Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
'. .BRWYDR AR Y MOR.
BRWYDR AR Y MOR. Buddugoliaeth Germaniaidd dros Llynges Rwsia. Chwythu Llong-rhyfel a meddianu Ynys. LLADD 800 OR SERF IAID. I BRWYDR YN BELGRADE. I CHWYTHU PONT. M I Derbyniwyd manylion am y brwydro fu yn Belgrade. Nid oedd Ilawer o golledion yn y dref bono, meddir, ond hysbysir fod milwyr Awstria wedi derbyn collodion trym- ion yn eu hymosodiad ar Semendria. Ar ol brwydr galed yn Loznitta, ymneullduodd y Serfiaid ar ol derbyn colledion mawr. Adroddid o Vienna nos Iau, fod lIe y cedwid pylor wedi ffrwydro yn Belgrade, a bod y ddinas yn fflamau. Gwnaeth y Serfiaid ar doriad y wawr ym- gais aflwyddianus i ddinystrio y bont. Tanbelenodd y Serfiad o Swyddfa'r Tollau ar gorphluoedd Awstria, ond troes y diweddaf eu magnelau ar yr adeilad, a dinystriwyd ef. Yn ystod ymosodiad y Serfiaid ar y bont, cymerwyd un-ar-bymtbeg ohonynt yn garchar- orion a chymerwyd hwy i Peterwarden. Adroddiadau o Rufain, dydd Iau, a ddy- edant i filwyr Awstria barhau i symud ymlaen o dri chyfeiriad, Gwrthodwyd hwy gan ad- ranau bychain o filwyr Serfia, ond yn ddilynol troes y Serfiaid yn ol Aeth corphluoedd Awstria ynmlaen i fyny i Ddyffryn Morafa, a daethant i gyffyrddiad a'r Serfiaid yn Semedria. Daliodd milwyr terfia i wrthsefyll hyd nes y daeth yn nos. Cafodd y ddwy ochr golledion mawr. Nid ydyw'r Adran Ddeheuol o Fyddin Aws- tria wedi symud eto. Dywedir eu bod Y11 disgwyl dyfarniad Montenegro a oeddynt am gymeryd rban yn yr ymrafael.
PRYDAIN FAWR A'R RHYFEL. I…
PRYDAIN FAWR A'R RHYFEL. Cymylau yn Duo. Yn Nby y Cyff,, edin prydnawn dydd Llun (ddoe), dywedodd Syr Edward Grey ei fod wedi rhoddi ei addewid i Lywodraeth Ffrainc os y deuai y Llynges Germanaidd i Mor y Gogledd neu ymyryd a thir. Ffrainc a'r lanau y mor hwnw, y byddai i'r Llynges Brydeinig roddi cyuorthwy yn eu gallu iddynt. j DYDD LLUN. Derbyniwyd pellebr swyddogol o Stockholm ddarfod i Llynges Germani gael buddugol- iaeth dros y Llynges Rwsiaiad ger llaw yr Ynysoedd Aland. Meddianir yr Ynysoedd yn awr gan Germaniaid. —
Newyddion DiweddarafI
Newyddion Diweddaraf I Y mae y berthynas cvdrhwng Ffrainc a Germani yn awr yn llwyr. Ymadawodd cynrychiolydd Germani o Ffrainc boreu heddyw (Mawrth) am 10 o'r glocb, ac ar yr un pryd galwyd cynrychiolydd Ffrainc yn ol o Germani. Dechreuwyd y rbyfel presenol mewn ang- hydfod cydrb wng A wstria a Serfia, ac y mae Rwsia a Ffrainc mewn ymrwymiad a'u gilydd i amddiffyn Serfia oddiwrth ei gelyn cryf Awstria gyda byddinoedd lluosog.
KITCHENER YN SWYDDFAI RHYFEL.I
KITCHENER YN SWYDDFA I RHYFEL. Y mae y tehygolrwydd mwyaf y bydd Ar- glwydd Kitchener i gael cynyg ar y swydd o Ysgrifenydd Rbyfel, yr hon swydd sydd yn cael ei dal yn awr gan y Prifweinidog. Yr oedd Kitchener ar ei ffordd yn ol i'r Aipht pan yr anfonwyd pellebr iddo ddod yn ol. Y mae yn Hawn bryd iddo gael ei le priodol.
CRYNHOI EIN BYDDIN. I
CRYNHOI EIN BYDDIN. I Darfu i'r Swyddfa Rhyfel neithiwr roddi allan y gorchymyn fod i'r fyddin gael eu chrynhoi, ac y bydd yn angbenrheidiol i bob milwr ymneiliduedig fod yn barod i uno a'i fyddin pan y gelwir arno.
^t EIN LLYNGES YN BAROD. I…
EIN LLYNGES YN BAROD. Deallwn fod ein Llynges yn barod i gyf- lawni unrbyw orchwyl ddisgwylir ganddi.
CAU Y BANCIAU.I
CAU Y BANCIAU. I Er mwyn sicrbau faint ydyw swm yr aur yn y wlad yughyda saile ariauol y banciau os bydd anghen am gario allan y rhyfel pender- i'ynwyd pasio mesur i gau y banciau hyd Nos Iau nesaf. 0 dan amgylchiadau fel hyn mae llawer yn ofni ac yu crynu ond nid oes sail i ofni ar hyn o bryd.
YMDDISWYDDIAD JOHN BURNS.…
YMDDISWYDDIAD JOHN BURNS. Dywedir fod y Gwir Anrhydeddus John Burns wedi ymddiswyddo oherwydd nad yw yn cydweled a'r ddarrariaeth bresenol yn ein gwlad ar gyfer rhyfel. j
Advertising
'■ A 1 J. R. DAVIES, No 4, BRON BERWYN, — CORWEN, —— SLATER, PLASTERER, &C- Chimneys Swept at Moderate Charges. Estimates Given. —— WANTED. YOUNG GIRL as help in House and Shop. Apply- Adsain Office. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how all Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands f Testimonials. Established 1862. MR. PAUL BLANOHARD, Claremont House. Dalston T ane, London HYSBYSIAD PWYSIG. Stoc Helaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb DYMUNA HUGH UGHES, leirion Boot Stores, Corwen HYbBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shootings "K" Boots, a'r Country K" Boots, Holdfast" ar New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlaut at lymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a cliyda'r liedr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a eliir eu cydmaro. yn ioddhaol gydag unrbyw eraill. | Cofxwch y Cyfeiriad— !'Bridge Street,^Corwcu.