Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y Cyhoeddiadau Sabbothpl Corwen
Y Cyhoeddiadau Sabbothpl Corwen Mehefin 28am, 1914. Y WtSLEYAID.-Parch J. Pughe Jones am 10, a'r Mr Joseph Davies, Gwyddelwern. YR ANNIBYNWYR CYMREIG.—Am 10, Mr John Ellis, Utica, Maentwrog; a'r Parch Robt. Griffiths, Madagasgar am 6. YR ANNIBYNWYR SAESNIG.—Parch. J. W. Foulkes. Y METHODISTIAID.-Parch T. E. Roberts, Aber- ystwyth. BEDYDDWYR-Cwrdd Gweddi am 10 Parch. H. C. Williams am 6. Corwen Golf Club. Riverdale Cup I Competition under medal play rules, on Wed- nesday the 24th instant. The draw for the above cup was made on Monday with the following result:— Messrs P. J. Thomas & Messrs T. LI. Jones „ Alfred Parry & „ N. Garner „ R. T. Foulkes & „ H. 0. Davies „ 0. A. Lloyd & „ J. H. Evans (Bank) „ E. Derbyshire & „ J. 0. Hughes Rev. E. B. Roberts & „ L. E. Rees Messrs Edw. Roberts & R. J. Jores „ D. Davies Wm. Davies „ W. Derbyshire & „ W. Stansfield „ J.H.Evans (P.o) & „ W.P.Williams „ J. T. Garner & D. L. Jones J.Morgan & G. Humphreys Play will be over 18 holes and must commence between the hours of 2.0 and 5.0 o'clock p.m. Competitors may suit their convenience as to the hour of commencement within the limits laid down. Marwolaeth.—Dydd Llun,Mehefin 22ain, yn Llundain, bu farw Mr. Maurice Williams, mab hynaf Mrs. Williams, Tynycelyn, Bonwm, ar ol cystudd maith a blin. Cydym("eimlir yn ddwfn a'r teulu yn eu trallod. ——————
CYNGHOR DOSBARTH EDEYRNION.
CYNGHOR DOSBARTH EDEYRNION. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cynghor uchod dydd Gwener diweddaf. Presenol Mr. R. 0. Roberts (cadeirydd) Mr. Thomas Jones (is- gadeirydd); Mri. 0. A. Lloyd R M Roberts R J Jones; John Jones T W Edwards J Hughes J 0 Roberts W Williams William Roberts Ellis H Ellis E P Jones Dr. D R Edwards fMeddyg) Mr R D Williams (Arolygwr). Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y ddau gyfarfod blaenorol. Mewn llaw 9366 Is. 7c. Gobebiaeth. Derbyniwyd Llythyr oddiwrth y Bwrdd Lywodraeth Lleol yn cadarnhau ychwanegiad yn ngyflog yr Arolvgwr. Betryal y Frenhines, Corwen. Darllenwyd llythyr oddiwrth. Mr. John Williams, Dee View, Corwen, yn hysbysu ei fod ef wedi prynu Betryal y Frenhines ynghag Ystad Tynddol, Corwen, ac hefyd yn egluro ei fod ef wedi gwneud gwelliantau mawr yn Betryal y Frenhines pa rai sydd yn ateb i ofynion y "Town Planning Act." Gan nad oedd yr aelodau na'r swyddogion yn deall cynnwysiad y llythyr, ac nid oeddynt yn deall paham yr oedd ef yn ysgrifenu at y Cynghor, pasiwyd yn unfrydol i adael y llythyr ar y bwrdd. Bwrdd Lywodraeth Lleol a'r Cynghor. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Fwrdd Lywodraeth Lleol ynglyn a'r cwestiwn o adeiladu tai yn Nghorwen a'r cylch, ac yn gofyn a oedd y Cynghor yn barod i symud yn y mater,ac os nad oeddynt am symud i adeiladu tai yr oedd y Bwrdd Lywodraeth Lleol am gynal Ymchwiliad Cyhoeddus" ar unwaith. Dywedodd Mr. R. Meyrick Roberts fod y Cyngbor wedi cynal cyfarfod arbenig er ymdrin adroddiad Arolygydd y Llywodraeth (Dr. Rees) yr hwn sydd wedi gwneud ymchil- iad i mewn i sefyllfa nifer o dai yn Nghorwen a chafodd bod 25 o