Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y Rhyfel. I...I in 9

News
Cite
Share

Y Rhyfel. I. in 9 Byddin Prydain etto yn barod. Brwdro a-n bed war diwrnod dydd a nos. Chwe Bail o'n milwyr wedi eu lladd a'n clwyfo. Y fyddin Brydeinig yn cael seibiant. Y newyddion yn ffafriol. Digwyddiadau yr Wythnos. Ymddengys fod y fyddin Germanaidd wedi ei hatal rhag croesi y terfynau yn Ngogledd Ffrainc, ac y mae y newyddion geir o ;faes y rhyfel yn ffafriol ar y cyfan Credir fod cyd- rhwng pump a chwe mil o'n milwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo yn ystod y pedwar diwrnod o Awst 23ain hyd y 27ain, ond y mae ein dewrion yn dyheu am gael ymosod ar y gelyn. Cafwyd buddugoliaeth gan y Scots Greys. dydd Gwener diweddaf, a darfu i'r 12th Lancers orchfygu meirch filwyr Germanidd Y mae y gelyn yn gwneyd ymoscdiad cryf ar y fyddin gyfunol ac yn ymdrechu yn galed i dori trwyddi i gyfeiriad Paris; ond ar yr un pryd y mae miloedd o'r Germaniaid yn caei eu symud o Belgium er mwyn ceisio rhwystr Rwsia gyrhaedd Berlin. BRWYDR AR Y MOR. Ar yr 28ain cyfisol cymerodd brwydr fawr le yn ymyl Heligoland un o gadarnfeuydd Germany, lie y llochesa ei llynges rhag dod i wrthdarawiad a llynges Prydain, Cymerwyd y rhan flaenaf yn y frwydr hon gan long o'r enw Arethtisa yr hon a ymosododd ar ddwy o longau Germanaidd yn dra effeithiol; ond cyn bo hir daeth oddeutu 20 eraill o'r llongau Germanaidd allan gydar bwriad o ddinystrio pob llong Brydeinig osdd o fewn cyrhaedd. Yn fuanwedi ei chael i'r mor agored fe'i cylchynwyd gan eraill o'n llongau rhyfel a gwnaed dinystr mor fawr ar lynges y gelyn fel y suddwyd pedair o leiaf o honynt, heblaw analluogi y rhan fwyaf o'r lleill. Clwyfwyd a lladdwyd 69 o'n morwyr, ond ymddengys fod y Germaniaid a laddwyd, clwyfwyd ac a fodd- wyd yn rhifo rai canoed d heblaw carcharorion ) Newyddion o Paris I Difodi Catrawd o'r Germaniaid. Daeth newydd o Paris yn dyweud fod catrawd o'r Germaniaid pan yu ceisio croesi yr afon Meuse yn Frainc wedi cyfarfod a gwrthwynebiad mor fawr nes ei difodi yn llwyr. Hefyd caed newydd trwy Boulogne fod nifer fawr o filwyr Germani wedi eu bamgylcbu mewn llwyn o goed ar ororau Ffrainc ac wedi ei dinystrioyn gyfangwbl. —————— ——————

AMSER GOiiEU LAMPAU,I

Advertising

Leiier trim Bortn Sea Battle…

Advertising