Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hen Gorweniaid a Brwydr WaterlooI
Hen Gorweniaid a Brwydr Waterloo Yn mhob cylch, yn mhob man, y rhyfel, a safle byddinoedd y gwahanol deyrnasoedd yn y brwydrau, sydd yn hawlio ac yn cael y. sylw lwvraf ac er dyfned argraffiadau rhyfeloedd y gorffeool, tybiwn fod hanes a thraddodiadau am frwydr Waterloo yn y rhan-naenaf. Y mae yma yn aros fab i hen gymeriad benywaidd adnabyddus un cyfnod a anwyd yn Waterloo, yn adeg yr hen ryfel echryslawn. Ond, wrth gyfeirio at Jack Parry yr oedd ef wedi sefvll poethder y frwydr, a chael dychwelyd yn ddianaf. Rhaid addef ei fod wedi treuiio rhai blynyddoedd mewn afradlonedd wedi dychwelyd, plant yn arswydo yn yr olwg arno, ,etc., i ba gyfeiriad gellid manylu liawer. Fodd bynag, dan weinidogaeth John Owen Cyffin," gwr poblogaidd gyda'r Wesleyaid yn ei gyfnod, er syndod i bawb, fe argyhoeddwyd Jack Parry a thrwy ras Duw yn unig, meddai ef, y cafodd nerth ar ei daith, a bu ffyddlon hyd angau. Codwyd cof-adail iddo yn Mynwent Eglwys Corwen, a ganlyn sydd ar y maen Codwyd y maen hwn gan gyfeillion, Er parcbus gof am J OHN PARRY" Jack Parry," Yr hwn fu farw Ionawr 5ed, 1867, Yn 73 oed. Hir ennyd bu'n filwr unwaith-meddwyn A maeddwr fu eilwaith Hardd fro-dir ffordd byfrydwaith Droediodd ef y drydedd waith." Teg eto yw gwneud yn hysbys naai yr adnabyddus Edward Jones (Goes Hir) oedd y bardd buddugol o'r englyn mewn cyfarfod ■cystadleuol yn Nghapel y Bedyddwyr yn N ghorwen.
[No title]
Harvest Festival Meetings are to be held at Glyndyfrdwy Church next Thursday.
IY MILWR CYMREIG..I
Y MILWR CYMREIG. I Y Cymro dewr fel milwr da Ymladda tros ei wlad, Gwyneba bob rhyw elyn cryf Yn hyf ar faes y gad, Mae penderfyniad ya ei drem, Gwroldeb yn ei wedd, A hunan feddiant, hyncd llu I fedru trin y cledd. Mae hwn a'i glod yn ucbel iawn, Yn myddin Prydain Fawr, O'r Alma gynt, a'r Waterloo, 0 hyny byd yn awr, Yn nghanol boll helyntion erch, Rhyfeloedd yn mhob man, Gwell ganddo farw'n Gymro dewr Na pbeidio gwneyd ei ran. Mae gwaed Llewelyn a Glyndwr, Hen ddewrion Cymru fad, Yn goch a brwd yn nghalon ddewr Pob Cymro yn y gad, Myn Catrawd Cymru gadw'n fyw Yr eaw mawr ei fri, A berthyn iddi yn mhob oes A'i dewr gymeriad bi. Er meddu dewrder didroi'n ol 0 flaen y bidog ddur, Ac ysbryd gwrol llawn o dân, I sefyll byth yn bur, Mae'n meddu ar ddynoliaeth iawn A'r galon lawna gaed 0 gydymdeimlad a'i gyd ddyn Fo'n gorwedd yn ei waed. Y Cymro dewr fel hyn a saif Yn glod i Walia wen, Ac ni raid ini ofni byth Un gelyn is y nen Tra'n meibion glewion tros eu gwlad, Yn barod ar bob awr, Fel arwyr gwir ar faes y gwaed, Dan Faner Prydain Fawr. J Uorwen. 11 1: 11 H uw Dafydd.
YMREOLAETH A DADGYSYLLTIAD.
YMREOLAETH A DADGYSYLLTIAD. Mae Ty y Cyffredin, Nos Fawrth, wedi pasio fod Mesur Ymreolaeth Iwerddon a Mesur Dadgvsylltia:! Cymru, i fod ar Ddeddf-lyfrau y wlad. Ond nid i ddod i rym am flwyddyn. neu hyd nes bo'r rhyfel wedi terfynu. Yn y cyfamser ceir adystyried y diwygiadau sy'n angen yn y naill a'r Hall yn ol yr addewidion roes y Llywodraeth. Ar ol gwneyd protest yn erbyn cynllun y Prif Weinidog gyda hyn, cerddodd y Toriaid allan o'r Ty. Ceisia'r Arglwyddi ohiro'r oil o fesur Cymru. Dad- gorfforwyd y Senedd ddydd Gwener diweddaf.
BRAWDLYSOEDD CYMRU.
BRAWDLYSOEDD CYMRU. Y mae dyddiadau y Brawdlysoedd uchod wedi ei trefnu fel y canlyn :—Hydref 12fed— yn Nghaernarfon (siroedd Caernarfon a Mon). Hydref 15fed—Rhuthyn (siroedd Dinbych, Fflint, Meirion, a Threfaldwyn). Hydref 19eg, Caer. Y Barnwr Eldon Bankes fydd yn j Uywyddu.
i ■ j NATIONAL RELIEF FUND.
■ j NATIONAL RELIEF FUND. Those needing help should apply to the Local Representative of the Soldiers' and Sailors' Families' Association, or if the address is not known they should apply to the Mayor, or Chairman of the Urban or Rural District Council or Chairman of the County Council as the case may be, who will either himself give them the necessary help or refer them to the nearest Branch of the Association. General enquiries should be addressed to the Head Office of the Soldiers' and Sailors' Families* Association, 23, Queen Anne's Gate, London, S.W.
Advertising
LAST WEEK OF %? j?B!?? ? t???t?'F?? f? ??? ?B? ia! fa t itr jBy l AWE SALE jta?? ?h? ?tJtjt??Sy B??S ???S ?i? -ÃV"V-¥;: SEE OUR mip 6d. &11d. MILLINERY WINDOW. Waterloo House, Corwen.