Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

MARWOLAETH HYNOD FFERMWR YN…

News
Cite
Share

MARWOLAETH HYNOD FFERMWR YN CARNO. AIL DRENGHOLIAD. I AIL GODI'R CORPH O'R BEDD. I ARWYDDION 0 WENWYNIAD. ''I,, I Yn y Drefnewydd, yr wythnos diweddaf, agorwyd ail drengholiad ar gorph Thomas Roberts, ffermwr cyfoethog, yr hwn oedd yn byw yn Carno, fu farw ar Rhagfyr laf. Yr eedd y corph wedi ei godi o'r bedd trwy orchymyn y Swyddfa Gartrefol. Yr oedd yr ail drengholiad yn cael ei gyn- nal trwy archeb yr Uchel Lys. Fel y nodwyd bu Roberts farw ar y Rhag- fyr laf. Ymosodwyd arno gan boenau mewnol llvm y tu allan i'w dv yn Carno, a bu farw yn mhen ychydig amser. Ar adeg ei farwolaeth dywedid ei fod ar fin myned i'w briodi gyda merch ieuangc o'r gymydogaeth. Yr oedd ewyllys Roberts yn benaf yn ffafr Evan Morgan, ffermwr cyfoethog arall, yr hwn oedd gyda Roberts ycbydig cyn iddo farw. Yn y trengholiad cyntaf dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth naturiol.' Rai dyddiau ar ol darlleniad yr ewyllys ymdden- gys i drwgdybiaeth godi nad oedd y rheith- farn yn un gywir. Dywedai y trengholydd y byddai i feddygon a dadansoddwr roddi tyst- iolaethau o berthynas i archwiliad wnaed ar y corph. Byddai i'r dadansoddwr ddyweyd i wenwyn gael ei ganfod yn y corph, ac mai y gwenwyn hwnw ydoedd strychnine.' Ar gais y trengholydd daeth Evan Morgan yn mlaen, a dywedodd y trengholydd wrtho ei fod wedi ei alw fel tyst, ond teg oedd dyweyd wrtho, gan y gallai fod yna gyhudd- iad yn ei erbyn, na fyddai raid iddo atteb unrhyw gwestiwn fyddai yn debyg o droi yn ei erbyn. Gohiriwyd yr ymchwiliad hyd dydd Mercher. Yn y Llys gohiriedig dychwelwyd rheith- farn fod y trangcgedig wedi cyfarfod ai farwolaeth trwy gymeryd 'strychnine' ac nad oedd tystiolaeth i brofi gan bwy y cafodd. erbyniwyd y rheithfarn gan agos i ddwy fil o bobl oddi allan i'r llys gyda banllefau o gymmeradwyaeth.

Advertising