Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
.MARWOLAETH DR. W. R. ELLIS,…
MARWOLAETH DR. W. R. ELLIS, Bala. Gyda gofid mae genym i gofnodi marwol- aeth y gwr ieuauc uchod, wedi hir nychdod: prydnawn dydd Mercher, yn 32 mlwydd oed. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Huaii J. Ellis, grocer, Plasey Street. Wedi cwrs o addysg yn ysgolion y Bala, bu yn ngwasanaeth Dr. Williams, Tawelfan yna seth i Edinburgh lie y graddiodd yn, feddyg. Bu gwrs oamser yn gweini yn Llanfairtalhaiarn; ac yn diweddar ymsefydlodd yn N ghorwen, ar ol marwolaeth Dr. White. Rhoid gair uehel iddo feI meddyg gan bawb. Yr oedd yn wr ieuanc dymunol a chymeradwy. Ond gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd yw'r banes am dano erbyn hyn. Addefai ei brofiad y misoedd diweddaf, a daeth dylanwadau diwygiad 1904-5 yn fyw iawn iddo. Cydymdeimlir yn ddwys a'i weddw ieuanc, ei dad a'i fam, ei unig frawd, a'r teulu oil yn eu galar a'u tristwch. Cymerodd y claddedig- aeth le ddoe (dydd Llun) yn Mynwent Llanycil.
CERRIG-Y-DRUIDION.
CERRIG-Y-DRUIDION. Y SYMUDIAD I GAEL NEUADD GYHOEDDUS. Er's cryn amser y mae trigolion Cerrig-y- druidion a'r cylch wedi bod yn ymdrechu at gael neuadd gyhoeddus yn y pentref. Nos Wener, Mai yr 8fed, cynhaliwyd cyfar- fod cyhoeddus yn y pentref o blaid y symudiad. Cymerwyd y gadair gan Mr. Aneuirin 0. Evans, Dinbych, yr hwn sydd yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y mater. Methodd y Milwriad Mainwaring, Bwlch-y-beudy, un arall o gefnogwyr y mudiad, a bod yn bresenol. Mewn cyfarfod- blaenorol dadganwyd barn fEafriol i'r symudiad, ac awgrymai y Milwriad Mainwaring fod cwmni yn cael ei ffurfio. Addawai, hefyd, roddi y tir angenrheidiol, a'r cerrig ac os ffurfid cwmni byddai yn barod i gymeryd lOOp o shares ynddo. Os, ar y Haw arall, y penderfynid codi neuadd trwy gyfraniadau cyhoeddus,byddai iddo roddi y tir angenrheidiol a'r cerrig, a chyfranu lOOp. Ffurfiwyd pwyllgor o 45 o aelodau yn cynrychioli y rhanbarth, a'r pwyllgor hwnw oedd yn cyfarfod y noaon hono. Wedi cryn siarad cynygiodd Mr. David Jones, Brynsaint, eu bod yn ymgynghori ag architect,' a'i fod yn cael ei gyfarwyddo i gostio 1,000p., ac yna byddent mewn safle i wahodd pobl i gymeryd shares' yn y cwmni, Deu i roddi cyfraniadau gwirfoddol. Yr oedd ef ei hun yn ffafr adeilad cerrig i gynnwys 1,500 o bobl. Mr. Tom Owen a eiliodd. Wedi rhagor o siarad cafodd y cynnygiad ei basio, a chyttunwyd hefyd, i ymholi pa beth fyddai edit adeilad o gerrig ac adeilad o 4 corrugated iron.' Gadawyd ar y cadeirydd, y Milwriad Mainwaring, a Mr. David Jones i "a Mr? D vid J o- ne" s, i- wneyd yr ymchwiliad.. Rhodd. Yu ystod y Synod a gynhaliwyd gan y Wegleyaid yn Ninbych yn ddiweddar, hysbyswyd fod Mr. Edward Jones, Llanhedr Farm, Rhuthyn, wedi rhoddl o'r neilidu swm o arian er ei fuddsoddi tuag at gynnal gweini- dog priod yn Ngherrig-y-druidion lief yd, fod Mrs. Jones, Boderw, Llandrillo, wedi roddi £ 200 tuag at yr eglws s Weslevaidd yn Cerrig-y-druidion.
