Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
GWYDDELWERN. »
GWYDDELWERN. » Parch. W. 0. Jones, Aber.—Ye fydd y g^r parchedig uchod yn ymweled ar lie hwn nos Fercher (vfory), Ebrill 8fed, pan traddodir ganddo ddarlith ar y testyii 'Comon Sens,' yn Addoldy y Wesleaid. Diau fe gymer lawer fantais ar y cyfleusdira o gael clywed y gwrbdnheddig byd-enwog o Aber. Nid oes raid wrth eiriau am allu a medr Mr. Jones fel darlithydd, ond sicrhawn pawb a deimla yn awyddus am gael treat' y caent gyflawn werth am eu barian. Mae yr elw yn myned tuag at glirio y brydlea syqd ar y Capel. Gwledd.—Prydnawn dydd Mawrth daeth Plant Gobeithlu y M.C. ynghyd i wledd ragorol a darparwyd iddynt gan y chwiorydd fu ynu cyfarfod yn ystod y gauaf. Mwynbaodd y plant eu hunain yn fawr a gwnaethant a allent i glirio y byrddau. Derbyniol iawn hefyd y ydoedd y "sweets" ranwyd iddynt gan eu gweinidog y Parch. J. Foulkes Ellis Yn yr hwyr cyfarfu aelodau y Gymdeithas Lenyddol ynghyd i ddirwyn i ben cyfres gyfarfodydd y tymhor trwy gael swper campus yn cael ei ddilyn gan cyfarfod amrywiaethol. Cymerodd y chwiorydd caredig gryn draferth i baratoi y fath wledd ac yr oedd golwg dda ar y byrddau cyn i'r aelodau gymeradwyo eu gwaith drwy eu clirio goreu gallent. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. William Williams, Glan- domwy. Cafwyd adroddiadau rhagorol gan Miss Jones, Brithdir, ynghyda chaneuon ac adroddiad gan aelodau y Gymdeithas. Cyn- ygiodd y Parch. J. Foulkes Ellis, y diolchgar- wch i ddarparwyr y wledd ac hefyd i bawb —: ♦ ——-—
PENTREVOELASI
PENTREVOELAS I Llwyddiant. Da genym longyfarch y brawd ieuangc Mr Robert Ellis, The Mount, Rhydlydan, am fod mor lwyddiannus ag ennill y brif wobr yn Eisteddfod Llangernyw yr wythnos o'r blaen. Y mae y brawd uchod yn. myned rhagddo yn rhwydd yn myd y gan. Yn Eisteddfod Corwen, Gwyl y Bangc di- weddaf, ennillodd y brif wobr, ae y mae hyny yn glod mawr iddo. Beth amser yn ol ennill- odd y gwpan arian yn Trefriw. Dyma'r ail waith iddo ennill y gwpan. Efe hefyd oedd ennillydd yr her-unawd mewn Prawf Gyng- herdd a gynbaliwyd yn ddiweddar yn Llan- drillo. Y mae ganddo ddawn fel cantwr, ac nid dawn yn unig, ond y mae yn meddu ar lais swynol, a chyflawnder o hono. Eled yn mlaen etto. ■ ——
BLINDER LLANGOLLEN.I
BLINDER LLANGOLLEN. Ymddengys mai prif flinder Llangollen ydyw gwaith y glowyr sychedig yn dod ynoifeddwi a rhegi a chodi helynt gwedi bo nos ar y Saboth. Dirwywyd tri o rai felly yno ddydd Llun diweddaf i 16s. yr un ac ebe'r Pen Ustus wrth sbio'n dursiog arnynt, Y mae'n gebystr o beth fod y dref yn cael ei baeddu gan botl fel y chwi ar y Saboth a'n dyledswydd ni ydyw rhoi pen ar y peth. Tybiwn fod y drwg hwn bellach wedi darfod, achos ni fu peth tebyg o flaen y Fainc ers plwc Os daw peth tebyg o'n blaenau eto, gwae hwy." -4 —-—
y' CYNWYD.
y CYNWYD. Mav}volaeth.—Gofidus genym gofnodi am farwometh Miss Sarah Lloyd, yn 35ain oed, yr hyn gymerodd le dydd Gwener diweddaf yn Ninbych. Merch ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar Mr. a Mrs Lloyd, gynt o Tyn-y- berth, Cynwyd. Cafodd gystudd maith ond dioddefodd y cyfan yn hollol dawel a dirwg- nach. Cludwyd ei chorph i Orsaf Rheilffordd Corwen, dydd Llun diweddaf (ddoe), ac oddi yno gorymdeithiwyd i Gynwyd, He y dodwyd ei gweddillion i orphwys yn mhriddell myn- went Eglwys Sant loan, Cynwyd. Gwasan- aethwyd yn yr Eglwys ac wrth y bedd gan y Parch Alfred Abel (Rheithor). Yr oedd y chwaer ymadawedig yn aelod ffyddlawn o'r Eglwys* a nodwyd, yn ystod ei harosiad yn yr ardal yma. Nawdd y Nef fyddo dros y rhai sydd yn galaru ar ei hoi. Gwylied engyl fan tawel ei beddrod hyd ganiad yr udgorn mawr diweddaf. —.
Damwain Angeuol.II
Damwain Angeuol. PRYDNAWN dydd Llun (wythnos i ddoe) cyfarfu dyn ieuangc o'r enw George Roberts, yn ngwasanaeth Mr William Williams, mas- nachwr coed, Caerwys, a damwain angeuol tra yn arolygu llwytho coed yn iard gorsaf y ffordd haiarn yn Ninbych. Ymddengya iddo gael ei daraw yn ei ben gan goeden, ac fe tarawyd ef i'r Ilawr, yna disgynodd coeden arall arno gan ei wasgu yn ddifrifol fel bu farw cyn pen ychydig funydau Aed a'r corph i Ysbytty Dinbych, a chynnaliwyd trengholiad y dydd Mawrth dilvnol, ger bron Mr Robert Davies, trengholydd Sir Ddinbych. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddam. weiniol.
Advertising
N SBI S. O. XjXJOYD mi! B '?J?? B atB Bm JBB .tiL? Is now showing the latest and most desirable NOVELTIES, and invites early inspection. DRESS MATERIALS COSTUMES JACKETS FURS BLOUSES UNDERCLOTHING HOSIERY CORSETS & GLOVES UMBRELLAS GENT'S OUTFITTING LINOLEUMS CARPETS HEARTHRUGS HOUSE LINENS I ART SERGES -s £ -fe A A. A. A. A A A. A.. A Unique Collection of Novelties in Millinery  FE&TupE. DRESSMAKING 2PORTliNT FEATURE. ¡ ¡F Ladies may rely on both style and Pitg TAILORING- -Ladies' Tailor-made Costumes a Speciality. New Stock of WALL-PAPERS -\Jü':3I()'- Ask for Pattern Book. Waterloo House, Corwen.