Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Llanelidan.
Llanelidan. Dydd Gwener, y 14eg cyfisol, yn Nghapel y M.C. y lie uchod, unwyd mewn priodasi Mr. Ellis Edwards, mab hynaf Mr. a Mrs Edwards Highgate, a Miss Margaret E. Jones, merch hynaf Mr. a Mrs. Hugh Jones, Cwm. Y gweis- ion oeddynt, Mri William Edwards, Highgate, a Thomas Jones, Cwm; a'r morwynion oeddynt Miss Roberts, Pentrefoelas, a Miss Hughes, Biyntangor. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. R. J Jones, yn mhresenoldeb y eof- restrydd, Mr. G. 0. Morris, Llanrhaiadr. Daeth cynnulliad lliosog ynghyd i'r addoldy a chroesawyd y par ieuangc yn gynes yn y dull arferol ar eu dyfodiad allan. Yn ddilynol croesawyd y cwriani yn nghatref y briodferch pryd y datganwyd y dymuniadau goreu ar eu rhan gan amryw, ac y diolchwyd hefyd i Mr. a Mrs. Jones am eu caredigrwydd yn darparu arlwy mor ragorol ar gyfer y cwmni priodasol. Ymadawodd Mr. a Mrs. Edwards, i dreulio eu gwyliau yn Llandudno.
EISTEDDFOD MEIRION. I
EISTEDDFOD MEIRION. I Nos Wener diweddaf penderfynwyd rhoddi heibio Eisteddfod Meirion pa un oedd i'w chynal Ddydd Calan nesaf yn Dolgellau.
1■■w— Yr Eisteddfod Genhedlaethol.
■■ w — Yr Eisteddfod Genhedlaethol. Noa Iau diweddaf penderfynwyd gohirio yr Eisteddfod Genedlaethol Bangor o acbos y Rhyfel.
FFERMWYR DYFFRYN ,CLWYD IA'R…
FFERMWYR DYFFRYN CLWYD A'R CYNHAUAF. I SANATORIUM LLANGWYFAN. I Mewn canlyniad i doriad allan y Rhyfel, a'r ffaith fod nifer liosog o wyr ieuaingc a chanol oed wedi eu galw i ymuno a'r Fyddin Diriog- aethol, bydd prinder dynion i weithio yn y cynbauaf, ac y mae rhai amaethwyr eisoes mewn anhawsder dirfawr o herwydd hyn, yn enwedig felly yn Nyffryn Clwyd, cwmmwd eang sydd bron oil yn dir amaethyddo]. Gyda'r amcan o gynnorthwyo yn y mater, darfu i Mr. W. G. Rigby, Pentremawr, Llandyrnog, gyda chefnogieth Mr. D. S Davies, Plas Castell, Dinbych, awgrymu'r priodoldeb fod rhai o'r gweithwyr a gyii. gir ynglyn a'r Sanatorium newydd agodir ar ystad Plas Llangwyfan yn cael eu rhyddhau oddi wrth eu gorchwylion yiio, i'w galluogi i fyned am dair wythnosneu fid i'r cyiihauaf yn y rhanbaith cylchynol. Ysgrifenodd Mr. Davies at Mr. Taliesyn Rees, y Pensaer (architect) i'r perwyl hwuw. Bu Mr. Rees mewn ymgynghoriad a'r contractor, Mr. Merritt, Birkenhead, a chytunodd y-aiau yn .rhwydd a-r awgrymiad. Dyd(i Linn yr oedd Mr. Merritt yn Llangwyfan, a chydsyniodd ar unwaith i osod ugain o'i weitliwyr — o ddentu haner nifer y llafurwyr a gydu-ir ganddo yno at wasanaeth yr amaethwyr. Teimlir yn dra diolchgar i Mr. Merritt am ei hynawsedd, ac os ca'r llafurwyr gyflog cyi'artal, mae'n ddiau eu bod yn ewyllysgar i roddi eu gwasanaeth yn y cynbauaf. Dichon y bydd i eraill o gyflog- wyr llafur ddilyn esiampl ragor(,l Mr. Merritt.
Advertising
CONCERT TICKETS Posters Programmes PRINTED ARTISTICALLY AND AT REASONABLE PRICES. Billheads and Memos from 5/- per 1,000. Estimates per return. Estimates per return. CORWEN PRINTING CO. True wisdom Lies in Buying when Prices are Lowest. So why not buy your DRAPERY now. Lloyd's GENUINE SALE NO on. .?.?9Y.YY.Y.Y. Every Bargain a Real One. Many Lines at Half-Price. BUT NOW AND SAVE MONET. AN EARLY VISIT IS SOLICITED Waterloo House, Cor wen.