Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Marwolaeth HARRY EVANS. COLLED ENFAWR I GYMRU. Gyda gofid dwys yr ydym yn croniclo am farwolaeth y beirniad ar arweinydd byd-enwog, yr hyn gymerodd Ie yn ei breswylfod yn Prince's avenue, Lerpwl, dydd Iau diweddaf. Yr oedd wedi bod yn cwyno oherwydd ei iechyd er's oddeutu blwyddyn, a gorchymynwyd iddo fyned am orphwysdra llwyr allan o Lerpwl, yr hyn a wnaeth. Derbyniodd iudd oddiwrth y gorphwysdra hwn, ond ar ol iddo ddychweiyd adref tarawyd ef yn wael dracbefn, a bu raid iddo fyned o dan weithred law-feddygol. Y mae yn un o'r telynau a dorwyd i lawr yn gynar gan nad oedd ond un a deugain oed. Un o blant yr Eisteddfod oedd Harry Evans, ac i raddau pell hunan-addysgvdd oedd. Plentyn athrylith wirioneddol oedd, a gellid ei osod ar ben y rhestr ymhlith arweinyddion Cymru. Bu yn beirniadu yn Eisteddfodau Corwen, Gwyddelwern a Cerryg amryw droion. Gwyliai ddatblygiad cerddoriaeth yug Nghymru yn fanwl, a clivtnerai ddyddordeb ymbob symudiad a'i duedd at hyny. Cyfansoddodd lu o weithiau cerddorol, ac ef,' ofalai am adran y gerdd yn Ngholeg y Brifysgol Bangor. Bellach y mae ei delyn wedi tewi a'r golled i Gymru ar ei ol yn anfesurol, ac y mae cenedl gyfan yn ei dagrau. Nid cerddor enwad, Sir, na rbanbartb oedd, ond athrylith wirioneddol wedi llosgi allan ar allor gwasanaeth ei wlad. Rhodd i genedl oedd fel arweinydd, ac nid yn ami y digwydd hyn. Yr oedd yn athrylith rhy fawr i fod yn gyffredin, ac nid hawdd fydd llenwi y bwlch sydd wedi ei adael yn nghanu Cymru. Dodwyd ei weddillion marwol i orphwys yn mhriddellau Mynwent Smithdown Road, Lerpwl, prydnawn dydd Llun diweddaf, yn nghanol yr arwyddion dyfnaf o alar. Daeth nifer fawr ynghyd i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Gedy gwraig a dau o blant i alaru ar ei ol,'a bydded i wenau tyner y Nef ddisgleirio arnynt yn ngwyneb y brofedigaeth lem. 8JDr'I --AJ:t1'KI:A i1Iœw, it!ØmJ

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWENI

Advertising