Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
-Agml Y. ■I '—— "I
Agm l Y. —— "I Milwyr Prydeinig yn Yraladd. Derbyniwyd ar y 7fed cyfisol y newydd o Belgium fod byddin Prydain o dan arweiniad General French yn gwasgu ar y gelyn ac yo ei orfodi i symud yn ol o Lille yr hon dref sydd yr ochr Orllewinol oddeutu 30 milldir o Paris. ——— ——— ——————
[No title]
Y Byddinoedd Cyfunol yn Llwyddo. Mae y newyddion diweddaraf o faes y frwydr yn galonog iawn. Ymddengys eu bod wedi ymosod ar y gelyn am yr holl ffordd o Meaux i Verdun, pellder o 120 milldir. Ore lir fod General Joffre arweinydd byddin Ffrainc wedi llwyddo i droi y fyddin Germanaid dL ar yr aswy tra ar yr un pryd priodolir llwyddjant cyffelyb i General French ar y dde. Rhuthrladau y Rwsiaid. Mae byddinoedd Rwsia fel peiriant anoleh- fygol yn dinyatrio pob gelyn sydd ar ei lwybr Dyweclir fod y rheilffordd cydrhwng Koenis- berg a Hamburg yn llawn o gerbydau yn cario meirwon a chlwyfedigion Germanaidd ac Awstriaid. Mae byddinoedd Germany ac Awstria sydd yn gwrthwynebu y Rwsiaid yn rhy ofnuStiw gwynebu ac yn hytrach nag ymladd eu Hordd gwell ganddynt adael eu gynau, ymborth a'u harfau a phobpeth ar eu hoi er mwyn ffoi am eu hoedl. 150 Colledigion yn ddiogel. f I Cyrhaeddodd 90 o'r milwyr oedd ar goll yn Folkestone ddoe o Boulogne ac y mae hyny yn gwneyd y nifer sydd wedi eu cael yn ddi- ogel i 150. Ymddengys mae rhai oedd wedi llwyddo i ddianc o'r brwydrau mwyaf poetb- lyd ydbedd y rhan fwyaf ohonynt ac yn eu plirh ceir 2(1 DubJin Fusiliers,12 Royal Irish, 6 Gordon Highlanders, 15 o'r Warwickshires a 3 Royal Artillery y rhai a lwyddasant hefyd i gadw eu ceffylau yn ogystal a'u bywydau. Yr oedd ganddvnt bi-ofiiidau amrywiol i'w hadrodd am y mudd y darfu iddynt ddianc. Yr oedd dau o honynt wedi ymguddio am 36 awr mewn ffos at eu giiniau mewn dwfr, eraill wedi eu cuddio gan ffermwr Ffrancaeg yr hwn welodd ei ferched yn cael eu saethu gan } y Germaniaid, tri eraill wedi gorwedd odditan cocyn gwair ac yn clywed y gelynion yn siarad a cherdded wrth fynd heibio, un arall wedi dringo i ben coeden ac yn gwylio ygelyn yn cerdded odditano. CORWEN TERRITORIALS. Billeting at Northampton. Our readers will no doubt be glad to hear that their friends and relatives in the above company are all well and living under the happiest circumstances in Northampton-a military depot-about half-way between Birm- ingham and London. From a communication a friend of one of the'' Terriers has received, the Northampton people are indulging them to their hearts' CODT ent, grudging them noth- ing, in fact, everything that tends to the enjoy- ment of the soldiers is extended to them. There is no distinction whatever made in the ranks, officers and men are as one, and they are all billeting (that is, lodging) in private houses. Anxious mothers and friends may therefore take heart, knowing that' our boys are being well cared for.
DIARY OF THE WAR. I
DIARY OF THE WAR. I THE GERMAN ADVANCE. Aug. 4-Great Britain declares war. „ 5-German assault on Leige begun. 8—Leige entered by Germans „ 9—Altkirch (Alsace) taken by French „ 10—Germans occupy Warmme and St. Troud, and advance on Brussels 12—Severe fighting at Haelen and Diest „ 16—French successful in artillery skir- mish at Dinant; Thann taken by French „ 17—Belgian seat of Government tran- ferred from Brussels to Antwerp „ 18—Fighting at Tirlemont „ 21-Brussels entered; Alost and Wet- teren also occupied by Germans; French retake Mulhausen (Alsace) 23-Germans evacuate North Belgium and ad vance on a line extending from Oudenarde and N inove to Hal 24-Great battle at Mons-British in action for first time; N amur forts taken „ 25—French frontier crossed at Mau- beuge; Germans attack Nancy and occupy Luneville 26- French evacuate Alsace; sack of Louvain; severe fighting along Cambrai- Le Gateau Landrecies line 27— Germans reported at Hirson, France „ 28—Fall of Longwy after holding out 24 days; German eastern wing at Arras 29 —Germans advance towards Lille 31-Fighting at La Fereand St Quentin Sep. 1—Germans at Montdidier, south of Amiens 2-Invaders at Compeigne, 45 miles from Paris 3—British cross the river Marne; Ger- mans at Senlist; French seat of Govern- ment removed t) Bordeaux 4- French outposts on the river Ourcq near Paris, engaged.
