Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BWRDD Y GWARCHEIDWAID. CORWEN,

News
Cite
Share

BWRDD Y GWARCHEIDWAID. CORWEN, Cynaliwyd yr uchod ddydd Iau, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Mr. D. W. Roberts, Blaen la), Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen William Williams, Pandy; T. Williams, Pencraig; Thomas Da vies, Bryneglwys; John 0. Davies, Maesyrychain R. Mpyrick Roberts, Gwylfa E. H. Ellis, Branas Ucha R. 0. Roberts, Bryn Hugh Lloyd, Tytan-y- graig E. D. Jones, Medical Hall; J. W. Jones, Pentrellawen Mr. Samuel Davies, Gelli Mrs. Richards, a Miss Walker Edwin Derbyshire, (clerc), Dr. H. E. Walker; a Lemuel Williams, (meistr). Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Gobebiaeth. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Thomas Thomas, y cadeirydd, yn gofidio iiasgallai fod yn bresenol, ac yn datgan ei diolchgarwch i'r Bwrdd am ei gynorthwyo i gario busnes y Gwarcheidwaid ymlaen yn ystod y flwyddyn diweddaf, ac hefyd yn dymuno i'r Bwrdd wneud yr un peth gyda'i olynydd. Cynygiodd Mr S. Davies, pleidlais o ddiolch- garwch i Mr. Thomas Thomas am yr hyn a wnaeth tra yn ei swydd fel cadeirydd. Cefn- ogwyd gan Mr. E. D. Jones, a pasiwyd fod y Clerc i anfon llythyr yn ddatoan eu diolchgar- wch gwresocaf id do. Darllenwyd llytbyr oddiwrth y Public Loans Act." Pasiwyd fod y Clerc i bwrcasu 60 o gopiau o'r Mental Deficiency Act gan Mri Wyman, pa rai sydd i'w rhanu yn mysg yr aelodau. Marw yn y Gwallgofdy. Hysbysodd Mr. D. L. Jones fod dynes o Gynwyd wedi marw yn y Gwallgofdy ac hefyd fod dyn o'r Bettws wedi marw yno yn ystod y bythefnos diweddaf. Cartref y Plant. Dywedodd Mr. Meyrick Roberts fod y Pwyll- gor Adeiladu wedi cwblhau ei waith ac yr oedd y lie yn barod i'r dodrefn. Pasiwyd i ymofyn am prisiau am ddodrefn a crockery. Dywedodd Mr. J. 0. Davies bydd rhaid cael y dodrefn yn y He cyn pen tair wythnos. Penodwyd Miss Walker, Mr. M. Roberts a Mr. 0. A. Lloyd ar y pwyilgor sydd wedi ei ddewis ynglyn a'r uchod. Cynhadledd. Gohiriwyd y mater o benodi cynrychiolwyr y Bwrdd yn y Poor Law Conference sydd i gymeryd lie yn Llandrindod Wells yn mis Mai hyd y cyfarfod nesaf. Meddyg i'r Plant. Cynygiodd Mr. J. 0. Davies fod y Bwrdd yn penodi Dr. H. E. Walker fel meddyg i'r plant sydd i drigianu yn y cartref newydd. Dywedodd y Clerc ei fod yn ofynol gan y Bwrdd Llywodraeth Lcol gael application am y swydd. Dywedodd Dr. Walker fod cyflog meddyg y Tiotty yn 15p y flwyddyn, a dyna'r swm yr oedd wedi bod ers y 56 mlynedd diweddaf (chwerthin). Yr oedd yn barod i anfon application i mewn am y swydd gan ei bod yn angenrheidiol gwneud byny. Bond.' Derbyniwd bond Miss Lilian Evans yr assistant overseer,' Corwen. Swm y bond ydoedd 500p. Y bondsmen' oeddynt Mri. T. Lloyd Jones, Y Terrace, a J. Davies- Hughes, Bristol House, Corwen. Adroddiad. Darllenwyd adroddiud y Pwyllgor Arianol gan Mr. E. D. Jones. Penodwyd pwyllgor i edrych i mewn i amryw o gyfrifon gan y tybient fod rhai o'r biliau yn afresymol iawn. Adroddiad y Meistr. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf 72 cynyddiad o 4 ar y bythefnos cyferbyniol y llynedd. Cynorthwywyd 103 o grwydriaid yn ystod y bythefnos ddiweddaf. Diolchodd i:Mr. R. James Jones am Lantern Lecture' a draddododd i'r tlodion yn y Ty, ac hefyd i Mr. W. R. Jones, Orsaf Feistr, Gwyddelwern, am weitbredu gyda'r llusern, eilwyd y cynygiad gan Mr. Meyrick Roberts. Dywedodd y Meistr fod y moch wedi eu gwerthu, a gofynodd am caniatad i brynu 4 o berchyll. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlvnol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol :-Mr. D. L. Jones, Corwen, 23p Mr. R. 0. Davies, Llangollen, 38p.

IOARROG.

Advertising