwg y byd gwareiddiedig. Dyma yr elfen sydd yn ac wedi codi Prydain i'w safle yn y byd sef cydnabod hawliau cenedlaethol hyd yn oed y rhai a orchfygir ganddi nes iddynt deimlo er eu bod yn wahanol mewn iaith, gwaed a chenedl, fod iddynt ran a chyfran mewn ym- erodraeth sydd yn amddiffyu hawliau a rhyddid ei deiliaid. Fe fydd yn ddyledswydd ar Brydain ar ol gostegu y frwydr i weled fod hawliau a rhyddid cenedlaethol cenhedloedd bychain yn cael eu hail sefydlu yn Ewrope. +

Family Notices

I LLYS YNADON CORWEN.

Advertising