Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

EISTEDDFOD GADEIRIOL M.O.…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GADEIRIOL M.O. GWYDDELWERN. Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod ddydd lau, mewn pabell eang yn Gwyddelwern. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan L. Lloyd John, Ysw., Corwen a cbyfarfod yr hwyr gan Dr. R. J. Roberts, Corwen beirniad cerddorol.Tom Price, Ysw., Merthyr beirniaid yr adroddiadau, Parch. H. A. Jones, Cynwyd, a'r Parch. W. G. Owen (Llifon) arweinydd, Llifon trysorydd, Mr. ParryfR. Jones, Tynant; ysgrifenyddion, E. James Hughes, Stores, a Thomas Griffiths, Beuno Terrace, Gwyddel- wern. Cyfeilwyd yn fedrus iawn gan Mr. W. Bradwen Jones. Beirniad y canu pennillion ydoedd Proff. D. Berwyn Evans, Johnstown, Pensylvania, America. Telynor, Mr. David Jones, Llangwm. Cafwyd eisteddfod campus yn enwedig cyfarfod yr hwyr pryd yr oedd y babell yn orlawn o eisteddfodwyr o bob cyfeiriad. Parhaodd cyfarfod yr hwyr o bump hyd un-ar-ddeg o'r gloch. Enillwyd y gwobrwyon gan y rai a ganlyn :— Cerddoriaeth. I Prif Gystadleuaeth Gorawl (Corau Cymysg) Teilwng yw yr Oen (Handel), gwobr;ES a chadair dderw gwerth f,3 ail wobr £2 a chwpan arian i'r arweinydd rhoddedig gan E. J. Jones, Yaw., Llangollen. Ddaeth 5 o gorau i'r llwyfan, ac allan o 100 o farciau enill- wyd fel a ganlyn Corwen o dan arweiniad Mr. Arthur Humphreys (95 o farciau) Corwen (Mr. Bradwen Jones) (94) Bettws (Mr R. Edwards) (86) Gwyddelwern (Mr. Edward Hannam) (85); Dinmael (Mr. E. Elias Roberts) (84) Cadeiriwd arweinydd y cor buddugol gan Llifon ac eraill tra yr oedd y dorf yn gwaeddi Heddwch." Ni ddaeth ond un cor meibion ymlaen i gystadlu am y wobr o £ 6, a chwpan arian hardd rhodd- edig gan Dudley Morgan, Ysw., Corwen, sef Cor Meibiion Corwen, o dan arweiniad Mr. W. B. Jones, a rhoddodd ddatganiad da iawn o'r ddernyn, Y Gof a dywedodd y beirniad fod y cor yn haeddu y wobr Y Nant a'r Blodeuyn (Tom Price), ydoedd y ddernyn i bartion cymysg heb fod dros 20 mewn nifer, a'r wobr yn £ 2, a baton i'r arweinydd rhoddedig gan Ffoulkes Jones, Yaw., cyfrieth- iwr, Llangollen. Ymddangosodd 5 o bartion ar y llwyfan, a dyfarnwyd Parti Mr. T. Roberts, Gwyddelwern, yn oreu Wythawd i Feibion Myfanwy Arabella, °, gwobr Xl, goreu Parti Mr. R. T. Roberts, Birkenhead, o dan arweiniad Mr. D. R. Jones, Gwrecsam Corau Plant, gwobr Y,2,a chwpan i'r arweinydd rhoddedig gan W. J. Stansfield, Ysw.,Corwen, ail wobr, JEl. Goreu, Cor Plant Bettws G.G. o dan arweiniad Mr. William Jones, Bettws, ail, Cor Plant Ruthin, o dan arweiniad Mr. Ellis Williams Action Song. i ddeuddeg o blant, gwobr 12s., goreu parti Miss Jones, Chapel House, Gwyddelwern; Cyfansoddi T6n i Blant, goreu Mr. T. R. Jones, Temple Bar, Dinbych Deuawd, Flow gently Deva," D. R. Jones, Gwreesam, a Robert Roberts, Bala, a enilliwyd y wobr o 15s. Unawd Baritone, Brad Dunravon," gwobr 10s.6c. rhoddedig gan Mr. Platt, Vet. Surgeon, Corwen, goreu, Mr. D. R. Jones, Wrecsam Unawd Tenor, Gal wad y Tywysog gwobr 10s.6c., goreu Mr. Robert Roberts, Bala Unawd Soprano, Nant y Mynydd," gwobr 10s.6c. goreu Miss B. Edwards, Blaenau Ffestiniog Unawd i rai beb enill 5s o'r blaen, gwobr 5s. rhoddedig gan Mr. Humphreys, builder, Corwen, goreu Mr. Ted Hughes,Cefn Mawr Canu gyda'r Tannau, gwobr laf, 7s.6c., ail 2s.6c., laf: D. Williams, Pentrevoelas ail, Mr Idris Williams, Gwydd- elwern Unawd i Fechgyn Robin Goch," gorea R. Lloyd Owen, Liverpool Terrace, Corwen ail, A. Baines, Carrog; Unawd i Enethod, Yr Eneth Ddall," goreu, Miss Gwen Davies, Ruthin 2, Miss Ada Jones, Station House, Gwyddelwern. Adroddiadau. I rai dros 18 oed, Golygfa mewn Senedd," gwobr 7s.6d. a Medal Arian, goreu, Mr. J. E. Williams, Bala; ail, Blodwen.I rai rhwng 12 a 18 oed, Palmant y Dref," gwobr 5s., ail 2s.6d., goreu Miss Blod wen Morris, Llan- uwchllyn ail, Master Stanley Jones, Station House, Gwyddelwern.—I rai rhwng 8 a 12 oed, Yn y Dymestl," laf, Gwenllian Williams, Corwen; 2, A. Baines, Carrog; cyd- radd 3ydd, P. R. Jones, Cynfal, a Gwen Williams, Gwyddelwern.—I rai dan 8 oed, Gwers i Pwsi," laf Kate Price, Llanelidan 2, M. Davies, Bryneglwys cydradd 3ydd, Peter Roberts a Georgiana Lloyd, Gwyddel- wern. Celfyddydwaith. Ffon Bugail oreu, laf Mr. Thomas Evans, Aber View, Corwen.—Fancy Cushion Cover, Miss Jones, Aran View, Llanuwchllyn ail Miss Williams, Ruthin.—Par o Fenyg gwau- edig i ddyn, goreu Catherine Evans, Gwyddel- wern. Enillwyr Eraill. I Deuawd i Blant, goreu Mair Roberts a Gladys Jones, Gwyddelwern Englyn i'r Ddrama, goreu Mr. Williams, Llandderfel Overall goreu Miss Jones, Brithdir, Llanelidan. Priodolir llwyddiant yr eisteddfod nid yn unig i wasanaeth yr Ysgrifenyddion. ond i lafur ac egnion di-gymhar Mr. Ellis Roberts, Caehir, yr hwn fu yn foddion i gael tanysgrif- iadau tuag at bwrcasu y gadair, hefyd efe a sicrhaQdd gan y gwahanol boneddigion caredig y cwpanau arian a'r baton. a

BETTWS, G.G.

LL A WR-Y-BETT W S.

[No title]

jLLANDRILLO.

Advertising