Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLANDDERFEL.

News
Cite
Share

LLANDDERFEL. Priodas.—Dydd lau, Ebrill 16eg, yng nghapel yr Annibynwyr, Bethel, ger Bala (yr hwn oedd wedi ei drwyddedu yn arbenig gogyfer ar amglylchiad hwn), unwyd mewn ghin- Briodas Mr. Robert Roberts, sadlar, High Street, Dinbych, a Miss Jeanie Jones, merch ieuengaf y diweddaf Mr a Mrs H Jones, Ty Ucba, Llandderfel. Cymerwyd gryn ddyddordeb yn y briodas yn yr ardal uchod gan fod y briodasferch yn adnabyddus i liaws o'r gymydogaeth am ei pharch a'i charedigrwydd, ac o ganlyniad fe ymgynullodd dorf fawr i weled y gwasanaeth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch- edigion Evan Jones (M.C.), Dinbych, a J Gwion Jones, Bethel. Gwasanaethwyd ar y briodasferch gan ei chwaer Miss Susanah Jones, Ty Ucha, ac ar y gwr ieuangc gan Mr R 0 Roberts, Rhuthyn. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr Mr Thomas Jones, Groes Faen, Llangwm. Ar ol y gwasanaeth ymdeithiodd y cwmni priodasol i Gorwen, lie yr oedd byr-hwyd ardderchog wedi cael ei barotoi gan Miss Ellis, goruchwylies Gwesty y Plvf. Yn hwyrach ar y dydd ymadawodd y par ieuangc i dreulio eu mis mel, gyda'r dymun- iadau goreu eu cyfeillion. Derbyniwyd nifer fawr o anrhegion gwerth- fawr.

MESUR DADGYSSYLLTIAD.

I AMSER GOLEU LAMPAU. I

Advertising