Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

ARAETH Y GWIR ANRHYD. D. LLOYD…

News
Cite
Share

ARAETH Y GWIR ANRHYD. D. LLOYD GEORGE AR Y RHYFEL. HK s Bu cyfarfod mawr gan Gymry Llundain yn y Queen's Hall, brydnawn Sadwrn, pryd yr anerchwyd gan Mr Lloyd George. Llywydd- -wyd gan larll Plymouth, ail fab yr hwn sydd wed i ei ladd yn y rhyfel. Yr oedd y neuadd fawr yn llawn o'r naill gongl i'r Hall, ac yr oedd yno frwdfrydedd anarferol. Yn ystod y gweithrediadau datganwyd gan Gor Cymreig Llundain, Canwyd anthemau Cenedlaethol Belgium, Ffrainc, Rwsia, Serfia, Doegr, a Cbymru. Hefyd canwyd Gwyr Harlech" a'r emyn Marchog Ifsu" yn effeitbiol iawn. Cododd y brwdfrydedd yn uchel ar ddechreu'r gweithrediadau pan ddarHenodd y cadeirydd deligram yn hysbysu fod 20,000 wedi ymuno yn Sir Forganwg. Wela araith y Canghellor :—• Nid oes yr un dyn yn yr ystafell boa wedi ystyried y posiblrwydd o fyned i ryfel gyda mwy o anfoddogrwydd, a chyda mwy o wrth- wynebiad na mi drwy fy holl yrfa wleidyddol Nid oes yr un dyn yehwaith o'r tu fewn nac o'r tu allan i'r ystafell bon yn fwy argyhoedd- edig na mi nas gallem ochel y rhyfel hon heb warth cei edlaetliol Yr wyf yn hollol fywi'r ffaith fod pob cenedl sydd wedi bod mewn rhyfel wedi ymbilio ar enw cysegredig an- rhydedd. Y ma smryw drosecldau wedi cael eu cyflawni yn enw anrhydedd. Ar yr un pryd, y mae anrhydedd cenedlaethol yn beth gwirioneddol, ac y mae cen- dl sydd yn ei an- wybyddu yu gollfarnedig. Paham y mae ein anrhydedd ni yn y glorian gyda'r rhyfel bon? Oberwydd ein bod, yn y lie cyntaf yn rhwymedig drwy rwymedigaeth anrhydeddus i Amddiffyn Anibyniaeth, rhyddid, a chyfiawnder cenedl fechan sydd wedi byw yn heddychol wrth ein hymyl. Nis gallai y genedl fechan hon ein gorfodi. Yr oedd yn rhy wan. Dyhiryn yw'r dyn a wrth- yd dalu ei ddyled pan y mae'r gofynwr yn rhydlawd i'w orfodi i wneud hyny. Aethom i fewn i ddau gytundeb i amddiffyn Belgium a'i huniondeb. Nid ein gwlad ni yn unig a ymgymerodd ag amddiffyn uniondeb Belgium. Yr oedd Rwsia, Ffrainc, Awstria, Prwsia wedi addo. Paham na chyflawnasant eu haddewid oil ? Y mae wedi ei awgrymu, pan y cyfeiriwn at y cytundeb hwn, nad yw ond esgus ar ein rhan. Nid yw ond ein dichell a'n twyll isel yn cael ei roddi fel manleli dros ein heiddigedd tuag at wareiddiad uwch, y gwareiddiad ag y ceisiwn ei ddinistrlo. Y mae ein hateb i'n gwaith ar hyn o bryd wedi ei gymeryd yn 1870. Beth ydyw? Mr Gladstone oedd y Prif Weinidog ar y pryd. Tybiaf mai Arglwydd Granville oedd yr Ysgrifenydd Tramor. Ni chlywais ddweyd erioed eu bod yn rhai jingoaidd iawn eu hysbryd. Gwnaeth y cytundeb hwn ein rhwymo. Pa beth a wnaethom ni ? Galwasom ar y gwahanol Alluoedd rhyfelgar i Varchu y cytundeb yna. Galwasom ar Ffrainc galwasom ar Germani. Yr adeg hon yr oeddym yn cadw mewn golwg fod y perygl mwyaf yn dod i Belgium o Ffrainc, ac nid o Germani. Ymyrasom i Amddiffyn Belgium rhag Ffrainc, yn hollol yr un fatb ag yr ydym yn ei hamddiffyn ar hyn o bryd rhag Germani. Aethom ymlaen yn hollol ar yr un lJwybrau. Gwahoddasom yr un alluoedd ymladdgar i ddweyd nadoedd ganddynt yr un bwriad i fygwth tiriogaeth Belgium. Beth oedd yr ateb à roed gan Bismarck ? Dywedodd fod yn ormod gofyn y fath gwesti wn i Prwsia yn wyneb y cytundebau oedd mewn grym. Rboddodd Ffrainc ateb cyffelyb. Anfonodd Belgium i ddiolch i ni am ymyrryd mor eff- eithiol. Anfonwyd yr hyn a ganlyn i'r Frenhines Victoria ar y pryd o Brusels Y mae y bobl enwog ac anrhydeddus, dros y rhai y maeeich hawdurdod, newydd roddi prawf ychwanegol o'i theimladau tyner tuagat ein gwlad. Y mae llais Pryd- ain wedi ei glywed uwchlaw swn arfau. Y mae wedi cadarnbau egwyddoriorj cyfiawn- der ac uniondeb. Y neaf peth at serch anghyfnewidiol y Belgiaid at eu banibyni- aeth, sydd yn Ilenwi eu calon, ydyw eu diolchgarwch i drigolion Prydain Fawr." Yr oedd hyn yn 1870. Sylwch beth a ddil- ynodd. Ymhen tri neu bedwar diwrnod ar ol derbyn yr uchod yr