Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

i1Y Tg TTYFEIj.I-.

News
Cite
Share

i Y Tg TTYFEIj. Germaniaid yn colli Gynau a Carcharorion. Ymosodiadau y gelyn yn cael ei to flu yn ol gyda colledion mawr iddynt. Y fyddin gyfunol yn llwyddo yn mhob cyfeiriad. Y Rwssiaid yn enill tir. Dalfa fawr yn Awstria. Brwydr Fawr Yn Belgium a Ffrainc. Daeth newyddion swyddogol o Paris yn dyweud fod y ganghen o'r fyddin gyfundebol ar yr aswy wedi dod i gyffyrddiad a'r gelyn, yr hwn oedd wedi derbyn adgyfnerthiad mawr yn ngororau Royon. Cafodd ein byddin ei gwthio yn ol rai milldiroedd. ond wedi ei had- gyfnerthu gyda rhagor o filwyr a gynnan, ymosodasant ar y gelyn gydag egni mawr ac ennillasant y tir a gollwyd yn flaenorol. Dichell y Faner Wen. I Gorchfygwyd y gelyn ar lan yr afon Aisne, a chawsant golledion mawr. Yr oedd adran o'n milwyr yn disgwyl am ymosodiad o eiddo y gelyn pan y gwelwyd o 400 i 500 o honynt yn eerdded yn mlaen gan godi baner wen a tbaflu. eu harfau i lawr. Cymeredd ein milwyr yn ganiataol eu bod yn rhoddi eu hanain yn garcharorion a chawsant orchymun i beidio tanio, ond pan yr oeddynt o fewn ychydig latheni atynt cododd y Germaniaid eu gynau i fynu a lladdasant nifer o'n milwyr oedd yn barod i weini trugaredd arnynt. Y Frwydr ar Dro i. Y mae y fyddin gyfunol wedi cymeryd Perrone yr bon sydd yn safle fanteisiol iddynt i eymud o'r tu ol i'r gelyn ac yn debyg o fod yn symudiad pwysig tuag at fyrhau y frwydr fawr sydd yn cael ei bymladd yn Frame. Os llwydda y fyddin i gyraedd yr amcan mewn gohvg ceir dalfa fawr o filwyr a gynau y Germaniaid yn fuan. LLWYDDIANT Y BELGIANS. Ar y 26ain o'r mis hwn gwnaeth y Belgians ymosodiad ar y gelyn cydrhwng Malines a Aerschot a chymerasant 2,000 o'r Germaniaid yn garcharorion. Awyrlong Uwchben Boulogne. Dydd Gwener diweddaf ymddangosodd Awyrlong goruwch Boulogne (y porthladd He y glaniwyd Milwyr Prydain ar ddechreu y Thyfel) a thaflwyd bomb 0 honi on d ni laddwyd meb, ac ni wnaed dinyetr ond yn unig tori ychydig wydrau ffenestri. Italy yn Crynhoi ei Byddin Credir fod Italy yn prysur barotoi ei bydd- inoedd yngbyd i amcanion neullduol. Mae Germany wedi vmdrechu trwy fygwth a thrwy ddenu Italy igodi arfau yn erbyn Rwsia, Ffrainc a Phrydain ond yn hollol of?r. Gwyr Italy nad oes ganddi ddim i'w enill trwy ochri Germany, ond y mae ganddi bob peth iw enill, tiroedd, sicrwydd ei hauibyniaetb, a beddweh parhaol iw enill trwy ddinystriad Awstria a Germany. Y mae Mr. Winston Churchill, wedi rhoddi pobboddlonrwydd iddynt na bydd i'r wlad hon ymyryd a'i rhyddid yn mor y canol- dir, a chredwn y bydd Italy cyn bo hir yn codi ei llaw yn erbyn y Kaiser yr hwn sydd elyn i bob rhyddid. I Dinystr yn Mor y Gogledd- I Collwyd yr wythnos diweddaf dair 0 longau rhyfel yn mor y Gogledd. Ymosodwyd ar un o honynt gan un o longau tan ddyfriol y gelyn ac aeth y ddwy eraill i'w chynorthwvo. Yn yr ymdrechfa collwyd y tair Hong Brydeinig ond nid oeddynt o'r raddfa gyntaf, ac y mae gen- ym nifer fawr o'r un dosbarth yn aros, y golled bwysica oedd colli ein morwyr dewr, y rhan fwyaf o honynt yn colli eu bywydau trwy weini cynorthwy i'w cyfeillion. I Colledion ar y Mor. Prydain—Cruisers 5; Llongau Masnach arfogedig 1; Rhyfel Long 1; Cyfanswm-7. Germani-Cruisers 5; LJongau MasDach arfogedig 2; Rhyfel Long 2; Tanforiad 2; Mine Layers 4. Gyfanswm 15. I Araeth Sir John French i'r milwyr. Unwaith yn rhagor yr wyf yn datgan fy ngwerthfawrogiad dwfn o ymddygiad rhag- orol fy swyddogion, a'r milwyr o dan fy awdurdod yn ystod brwydr fawr Aisne, yr hon sydd wedi parhau er y 12fed cyfisol. Nid oedd brwydr Marne, yr hon barhaodd o foreu y 6fed hyd noson y lOfed, prin wedi terfynu yn ffoad pendramwnwgl y gelyn pan y daethom wyneb yn wyned gyda safle anarferol o gryf o eiddo y gelyn yr hwn oedd wedi ei gadarnhau a'i barotoi fel amddiffynfa gyda gofal a chyw- reinrwydd mawr. Trwy y 13eg a'r 14eg, ym osodwyd gyda gwroldeb mawr ar y safle hwnw gan y fyddin Brydeinig a rhyddhawyd y ffordd a chroeswyd yr afon Aisne. Hwn yw y trydydd dydd ac y mae y milwyr yn parhau i gadw y safle a enillasant yn ngwyneb ymosodiadau enbyd ac yr wyf yn methu cael geiriau cyfadd- as i ddatgan fy edmygedd o honynt. Y mae byddinoedd Ffrainc ar y dde ar aswy yn llwyddo a diamheu genyf ond i ni barhau yn gadarn ychydig yn hwy y bydd y gelyn etto yn ffoi. Mae hunan aberth ffyddlon ac ysbryd rhagorol y Fyddin Brydeinig yn Ffrainc yn yn cario pob peth o'i blaen. Arwydclwyd:—J. D. P. FRENCH. r 0

War Bullets.