Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL BEDYDDWYR…

News
Cite
Share

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL BEDYDDWYR EDEYRNION. Y GYMANFA FLYNYDDOL. I: Cynaliwyd yr uchod eleoi yn Nghynwyd, dydd Linn, Mai 18fed—diwrnod hafaidd a dymunol. Cafwyd, yn garedig iawn, fenthyg addoldy cyfleus y Method istiaid i gynnsil y cyfarfodydd, ag Ysgol y Cynghor i barotoi ac i fwynbau yr ymborth blasus, dan law chwiorydd caredig y lie, yn ca-1 eu cyn- orthwyo gan amryw frodyr. Yn nghyfarfodydd y prydnawn, o dan lywyddiaeth Mr R. Roberts, Carrog, cdfwyd gryn lawer o amrywiaeth. Wedi canu yr hen don Cysur,' fe arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch J J Morgan, Bala. Yna holwyd plant lleiaf yr holl ysgolion mewn penod o Holwyddoreg (J. Simon) gan Mr. D. M. Davies, Corwen. Canwyd y tonau canlynol yn yst d y cyfar- fod, sef, Sawley,' Cofio'r lesu,' Pwv bynag a ddd,' a Miiwyr Ieuainc ydym,' ac er ei bod yn brydnawn gwresog, fe gafwyd hwyl Iled dda. Fe adroddodd Dosbarth o Ysgol Carrog beunod o Holwyddoreg (Titus Lewis) yn dda ragorol, yn cael eu holi gan Mr Amos Williams; hefyd cafwyd pennod arall gan y plant lleiaf, a'r Dosbarth o 9 i 12eg oed yn adrodd penod o Holwyddoreg (H C Williams) yn wir dda, yn cael eu holi gan Mr E. Edwards, Cynwyd, yr hwn hefyd roddodd ei ieirniadaeth ar y plant ymgeisiodd yn yr Arholiad Llafaredig trwy y cylch. Tri yn unig yn y Dosbarth o 9 i 12eg oed gyrhaedd- asant ffon uwchaf yr ysgol, ac o ganlyniad cawsant eu gwobrwyo. Yr oedd 17eg wedi cael marciau llawn yn y Dosbarth o dan 9 oed, a derbyniodd bob un wobr, yn ogystal a thystysgrif. Galwodd y Llywydd ar y Parch R. W. Davies, Pontardulais (gynt o Gorwen), i gyflwyno y gwobrwyon, yr hyn a wnaeth mewn modd deheuig. Cafwyd ganddo araeth, wresog mewn adgofiion (yn benaf) am hen gymanfaoedd a'i' cyfarfodydd ysgol, y bu ef ynddynt yn y cylch amryw flynyddau yn ol. Cafwyd sylwadau buddiol gan y Llywydd, yn ei anerchiad, ac anogai yr holl ysgolion i wneyd mwy o ymdrecb, ac yn arbenig i gael y Dosbarthiadau ieuengaf i lafurio yn helaethach. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Ml J S Roberts, Corwen. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr am 5-30 o'r gloch, dan lywyddiaeth T. Dudley Morgan, Ysw., Corwen, pryd y canwyd y don Kil- mory,' ac yr arweiniwyd mewn gweddi gan Mr J Roberts, Bala. Canwyd y tonau cau- lynol: Nac oes un,' Gotha,' Thanet,' 'Abertawe,' Ar Ei ben bo'r goron,' Dresden,' Henryd,' Am lesu Grist a'i farwol glwy,' a Tangnefedd. Yr oedd y canu yn y cyfarfod hwn wedi dod i dir uchel, dyblwyd a threblwyd rhauau olaf amryw o'r tonau, ac y mae clod yn ddiau yn ddyledus i'r arweinydd a'r cyfeilydd, Mri. Wm. Roberts ac 0 Davies, Cynwyd, am eu llafur difloo. Holwyd y Dosbarth o 9 i 12eg oed yn y cyfarfod hwn eto, gan Mr E Edwards, ac adroddodd Dosbarth o Gorwen benod yn wir dda. yn cael eu holi gan Mr D. M. Davies. Hefyd cafwyd datganiad gin Barti o Gairog, ar yr anthem Duw mawr y rhyfeddodau maith,' o dan arweiniad Mr H D Davies. Darllenwyd beirniadaeth y Parch W. R. Jones, Glynceiriog, ar bapurau yr Arholiad gan yr Ysgrifenydd, a chyflwynwyd gwob- rwyon i'r goreuon gan y Uywydd. Wedi hyny cyffwynwyd rhodd i Mr E D Matthews, Arolygwr Ysgol Carrog, am ei ddyddordeb neillduol a gymerodd yn ngwaith y Gymanfa, yn ystod y fiwyddyn, er sicrhau ei Ilwydd- iant. Cafwyd anerchiad ragorol gan y Llywydd, yn mha un y diolcbai nad yw yr ysbryd masutlcbol-sydd yn cael He mor amlwg trwy holl wledydd y byd heddyw-yn cael lie mewn cyfarfodydd o'r natur yma. Dywedai mai ofn nu w' sydd wedi gwneyd Prydain Fawr yr hyn ydyw, ac fod gan Gymrut ei rhan i'w gyflawni er gwneyd P.tydain Fawr y dyfodol. Cafwyd amryw sylwadau hefyd gan y Parch H. C. Williams, D.D. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r brodyr y Methodistiaid am fenthyg eu haddoldy, ac i'r llywyddion, a phawb eraill gymerasant ran yn y gwaith. gan y Parch H Cernyw Williams, yn cael ei eilio gan y Parch J. J. Morgans, a'i attegu gaa y Parch R. W. Davies, a phasiwyd yn unfrydol. A ganlyn i'w restr o enwau ymgeiswyr yr Arholiadau yn eu gwahanol Dosbarthiadau, ar marciau enillwyd ganddynt:— Dosbarth o dan 9 oed-D J Jones, Annie B Jones, Corwen Margaret E Williams, Gwyn- edd F Edwards, Hughie T Williams, Harriet M Williams, Margaret J Price, Cynwyd John E Edwards, Teddy Edwards, Glyndyfrdwy leuan G Roberts, Lizzie D Thomas, Harriet E Roberts, Eric S Jones, Cissie Evans, Carrog Kate E Griffith, Marian Jones, John M Edwards, Bala (100); Harriet Jones, Bala (97); Elizabeth J Jones, Amy B Jones, Carrog (96); Glyn Lloyd Jones, Annie G Jones, Wm F Jones, Corwen (95); Margaret E Roberts, Cwyneth M Williams, Ellen C Edwards, Mair E F Edwards, Cynwyd Ethel M Thomas, Lily G Roberts, Thomas H Jones, Carrog; D J Griffiths, Dilys L Davies, Gracy Jones, Bala (95) David W Jones, Maggie Jones, Sally Jones, Robert 0 Jones, Corwen Elizabeth A Jones, Carrog Jenny Roberts, Cynwyd (90); lorwerth J Edwards, Bala (8.") Grenville Roberts, Cynwyd R L Matthews, Mary A Jones, Gwilym A Jones, Carrug (85); Jenny Jones, Bala (83); Dorothy Jones, Hughie Davies, Corwen; M Roberts, Glyndyfrdwy (80): Gwen Edwards, Bala (77); Dilys J Williams, Daisy Jones, Carrog Pricy Hughes, Glyndyfrdwy Evan Jones, Bala (75) Ranley Edwards, Bala (7u);

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN.