Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
IMESUR I REOLAETH CARTREFOL…
MESUR I REOLAETH CARTREFOL YR IWERDDON. DRWY DY Y CYFFREDIN O'R DIWEDD. Am bump o'r gloch Nos Lun (neithiwr) fe darllenwyd y Mesur uchod am y drydedd waith, am y tro olaf, yn Nhy y Cyffiredin. Y mae Ty y Cyffredin-Senedd y werin —bellach yn lan oddiwrtho, a pha gwrs bynag cymer Ty yr Arglwyddi fe ddaw y Mesur yn ddeddf y tir yn y man yn rhinwedd ddarpariadau Ddeddf y Senedd. Yr oedd y pleidleisio ar mesur fel y canlyn :— Dras y Fesur 351 Yn erbyn ,,274. .;¡; Mwyafrif 77
,CORWEN''
CORWEN Y Cyhoeddiadau Sabbothol 1 Mai 31ain, 1914. Y BEDYDDWYR.—Am 10 Cyfarfod Gweddio, am am 6 Parch C. Williams Y WESLEYAID. -Am 10 a 6, Parch. E. Berwyn Roberts. YR ANNIBYNWYR CYMREIG.-Cyfarfod Gweddio am 10, a'r Parch. Lewis Davies am 6. YR ANNIBYNWYR SAESNIG.Parch. J. W. Foulkes. Y METHODISTIAID.-Parch. D T Morgan, Bala. EGLWYS Y PLWYF.—Am 11 a 6 o'r gloch, Parch C Williams, curad. CAPEL Y RUG.-Am 11, Parch G, Williams, rheithor. Ymdrechfa Coetio.—Cynhaliwyd yr uchod dydd Sadwrn cydrwng Corwen a Bala, yn Mhuartb. Gwesty y Delyn, Corwen. pa un a enillwyd gan Bala fel a ganlyn :-— Corwen. Bala. T. Lloyd 4 Jack Evans1 11 H. Jones 10 T. J. Roberfe 11 David Morgan 7 Dick Evans 11 W. E. Batten 11 Tom Hughes 9 Peter Hughes 9 W. LI. Evans 11 J. Edwards 11 J. VVilliaillS 6 W. E. Jones 11 Dai Evans A 8 D. Jones 6 H. Llpyd 11 69 78 Ar ol yr ymdrechfa rhoddwyd gwledd uwchraddol i chwareuwyr y Bala yn Ngwesty y Delyn gan aelodau Clwb Corwen. Beirniad yr ymdrechfa ydoedd Mr. Llewelyn Griffith, Ivy House, Corwen.
CYMANFA GANU YR ANNIBYNWYR…
CYMANFA GANU YR ANNIBYNWYR 1916 Nos Sabboth diweddaf cymerodd Eglwys Anni bynol Bethesda, Corwen, y cam cyntaf er ymdrechu sicrhau Cymanfa Undebol o Eg- Iwysi Annibynol Meirion, Dinbych, a Flint yn Mhafilion Corwen yn ystod y Flwyldyn 1916 Ymdrechir cael gan Gyfarf d Chwarterol Meirion i wahodd y Cyfundebau Sirol i gyd- weithredu er dwyn hyn oddiamgylch Clywsom mae yn Nghastell Dinbych y cynhaliwyd y Gymanfa Ganu Undebol olaf o eglwysi y tair sir, yn 18 6 ar enwog Eos Morlais yn arwain
Mewn Clod i'r Canghellydd.…
Mewn Clod i'r Canghellydd. Yn ystod ymweliad Mr D Lloyd George a Ipswich, yr wythnos diweddaf, yn annerch cyfarfod Rhyddfrydig ar ran ymgeisiaeth etholiad Mr Charles Masterman, adroddodd y cadeirydd Syr D. F. Goddard, hanesyn doniol a glywyd gan hen wreigan pan ymwelwyd a hi o berthynas i'w pleidlais, gan y canvaser' yr hwn a grybwyllodd wrth yr hen foneddiges am debygrwydd y gWDa y Canghellydd reil- ffordd i'r Nefoedd. Nid ydwyf yn gwybod am hyny attebai yr ben wraig, "ond hyn y gwn ei fod wedi gwneyd yr ystafell arhosol (waiting room) yn llawer mwy cyforddus."
,ETHOLIAD IPSWICH.
ETHOLIAD IPSWICH. Cymerodd yr etholiad uchod le dydd Sadwrn diweddaf. Enwebwyd gan yr ethol- wyr fel a ganlyn Mr. F. J. C. GANZONI (U) 6,406 Mr. G. F. MASTERMAN (L) 5,874 Mr J. SCURR (Soc.) 395 Mwyafrif Ceidwadol 532 —^
Family Notices
Priodwyd. Mai 20fed, yn Nghapel Bethesda, Corwen, gan y Parch. J. W. Foulkes, Corwen, unwyd mewn glan briodas Miss Hannah Jane Jones, Tanygraig, Cynwyd, a Mr. Francis William Evans, 143, Paterson Street, Birkenhead.
Advertising
WANTED, A Strong Boy to go out with Milk Float (Morning and Evening), and make himself generally usetul. Apply- MAURICE HUGHES, Glanalwen, Corwen. HYSBYSIAD PWYSIG. Stoc Helaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeiniol1 Digyffelyb DYMUNA HUGH HUGHESJ Meirion Boot Stores, Corwen HYbBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting "K" Boots, a'r Country <4 K" Boots, Holdfast" a'r New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am, brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a chyda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yn foddhaol gydag unrhyw eraill. Cofiwch y Cyfeiriad— Bridge Street, Corwen.
LLANDDERFEL. ,I
LLANDDERFEL. CYMANFA YSGOLION ANNIBYNWYR EDEYRNTON. Cynhaliwyd hon ddydd Mercher diweddaf yn Llandderfel, a chan fod yr hin yn hynod o ffafriol daeth yr oil o'r Ysgolion yno yn gryno iawn. Yn y prydnawn cynhaliwyd y gwasanaeth mewn dau gapel—sef eiddo y Methodistiaid a'r Annibynwyr. Yn y blaenaf Llywyddwyd gan y Parch. J. W. Foulkes a holwyd y dos- barthiadau ieuangaf gan Mr Williams, Ysgol- feistr, Glyndyfrdwy, a Mr. W. Richards, Soar. Yn yr olaf llywydd wyd gan Mr H. W. Anwyl, a holwyd gan Mr. J. Jones, Cwm, a'r Parch. Lewis Davies, a chafwyd holi ac atteb oedd yn glod i'r gwahanol ddosbarthiadau Yn nghf- arfod yrnos llywyddwyd gan Mr. T. Pritchard, Llywydd yr Undeb, a threuliwyd y cyfarfod i ganu y tonau, salm-don, a'r anthem Y mae afon", o dan arweiniad medrus Mr. J. Davies Hughes, G F S C. Cyfeiliwyd yn gywir ac ya chwaethus gan Miss Mair G. Evans, a chynor- thwyd gan amryw grythwyr i-uaingc o Gorwen Yr oedd yr oil o'r ysgolion wedi dyqtgii eu gwaith yn drwyadl, a chafwyd canu a'r enein- iad dwyfol arno. Yn ystod y cyfarfod rhanwyd y gwobrwyon i'r yiiigc-iswvr Ilwyddiaiiiis yn yr arholiadau ysgrifenedig. a da oedd genym ddeall fod plant Corwen o dan oial eu harol- ygyddes wedi gwneuthur mor ganmoladwy. Enillwyd gwobrwyon o yagol Corwen gan Mr. E Elias Jones, Miss Ellena P Davies a Miss Mair G Evans
[No title]
CAMGYMERIAD yw pi-ynti Spectol isel-bris. Fe delwch 12s6d am un siwt o ddillad a £3 am un aralh Siwt o ddillad yw y ddwy Cyst un spectol 5s neu 10s i chwi, ac un arall bedair a dimai. Spectol yw y ddwy Sotbach yw y siwt ddillad 12s6d. Sothach a gwaeth na sothach yw y spectol bedair a dimai Os am Spectol rad yn ystyr oreu y gair, gelwch gyda ELLIS EVANS, Chemist, ('ORWEN, gan yr hwn y cedwir y stoc oreu a rhataf yn y cyffiniau.