Ymosodiad Beiddgvr yn Ceinewydd,…
Ymosodiad Beiddgvr yn Ceinewydd, ger Talsarnau. Dydd Mawrth diweddaf bu Ynadlys Abenig yn Penrhyndeudraeth, gerbron Mr. R. Jones Morris (Qadeirydd), T. Lloyd Pritchard, a T. W. Jones. Y Rhingyll Evans, Penrhyn, a gyhuddai William James Boyd, Dqwnham Market, ntter a hen filwr, 29 mlwydd oed, o ymosod ar Mrs. Myfanwy Jones, Berlin House, Bl. Ffestiniog, a thori i mewn i'r bungalow, ger Talsarnau, ar ddydd Llun, Mai lleg. Tystiai Mrs. Jones ei bod yn briod i R. Ifor Jones, Berlin House, Blaenau Ffestiniog, a .bod gan ei thad Bungalow yn Ceinewydd, ger Talsarnau, ac iddi ddod i lawr i aros am ychydig o ddyddiau yn y Bungalow gyda'i dau blentyn a'i chwaer, Mrs. Jones, gwraig y Parch. E. Cefni Jones, Hirwaun, Debeudir Cymru. Nid oeddynt yn cysgu yn y Bungalow ond yn y Cottage yn ymyl, a'r ty agosaf ydoedd tua haner milldir. Aeth Mrs. Jones i'r Bungalow tua chwarter i naw yn y boreu i ymofyn rhai pethau, a gwelai ddyn yn gor- wedd, a phan yn cyrhaedd clywai swn ei draed y tu ol iddi. Aeth i mewn i'r Bungalow, a phan drodd gwelai ef yn cau y drws. Gafaelodd ynddi a thaflodd hi i lawr a'i churo ar ei phen. Cadwodd hi ar lawr trwy roddi ei ben glin ar ei choes. Yna cododd i fyny a rhoddodd gic iddi, a gwaeddodd Ei bod ar ben arni yn awr." Dywedodd yntau, Ydyw," a dyna'r oil. Dywedodd hithau, Gadewch i mi fyned at fy mhlant bach, a chewch yr oil arian sydd genyf." Dim ateb. Wed'yn llwyddodd i'w daflu i lawr, a tharaw- odd ei ben yn y bwrdd, a rbedodd i gyfeiriad drws y cefn, a Boyd yn ei dilyn, ac yr oedd yn ei hymyl pan yn agor cloy drws. Dilynodd hi allan, ond arafodd fel yr oedd yn nesu at y llidiart, ac yr oedd hithau yn gwaeddi ei goreu ar hyd yr amser, nes y eyrthiodd i freichiau ei chwaer yn y ffordd Gwelodd ef yn rhedeg i gyfeiriad Harlech. Tystiai y Rhingyll,, Evans, iddo "ei ddai yn ymyl Harlech, a gofynodd Boyd iddo A oedd wedi lladd y ddyoes," foj y cwbl wedi ei wneyd mewn ffito dymher ddrwg ynglyn a'r cyhuddiad o dy-doriad, a dywedodd wrtho Pan fydd dyn yn newynu fe wna rhywbeth." Ond ni ddywedodd y carcharor ddim yn y Llys. Traddodwyd ef i sefyll ei brawf yn yn Mrawdlys Dolgellau.
GLAN'RAFON. '1
GLAN'RAFON. 1 Marwolaeth.—Dydd Llun, yn y Sefydliad, Corvven, bu fa.rw Mrs. Jane Hughes, gynt o Four Grosses, Glaniiafon, Oorwen, yn 78 mlwydd oed. Bu yr ymadawedig yn cadw masnachdy yn Four Crosses am flyuyddau lawer. Cleddir yn Glanrafon dydd Mercher
PENTREVOELAS.
PENTREVOELAS. Marwolaeth.-Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Mrs. Evaii Roberts, Tynybryn, Pentre- voelas, yn 44 mlwydd oed. Yr oedd yn UD EO frodorion mwyaf parchus y cwmpasoedd. Caf- odd cystudd maith a blin. Gedy deulu lluosog i alaru ar ei hoi. Yr oedd yr ymadawedig yn ferch hynaf i Mrs. Daniels, Victoria Terrace, Corwen. Cleddir yn Mynwent Ysbytty Ifan heddyw (Mawrtb),
Advertising
LLANDRILLO CYNHELIR B AZ R MEHEFIN 24ain a 25ain, i'r amcan o glirio gweddill y ddyled ar YSGOLDY Y FAERDRE ac ad- gyweirio CAPEL y LLAN. Ceir many lion eto. IVAN T. DAVIES, Ysg. y Pwyllgor. HYSBYSIAD PWYSIG Stoe H elaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb D'Y MUNA HUGH HUGHES, Meirion Boot Stores, Corwen HYbBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting "K" Boots, a'r Country "K" Boots, Holdfast" a'r New Welsh Adamant Brand" ac Esgidiau CryfionerailliFeibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a chvda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yq foddhaol gydag unrhyw eraill. Cofiwch y Cyfeiriad- Bridge Street, Oorwen.