Advertising
STOP PRESS. THE WAR. Maubeuge is still holding out. Relief near at hand. Concentration of 250,000 Russians in France. Russians take Fortifications of Nikolaiev and Czernowitz.
YR EGLWYS A'R RHYFEL.
YR EGLWYS A'R RHYFEL. Mewn cyfarfod a gynhahwyd yn Llandudno Nos Fercher diweddaf o bertbynas i'r rhyfel gwnaed ymosodiad gan Mr E. W. Johnson yr ymgeisydd toriaidd dros Arfon yn yr ethol- iad nesaf, ar y gweinidogion ymneillduol. Dywedodd fod rbai gweinidogion yn ein gwlad na feiddient brpgethu ar y dyledswydd o ymladd dros eu gwlad o'u pwlpudau orid codpdd anirvw o weinidogion i wrthwvt e! u yr hkeriad trwy roddi ffeithiau oedd yn profi i'r gwrthwyneb, Dywedodd y Parch. Dr. Spinther James ei fod y dyde. hwnw wedi bod mewn pentref cyfagos lie yr oedd y gweinidog nid yn unig wedi llwyddo i berswadio eraill i ymlistio ond wedi, rhoddi yr esiampl flaenaf trwy ym- ddisjvyddo o'i eglwys ac ymlistio ei hunan. Ychvvanegodd y Parch. H. Barrow Williams ei fod fyntau mewn pentref arall wedi llwyddo i gael, gan atnryw o ddynion ieuainc i ui o a'r fyddin. Hefyd cododd y Parch. J. Raymond i ddweud fod tri o aelodau ei eglwys wedi ymlistio ac fod amryw eraill yn barod os caw- sent sicrwydd y byddai i'w mamau gael dar- paru ar ei cyfer. Yna dywedodd Rheithor Llandudno fod yr Eglwys Sefydledig yn gwneud ei dyledswydd o'r Esgob i lawr at y curad ieuengaf. Gawn hanes cyfarfod arall yn Llan beris lie yr ^edd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, un p weinidogion mwyaf blaenllaw ein cenedl ar y llwyfan yn anerch a pherswadio dyniori ac ^Tn neilldupl ch warel wyr Sir Gaernarfon i, ymlistio yn myddin ein gwlad. Da iawn genym allu cofnodi y ffeithiau uchod sydd yn profi yn amlwg fod pob gwahaniaeth gwleidyddol a curefyddol yn diflanu pan y mae ein gwlad mewn perygl, a phan y mae iawnder a rhyddid gwledydd eraill yn y glorian. Ofnwn fod ein dynion ieuainc dibrofiad mewn rhyfel o dan gamargraff o berthynas i ymlistio ac yn ofni y bydd iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i faes y frwydr, ond goddefer i ni eu cyfarwyddo ar y pwynt hwn. Ni ahfonir neb allan i'r frwydr cyn iddo gael oleiaf chwech neu ddeuddeg mis o training milwrol, ac mae gwaith y rhai dibrofiad fydd i amddiffyn ein gwlad gartref er mwyn rhydd- hau y milwyr profiadol i fynd i orchfygu y gelyn. Felly mae pob tebygolrwydd na fydd ang- hen Hr rhai dibrofiad sydd yn ymlistio yn awr i fyned allan o Brydain gan yr hyderwn na bydd anghen am danynt i fyned i faes y frwydr. Un peth sydd yn dra sicr os na chaiff Arglwydd Kitchener y nifer anghenrheidiol o fil wyr gwirfoddol bydd iddo wasgu ar y Llywodraeth i basio Deddf Orfodol, ac os pasia hono bydd yn rhaid i bob llwfr wisgo'r cledd a cheisio ymddangos yn ddewr. ';1
Advertising
TO LET. ■ i A good House, also a Cottage to be let at Carrog. For, further particulars, apply-JOHN W ILLAMS. ? Pharmaceutical Chemist, Corwen.