honynt yn anghymwys i bobl trigianu ynddynt. Elgurodd Mr. Roberts y pwysigrwydd o symud ymlaen gydag adeiladu tai gweithwyr ar unwaith. Os oedd- ynt i godi loan am, dyweder, o 11200 i £ 1500 gallent adeiladu chwech o dai i ddechreu wedyn feallai y bydd yna rhywun arall yn adeil- adu tai. Ar y Haw arall os cynhelir ym- chwiliad cyhoeddus golyga hynny gost mawr ac feallai bydd hyn yn dwyn cywilydd ar y Cynghor a'r dref. Ar gynygiad y Mr. E. P. Jones, yn cael ei eilio gan Mr. R M Roberts, pasiwyd i ateb y llythyr fel a ganlyn: Fod y Cynghor yn barod i symud ymlaen gyda golwg ar adeiladu tai." Ffurfiwyd pwyllgor i edrych am dir i adeiladu chwech o dai arno. Adroddiad y Meddyg. Nid oedd yr un achos o glefyd heintus yn y dosbarth. Yr oedd amryw ysgolion yn y dosbarth wedi cau o achos afiechyd a pas. Adroddiad yr Arolygwr. Rhoddodd adroddiad o hanes Gwaith Dwfr Cyij wyd pa. un sydd i gostio oddeutu £ 500. Ar ol ymdrafodaeth maith, ffurfiwyd pwyllgor i edrych i fewn i'r mater pwysig uchod. Betryal y Farchnadfa, Corwen. Dywedodd yr Arolygwr bod dwy rhan o dair o'r lie uchod wedi eu adgyweirio, yr oedd yna 63 llwyth o fetlyn a 80 llwyth o gerrig o'r Graig wedi cael eu rhoddi ar y Sgwar Nid oedd ganddo arian i orphen y gwaith. Pasiwyd iddo gael Y,7 arall at gario y gwaith allan. Tai Fourcrosses. Y mae y tai yn Fourcrosses, Glanrafon, perthynol i Mr. W. R. Evans, Bontbren, wedi cael ei adgyweirio, ac yn awr y maent yn batrwm o dai gweithwyr. Gwaith Dwfr Gwyddelwern. Pasiwyd i dori cyflenwad dwfr i ffwrdd oddiar amryw daiyn Gwyddelwern os na bydd y tenantiaid yn talu'r dreth dwfr. Cyflogau y Gweithwyr. Pasiwyd i godi swllt yr wythnos yn ngyflog pob un o weithwyr y Cynghor, hefyd pasiwyd iddynt gael gorphen eu gwaith am dri o'r gloch yn lie pedwar ar ddydd Sadwrn.
Gwrthdarawiad ar Linell y…
Gwrthdarawiad ar Linell y Great Western. Boreu dydd Mercher diweddaf, yn ymyl Gorsaf Reading, aeth express oedd yn teithio tua'r brif-ddinas i wrthdarawiad ag excursion train llwythog oedd yn myned i Windsor. Taflwyd y ddau beiriant, ac aeth nifer o'r cerbydau oddiar y rheiliau. Lladdwyd un gyr- wr ac anafwyd amryw o'r teithwyr. Yr oedd yr express yn teithio yn ol deugain milldir yr awr pan gymerodd y gwrthdaraw- iad le.
Advertising
DIWRNOD AR LAN Y MOR. —— PLESERDAITH FLYNYDDOL (Ysgolion Ymneillduol Corwen), CORPHENAF laf, 1914. Cludiad yn ol ac ymlaen :— R H Y IJ 2s 6ch. (2/6). LLANDUDNO 3s 3c. (3/3). Y Tocynau i'w pwrcasu gan Arolygwyr yr Ysgolion. Cychwynir am 7-15 yn y Boreu. Dychwelir o Llandudno am 8 p.m., ac o Rhyl am 8 55. Ceuir boll Fasnachdai am y Dydd (All the Shops will be closed the Day. Am fanylion pellach ymofyner a'r Ysgrif- enJdd, T. EDWARDS, Minawel, Corwen. HYSBYSIAD PWYSIG. Stoc Helaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb   DIMUNA HUGH HUGHES, leirion Boot Stores, Corwen HYSBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting "K" Boots, a'r Country K" Boots, Holdfast a'r « New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a chyda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yn foddhaol gydag unrbyw eraill. Cofiwch y Cyfeiriad- Bridge Street, Corwen.