Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Ardalwr a Dieithr yn ail gyfarfod…

News
Cite
Share

Ardalwr a Dieithr yn ail gyfarfod yn Nghorwen. Ardalwr:—Maddeuwch i mi syr, ond oni'ch gwelais chi yn Steddfod Gwyddelwar yn do, Sut ddaru chi joyoch hun ?. Dieithr :-Campus gyfaill-dynar canu a'r cystadlu goreu glywais ers llawer dydd. Ardalwr —On i'n meddwl boch chi wrth ych bodd syr, achos ddaru chi ddim symud o'r ffrynt ar hyd yr amser naddo ?. Dieithr:—Naddo siwr, yr oeddwn wedi penderfynu clywed y cwbl, pe daswn i yno hyd y bore. Ardalwr:—Fedrwn inne yn y myw Syr fynd odd yno, achos oedd yne un champion wrthi o hyd-glywsoch chi yn dyn ifanc hwnw ar y dechre yn canu yn Sasneg am y meinars ?. Dieithr:—Do, canwr rhagorol oedd o, onide ? Ardalwr :—Ie, campus-ond ddaru o ddim taro i'ch meddwl chi syr, fod hwnw wedi cael cam yn rhywle, os na enillodd o 5/- o'r blaen ? Dieithr:—Rydach chin reit, nid dyna y tro cyntaf i hwnw fod ar y llwyfan sut bynnag- ond beth oedd eich barn am yr wythawd ? Ardalwr:-Wel ardderchog wir ond sut ar afeth y dduar ceutbo nhw bractis deudwch— ond doedd yue rai yno o bob cwr i'r byd blaw'r Bala Dieithr :—Rydech chwi yn cwestiyno yn ddrwm yn awr gyfaill,—mi welaf fod tipyn o element y "critic" ynoch. Ardalwr:—Tricneu beidio syr, ron i bron a chrio pan oedden nhw yn canu y don yne "Myfanwy" ac yr on i yn loicio y parties ugea hefyd yn ofnatsen o chi ?. Dieithr -Y rhai oedd yn ymgeisio ar y 'Nant ar Blodeuyn' a feddyliwch illae'u debyg bump o honynt yn canu yn rhagorol. Ardalwr :le siwr-go arw yr hen Wydd- elwar yn te ? Rown i 'run farn a Mr. Price y beirniad yn hollol ar byny syr. Nnw, oedd y gore hefyd. Dieithr :—Glywsoch chi y corau Plant yn y prydnawn a'r Action Song hefyd ?. Ardalwr :—Naddo wir most the piti syr, ron i'n methu gadael tan y nos-yr cedden nhw'n dda dw i'n siwr. Dieithr:—Oeddynt wir, cafwyd cystadlu campus a rhwng jokes Llifon ac anerchiad ddoniol y Llywydd yr oedd yn gyfarfod dydd- orol iawn. Ardalwr.Un da ydi'r hen Lifon ynte syr ful arweinydd 'Steddfod, ? glywsoch chi o yn rhol stol.) ar y "ladies" i agio ar y meinciau rheini. ? Dieithr: —Ie doniol iawn wir, ac mi fydd llywydd y prydnawn a'r nos yn ddoeth iawn wrth fod mor "short and sweet". Ardalwr: --A rboi yn "go hael" yn y pwrs mi wranta syr ? Dieithr :—0 ie wrth gwrs gwnaethant hyny i foddlonrwydd perffaith-ond beth oedd eich barn am y corau cymysg ? Ardalwr:-Wel dyba 'dractiodd'cymaint o Gorwen yma, yno syr, fel y gwyddoch, a deud • y gwir, chlywais i rotiwn ganu am y gore yn ym mh wff syr. Doeddech chi jest yn gweld y notes yn dod alian o'i penne nhw—campus o gystadleuaeth ohoco I)ieitbr:-Dyna'n nbeir-tilad innau hefyd, rwyf wedi clywed llawer o gystadlu gan gorau cymysg, ond rhaid i mi gyfaddef na welais erioed yn unlle arwydd mor amlwg ar wyneb- au aelodau yr holl gorau eu bod yno ar eu goreu am y gadair. Ardalwr Dech chi 'n siwr o fod yn iawn syr. Yr oedd pob un o honynt yn werth eu clywed-chware teg iddi'n nhw. Mi ddarun j "stikio i'w cylars yn rhagorol-enill a I cholli yn anrhydeddus—dyna syn iawn ynte syr ? Dieithr: Quite so a gawsoch chi' ch plesio yn y feirniadaeth. Ardalwr: Plesio, do syr Fentrwn i'n mywyd i Tom Price, ac mae pawb yn gwybod na wna o ddim cam u neb yn fwriadol beth bynnag. Dieithr: Da. Ardalwr: Ar ych traws chi syr. ydech chi ddim yn hapno cofio y figars ? Dieithr Ydwyf, dyma hwynt i lawr genyf, • Corwen (A.H.) 95; Corwen (W.B.J.) 94; Bettws 86; Gwyddelwar 85; Dinmael 84. Ardalwr: Ie yn te syr a d'oedd yne ddim ond un mark rhwng y gadair ar gwpan nag oedd—go glos yn te mewn difrif ynte Dieitbr: Ie, cadair dderw dda a chwpan hardd oeddynt hefyd. Beth oedd enw y dyn hwnw deudwch fu yn casglu tuag atynt ? Ardalwr: Wel, 'ntydipawbyn i nabod o syr, ond Mr Ellis RobaitA, Pengwern Siop yma sydd ar ein cyfer ydi o ac un garw ydi o am neud peth felly, chware teg iddo. Dieithr: Ie,— da iawn yw cael dynion felly mewn cysylltiad ar Eisteddfod, ond mae yn debyg i'r Ysgrifenyddion a'r Trysorydd wneud eu gwaith yn rhagorol. Ardalwr Do debyg-pawb o ran hyny. Dieitbr Pwy oedd yn barnu adrodd yno ? Ardalwr: Parch H A Jones, Cynwyd— oeddech chi 'run farn ac o ? Dieithr Wel oeddwn, ond mae'n debyg mae y gweinidog oedd yn cynyg y diolchiadau ar y diwedd ? Ie, siwr, y Parch. J Faulkes EJIis-cadeir- ydd y Pwyllgor syr, mae o yn cvmeryd dydd- ordeb mawrmewn pethau fel hvn. Dieithr Pa ryfedd fod yr Eisteddfod wedi bod yn llwyddiant Ardalwr Dydio ddim rhyfedd o gwbl syr pan gofiwch chi am y gweitbio fu yno, a charedigrwvdd llawer o'r tu allan. Dieithr Prydnawn da gyfaill, a diolch i ehwi am iy lJghyfarwyddo yno, a pban ddof drosodd i'r hen wlad eto disgwyliaf y bydd y Pwyllgar wedi trefnu Eisteddfod mewn pabell o'r fan leiaf ddwy waïth gymaint. Mae yr Eisteddfod honyn werth i'w chadw'n fyw— Llwydd iddi

Advertising