Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.ICynghor Plwyf CorwenI

News
Cite
Share

.I Cynghor Plwyf Corwen Cyfarfyddodd y Cynghor uchod nos Wener, yn Ystafell y Llyfrgell tan lywyddiaeth Mr. Hugh Morris, Cesail-y-Berwyn. Yr oedd yr aelodau canlynol yn bresenol Mri. Hugh Jones, Hugh Hughes, J. Davies-Hughes,, T. Lloyd Jones, L. Lloyd John, John Lloyd, J. M. Jones, H. E. Jones, R. J. Chapman, David Davies, a J. Salusbury Roberts (clerc). Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhavvd y cofnodion. Ethol Swyddogion. Ail-etholwyd Mr. Hugh Morris yn gadeirydd ar gynygiad Mr. Hugh Jones, a chefnogiad Mr. John Lloyd. Diolchodd Mr. Morris iddynt am yr anrhydedd. Ail-etholwyd Mr. John Lloyd, Glyndyfrdwy, yn is-gadeirydd. Penodwyd yr oil o'r Trethgasglwyr am flwyddyn arall. Pasiwyd fod y Pwyllgor Goleuo i gynwys holl aelodau y dref. Penodwyd Mr. David Davies, Brynteg, yn ymddiriedolwr yr "Elusenau Corwen am y 4 blynedd nesaf. Hysbysodd y Cadeirydd fod Criwr y Dref wedi ymddiswyddo. Ar gynygiad Mr. Richard Chapman penderfynwyd i ofyn i Mr. Williams ail-ystyriad y mater. Ymddiswyddo. Derbyniwyd ymddiswyddiad Mr. T. 0. Roberts, Glyndyfrdwy, fel aelod o'r Cynghor. Rhoddodd Mr. Hugh Jones rybudd y bydd yn y cyfarfod nesaf yn cynyg Mr. W. S. Williams, Tai Teg, i lanw y sedd ar y Cynghor. Pont Uwch-y-don, Bettws Dywedodd Mr. D. Davies iddo weled Mr. W. Jones-Ellis, Clerc Cynghor Plwyf Llan- gwm, ynghylch y cwestiwn uchod, a gofynodd iddo a oedd Cynghor Plwyf Llangwm wedi penodi dirprwyaeth i gyfarfod aelodau o Gynghor Plwyf Corwen gyda golwgar adeiladu pont yno, a dywedodd yntau nad oeddynt wedi ymdrin y mater o gwbl yn Llangwm. Darllenodd y Cadeirydd lythyr oddiwrth Mr. Griffith Griffiths, Uwth-y-don, Bettws, yn ddweud ei fod ef wedi cael llythyr oddiwrth Mr. Hugh Jones, Moelfre Newydd (cadeirydd Cynghor Plwyf Llangwm), ac yr oedd yn amgau y llythyr hwn er mwyn iddynt weled drostynt eu hunain fel yr oedd pethau yn sefyll. Darllenwyd llythyr Mr. Jones, pa un oedd yn egluro mai mater i Cynghor Plwyf Llangwm ydoedd ac nid mater iddo ef yn bersonol. Dywedodd Mr. Lloyd John fod y Crwnwr wedi condemnio'r lie pan yn cynal trengholiad ar fachgen bach oedd wedi boddi yn ymyl yno ers tro yn ol. Yr oedd yn meddwl fod Cynghor Plwyf Llangwm yn gwrthod cyfarfod aelodau Corwen, yr oedd agent Mrs. Mathews. Bala (perchenog y tir), wedi addaw cyfarfod dir- prwyaeth Corwen a Llangwm unrhyw adeg ond iddynt ei rybuddio pryd y byddant yn cyfarfod. Er mwyn cael amser i weled rai o aelodau Cynghor Llangwm-, cynygiodd Mr. Chapman eu bod yn gohirio y cwestiwn am fis, cefn- ogwyd gan Mr. Hugh Hughes, a phasiwyd i wneud hyny. Gwassnaeth y Pellseinydd. Darllenwyd Llythyr oddiwrth y Post Feistr Cyffredinol yn egluro na fydd yn anghenrbeid- iol i'r Cynghor dalu y guarantee am wasan- aeth y Pellseinydd gan fod yna nifer ddigonol o danysgrifwyr yn y Plwyf eleni. Hysbysodd Mr. John fod y Cynghor yn arbed y swm o £ 17 y flwyddyn trwy hyny. Yr oedd y Cynghor wedi talu y guarantee am y 5 mlynedd ddiweddaf. Tretbi. Hybysodd y Clerc fod y trethi fel a ganlyn Treth Oleuo 5c. Treuliau Cyffredinol 2g. Claddu lc. Llyfrgell 1c. Y Frigad Dan. Gofynodd un aelod faint oedd y Pieriant Dan wedi costio. Dywedodd Mr. John fod y Pieriant, Pibellau, Minimax,' &c wedi costio £184. Y Fynwent. Penodwyd pwyllgor i ymweled a'r Fynwent gyda golwg ar dacluso y lie. Lampau y Dref Galwodd Mr. Hugh Hughes, sylw y Cynghor at finger-posts sydd ar rhai o'r lampau yn y dref. Yr oeddynt yn camarwain ddieithriaid ac hefyd yr oeddynt eisieu goto baent. Buasai yn hoffi gwybod pa un ai y Cynghor ynte Cymdeithas y Masnachwyr oedd yn gyfrifol am danynt. Gadawyd y mater i'r Pwyllgor Goleuo.

Family Notices

SANATORIUM DYFFRYN CLWYD.

Advertising