Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
-.Na Thafarn Na Thlotty.
Na Thafarn Na Thlotty. Wrth agor ystbytty newydd, gwerth yn agos i ddeng mil o bunnau, at wasanaeth tjodion Undeb Caernarfon, yr wythnos ddiweddaf, sylwodd Mr. H. R. Williams, yr arolygydd tan Fwrdd y Llywodraeth Lleol, y byddai'r ddau air atcas-workhouse a pauper--yn diflannu o'r Ddeddf y mis hwn, ac y ceid cryn ugain o'r ysbytai hyn drwy Gymru, maes o law, lie y caffai'r cleifion tlawd lawer amgenach trin- iaeth a chwarae teg nag a gaent yn yr ben sefydliadau. Gresyn na ddiflannai'r gair tafarn ar unwaith a'r gair tlotty, canys y maent yn berthynasau pur agos ac mor lan a gwerth ei gweld y buasai Cymru beb na thafarn na thlotty i'w baeddu. —<6-
GWYDDELWERN.
GWYDDELWERN. Darlith.-Nos Fercher diweddaf, traddod- wyd darlith yn Nghapel y Wesleyaid, ar y testyn o Gomon Sens,' gan Mr W. 0. Jones, Aber. Yr oedd y darlithydd yn ei hwyliau goreu a thraddododd ddarlith ardderchog. Gwasanaethwyd fel cadeirydd gan D. Davies, Ysw., U.H., L. C. a M. Bane, Corwen, yn ddehedig iawn, ac hefyd fe gyfranodd rodd gwir anrhydeddua i gyllid y ddarlith. Yr oedd te wedi ei ddarparu ar ol y darlith gan chwiorydd yr eglwys. Cafwyd cynulliad rhagorol, a dymuniad pawb yw am gael gweled y darlithydd a'r cadeirydd yn eu plith eto yn fuan iawn.
Advertising
4UNCERT TICKETS Posters Programmes PRINTED j ARTISTICALLY AND AT REASONABLE PRICES. Billheads and Memos from 5/- per 1,000. Estimates per return, rrrmrrrm CORWEN PRINTING CO.
I Pwyllgor Addysg Meifion.
I Pwyllgor Addysg Meifion. I Cynhaliwyd cyfarlod blynyddol o'r uchod dydd Tau, yn y Bala. Ar gynygiad Mr. W. P. Evans a Mr. Rob rt Evans yn cefnog;, ail ddewiswyd Dr. J. Jones, Dolgellau, yn gadeir- ydd am y Bwyddyn, a diolchodd Dr. Jones yn gynes am yr anrhydedd. Pasiwyd beidio dewis is-gadeirydd. Ysgol Newydd i Arenig. Cyflwynodd Mr. R. Roberts a Mr. L. J. Davies adroddiad yr is-bwyllgor a benodwyd gan Reolwvr Addysg y Bala i'r cais am i ysgol ddyddiol gael ei sefydlu yn Arenig. Er eu bod yn cael cynyg Ysgoldy y Methodistiaid. Yr oeddynt yn annog yn gryf i'r pwyllgor adeiladu ysgol yno tebyg i'r un sydd yn cael ei defnyddio yn Llangower, ac os y byddai iddynt benderfynu felly fod tir i'w gael at y gwaith yn rhad, yr hyn fyddai yn sicr o fod yn rbatach ac yn cyfarfod angen yr ardal yn well. Pasiwyd i dderbyn yr adroddiad ac fod Mri. R. E. Roberts, L. J. Davies, a G. G. Davies i ymohebu i sicrhau y tir. Hefyd fod i'r Clerc ofyn i'r Bwrdd Addysg gydnabod yr ysgol hon fel Ysgol Elfenol. Ysgol Awyragored. Pasiwyd i dderbyn pris Major Tottenham am dir i adeiladu ysgol yn Glyndyfrdwy am y swm o 300p. Cyflwynwyd cynllun o Ysgol Awyragored—y cyntaf o'r cyfryw i'w fabwys- iadu yn y sir. Hefyd, pasiwyd i adeiladu ty i'r prif-athraw. Penodiadau. Penodwyd Miss S. A. Thomas, Llandderfel, yn brif athrawes Ysgol y Cynghor, Llangower; Mr. Fredrick Lewis i Gynfal a Mr. Ebenezer Maddox yn brif athraw i Maentwrog. Apwyntiad Gweinyddes. Darllenwyd ceisiadau 13 am y swydd o Weinyddes Sirol i'r Ysgolion Ddyddiol a dewis- wyd Nyrs Maggie Jones, The Cottage Hospital, Colwyn Bay, yn unfrydol.
[No title]
Y mae clwv yr anifeiliaid wedi tori allan ar ffermvdd gan Gwrecsam, a llawer o'r anifeil- iaid yn marw. Y mae y Bwrdd Amaeth- yddol yn edrych i fewn i'r achosion, dan gyfarwyddyd Mri W J Fletcher, Arolygydd y Gymdeithas.
Advertising
——— THE CAEFELIN LAUNDRY, LLANGOLLEN, LADIES AND GENTLEMEN, I have opened a branch shop at Bryn Melyn Stores, Corwen to receive parcels of Washing, and shall esteem it a favour to have I your patronage. All work will receive prompt attention. The work will be done by hand care- fully and well. Price Lists upon j application. 1 K. ORSON, Proprietress. GUARANTEED PAINLESS DENTISTRY. C. H. Davies, Attends at Mrs. MILLINGTONS, Bridge St, Corwen, every FAIR DAY and one other FRIDAY in the month. Extractions Free ilien having TEETH. Badly Fitting Teeth re-made. Teeth Mounted on Gold, D. Alloy. All work Guaranteed. Terms arranged Branches at Denbigh, Oswestry and LI an fair Caerenion. Consultations FREK I No connection with any otherJ Dental Firm. Bristol House, CORWEN JUST ARRIVED an Excellent New Stock for this Season in Ladies & Gent's Waterproof BOOTS jj?"? )L-? ??j) t BL?? A GRAND SELECTION OF Holdfast, Lotus, Delta, Bective, G. Wearwell, and other well-known Brands As will be seen below a SPECIAL EFFORT has been made to keep the Prices as low as possible espec- ially when the advance in all goods has gone up very considerably. First-Class Home-Made Boots & Shoes. REPAIRS a SPECIALITY. COME and SEE the Babies' Boots & Slippers from 6-ld. Children's do. 1/6 Ladies' Shoes ,,1/11 Ladies' Boots 2/11 Boy's Boots Men's Boots 4/11 Children's Clogs 77 1/9 Women's do. ,,3/11 Men's do ,,4/11 Boy's Leggings ,,1/6 Men's do. 2/13 SPECIAL GENUINE BARGAINS TERMS CASH CORWEN: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Gwmni Argraffu Corwen Gogledd Cymru.