Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.

News
Cite
Share

CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION. Cynbaliwyd yr uchod yn Trawsfynydd, Mehefin lOfed, a'r 11 eg, 1914. Pwyllgorau am 10-30, ac 1 o'r gloch, a'r Gynhadledd am 2 o'r gloch, dydd Mercher. Mr. W. 0. Williams, Y.H, Corwen, yn y .gadair, dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. W. Foulkes, Corwen. Y Gymanfa y flwyddyn nesaf i'w chynal yn Esgairgeiliog.. Y Parch. Ivan T. Davies, Llandrillo i fod yn gadeirydd, ac ail etholwyd y trysorydd a'r ysgrifenydd, a hysbysodd yr ysgrifenydd y bydd yn ymddiswyddo yn y Gymanfa. Dewiswyd y Parchn. W. Pari Huws, B.D., J. Rhydwen Parry, Bethania, a W T Rowlands Y.Ef., Tanycoed, ar Gyngor yr Undeb Cymreig, a Mr. L. J. Davies, Llanuwchyllyn, ar Bwyll- gor y Caniedydd, a'r Parch. J. Hughes, Jerusalem, ar Bwyllgor y Gronfa. Hysbysodd Mr. Davies, fod Pwyllgor y Caniedydd yn myned yn mlaen g} d a' r gwaith o ddwyn allan argraffiad newydd o'r Caniedydd ac y bydd yn barod mor fuan ac y gellir. Ysbyttai. Galwyd sylw at adroddiad camarweinio] a ymddangosodd yn d diweli dar yn uo o bapurau Ffestiniog nad yw Anibynwyr Gogledd Cymro. yn cyfranu at Ysbyttai Lerpwl, tm y mae yr enwad yn Meirion yn danfon iddynt tua t50 yn flynyddol er's blyriyddau. t r t Adroddiad y Drysorfa Ganolog. Eu bod yn cymeradwyo yr amcan ogynal Cymanfa Gerddorol yn Mhafiliwn Corwen yn 1915, a'u bod yn cyflwyno y mater i ystyriaeth pwyllgorau cerddorol gwahanol Undebau Ysgolion Meirion. Diolchwyd i'r Cadeirydd am ei wasanaeth gwerthfawr yn y gadair yn ystod y flwyddyn. Hefyd cyflwvnwyd y diolcbgarwch mwyaf gwresog i'r cyfeillion yn Trawsfynydd am eu darpariadau helaeth ar gyfer y Gymanfa mewn gwahanol ffyrdd. Cafwyd croesaw gan bawl) yn ddiwahaniaeth. Moddion Cyhoeddus. Pregethwyd nos Fercher a dydd Iau gan y Parchn. H. Elvet Lewis, M.A., Llundain, J. J. Williams, Pentre, Ben Davies, Panteg, ac R. Gwylfa Roberts, Llanelli. Cafwyd hin ddy- munol a chynulliadau lluosog, a tbrefniadau rhagorol ar gyfer y Gymanfa. Nid oedd ball ar ffyddlondeb ac ymdrechion yr eglwys i wneyd y Gymanfa yu Ilwyddiant, a theimlwyd nerth ac awdurdod yr efengyl yn yr holl wyl. Mae Mr. Richards a phobl ei ofal yn ym- ddangos mewn cydgordiad hapus Hir y par- hao yr aoaddiifyn ar yr holl ogoniant.

Advertising

EISTEDDFOD GADEIRIOL PENTRECELYN.

[No title]

Advertising