oedd v Fyddin Ffreng- ig wedi ei gwasgu yn erbyn ffindir Belgium -yr oedd pob llwybr i ddianc wedi ei gau gan gylch o dan oddiwrth fengyl Prwsia. Yr oedd un fford.d i ddianc. Pa un oedd honno ? Bygwth amhleidgarwch Belgium. Pa beth a wnaethant ? Dewisudd y Ffrancod ar y pryd gael eu Difetha a'u Darostwng yn hytrach na thori ei cytundeb. Pewisodd yr Emprwr Ffrengig, y cad-lywy- ion Ffrengig a 100,000 o Ffracoed dewr oedd o dan arfau gael eu cymeryd yn garcbarorion i wlad ddieitbr eu gelynion yn hytrach na di- anrhydeddu enw da eu gwlad. Yr oedd y fyddin Ffrengig olaf oedd ar y maes. Pe bu- asent wedi bygwth ambleidgarwch Belgium, buasai holl banes, y rhyfel hono wedi cael ei uewid, ac eto pan oedd yn fanteisiol i Ffrainc i dori y cytundeb, ni wnaeth bynny. Y mae yn fantais i Prwsia ei dori heddyw, ac y mae wedi gwneyd. Paham ? Y mae yn cyffesu hyny gyda dirmyg atgas tuagat bob egwyddor o gyfiawn- der. Dywed "Nid yw cytundebau yn ein rhwymo ond pan y maent o fantais i ni i'w cadw" Pa beth yw cytundeb ? medd y Cang- hellydd Germanaidd. "Nid yw ond darn o bapur A oes genych bapurau pum punt yn eich meddiant ?nid yw ond darno bapur. A o'?s genych rai o bapurau punt destlus y Try- sorlys ? os oes, llosgwch hwy, nid ydynt ond darnau o bapurau. 0 ba beth y maent wedi eu gwneud ? 0 garpiau. Beth yw ei werth ? Holl gredit yr Ymerodraeth Brydeinig. Yr wyf wedi bod yn delio a darnau o'r papurau yn ystod y mis, gwelsom fod masnach y byd yn myned i sefyll; yroedd y peiriant wedi sefyll. Canfu- peirifint masnach yn cael ei symud gan "Bills of Exchange" Beth oedd y gailu oedd o'r tu gallu oecld o'r tu ol iddynt ? Anrhydedd y masnachwr. Gadewch i ni fod yn deg yn awr. Y mae marsiandwyr Germani yn cael yr enw o fod mor deg ac union ag unrhyw fasnacLwyr yn y byd. Ond os ydyw masnach Germani i gael ei Difrio i Lefel ei gwleidyddiaeth, ni wna yr un masnachwr o Shangai i Valpariso edrych ar arwyddnod Germanaidd eto. Y mae yr athrawiaeth bon o ddarn o bapur, yr athrawiaeth bon a gyhoedd- wyd gan Berohardi nad yw cytundebau yn rhwymo cenpdI cyhyd ag y bydd er ei mantais yn myned o dan wraidd pob deddf gyhoeddus Y mae yn ffordd union i farbareiddiwch. Y mae yr un peth a phe buasech yn symud y pegwn at-dynol pa bryd bynag yr oedd yn ffordd Cruiser Germanaidd. Pe yr enillai yr athrawiaeth hon yn y rhyfel hresenol, deuai hoil drafnidiaeth y mor yn bery gIns, yn anodd ac yn amhosibl, a throi peiriant gwareiddiad i lawr. Yr ydym yn yn ymladd— Yn erbyn Barbareiddiwch. Ydym, yn erbyn barbareiddiwch—ac nid oes yna ond un ffordd i unioni y peth. Os oes yna genhedloedd a ddywedant na pharchant gy- tundebau oud pan fydd er eu mantais hwy, rhaid i ni ei gwneud er eu lies i wneyd hynny yn y dyfodol. Beth yw eu hamddiffymad ?, Edrychwch ar yr ymgom a fu rhwng ein Llys- genad a'r swyddogion Germanaidd. Pan alwvd eu sylw at y cytundeb hwn, dywedant "Nid oes mo'r help" Beth yw esgus Germany ?. Dywed fod Belgium yn cynllunio yn ei herbyn fod Belgium mewn cydfradwriaeth a Phrydain ac a Ffrainc yn ei herbyn, ac i ymosod ami. Nid yn unig nid yw hynyna yn wir, ond gwyr Germani yn eithai da nad yw yn wir. Beth yw ei hanes arall ?-Fod Ffrainc yn bw- riadu goresgyn Germani drwy Belgium. Hollol anwireddus Cynbygiodd Ffrainc bum corphlu i amddiffyn Belgium os yr ymosodid arni. Dy- wedodd Belginm "Nid oes arnaf eu heisiau, y mae gair y Kaiser genyf. A gaiff y Kaiser anfon anwiredd ? Y mae yr holl straeon hyn ynghvlch cyd- fradwriaeth wedi cael eu chwalu byth er hyny. Dylai cenedl fawr gywilyddio ymddwyn fel methdalwr twyllodrus. Nid yw yr hyn a ddywed yn wir. Y mae wedi tori y cytundeb yn fwriadol, ac yr oeddym ninau wedi ein rhwymo gan anrhydedd i sefyll wrth Belgium. Y mae Belgium wedi cael ei thrin yn greulon pa mor greulon nis gallwn ddweyd eto. Ond yr ydym yn gwybod digon eisoes. Pa beth a wnaeth Belgium ? A oedd wedi anfon rhyb- udd rhyfel i Germani ? A oedd wedi herio (Parhau ar tudalen 2 )