Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y DDEISEB YN PIGO.'

News
Cite
Share

Y DDEISEB YN PIGO. [Ymddangosodd yr erthygl isod yn y Llan a'r Dywysogaeth (newyddiadur Eglwysig) Mawrth 27ain, 1914. Arwydd sicr fod y ddeiseb yn pigo ydyw coll tymherau y gwrthwynebwyr. Pan ddech- reua pobl respectable' siarad fel sipsiwns, amlwg fod pethau yn lied ddrwg. Yr wyth- nos ddiweddaf anfonwyd i mi ddernyn o'r Adsain wedi ei gymeryd o'r Dydd. Oddiwrth hwn casglwn fod y Brotest yn pwyso yn drwm ar frest y ddau bapur hyn. Dengys yr ysgrif- enydd mor gibdall fu y Pymtheng Mil' arwyddodd y ddeiseb yn erbyn dwyn y myn- wentydd oddiar yr Eglwyswr. Dylasant wybod fel y gwyr y Dydd mai nid eiddo yr Eglwys ydoedd y mynwentydd. Eiddo y plwyf a'r cyhoedd ydynt, meddai. Gwir fod Eglwyswyr yn ystod yn haner can mlynedd diweddaf wedi treulio dros ddeugain mil o bunau ar eu mynwentydd pa waeth am hyny ? Teg a chyfiawn yn ngolwg y Dydd fyddai eu dwyn oddiarnom Paham y caiff yr Eglwys- wr fyned i'r Eglwys amser a fyno yn lie cael ei reoli gan y County Council a'i rwystro ond ar adegau penodedig ? Pa reswm sydd mewn gadael i'r Eglwyswyr fyn'd yn orymdaith o amgylch yr Eglwys ar ddydd gwyl yr Ysgol Sul, neu ryw adeg arall, heb ofyn i Gynghor Sir Feirionydd ? Mae son am degwch y Cynghor Sir hwnw. Onid hwy gadwodd gyflogau athrawon ac athrawesau ysgolion yr Eglwys nes oedd gwyliau yr haf droaodd er eu rhwystro rhag cael myn'd am 1 holidays,' o ddial arnynt am eu ffyddlondeb at addysg grefyddol? Mae Cynghor Sir Feirionydd wedi hen brofi ei gymhwysder i wneyd bywyd Eglwyswyr yn faich iddynt unwaith y del y fynwent i'w dwylaw. Y gresyn oedd nad ydoedd y pymtheg mil yn meddwl yr un ffordd a'r Dydd. Dealla y Dydd ffigiwrs hefyd. Gwir fod y Bil yn dweyd yn blaen fod holl hen waddol- iadau yr Eglwys i'w cymeryd oddiar Eglwys- wyr Cymru, a bod swm y rhai hyny yn £ 157,338 y flwyddyn. Gwir hefyd fod y papur gyhoeddodd Mr. McKenna (er nad yw efe fawr o gownsiwr)yn dweyd fod < £ 157,338 y flwyddyn o eiddo yr Eglwys i fynd i'r County Councils a phethau eraill. Eithr yn ol arithmetic y Dydd, er subtractio £ 157,338 o Cl67,338 bydd yn ngweddill eto £ 75,000. Gadawir eu cyflogau i'r clerigwyr presenol neu os derbyn- iant ewm ar law efint ddigon i fyw arno tra byddont ar y ddaear (os peidiantaros yn hir), a dim ond digon i hyny yn brin. Eithr nid dyma ddull y Dydd o wneud y sums. Os tybia Mr. McKenna fod person y Bala yn mynd i fyw deng mlynedd a rhoi iddo ddigon i dalu ei gyflog am y tymhor hwnw; ac iddp yntau efala peldio byw diwrnod yn hwv bydd wedi gwario yr arian bob dimai cyn marw. Aceto yn ol y method diweddaraf o arithmetic bydd y cwbl ganddo i adael ar ei ol. Rhaid maddeu i'r pymtheng mil Ymneulltuwyr gonest, syml roddasant eu henwau wrth ei ddeiseb yn erbyn lladrata arian crefydd a'u taflu i ogor y County Councils nid ydynt eto wedi deall sut y gall neb fwyta wicsan a'i chadw hefyd. Mae'r Dydd yn hanesyddwr penargamp hefyd. Dywedodd y gwyr enwog fu ar y Comisiwn, y Barnwr Vaughan Williams, Syr John Williams, Mr. J. H. Davies a Syr D. Brynmor Jones nas gallent hwy, wedi chwilio ddweyd beth oedd tarddiad eiddo Eglwyswyr Cymru. Ond am y Dydd-wel, mae mor oleu a'r dydd iddo mai y preladiaid a'r clerig- iaid ddygodd yr eiddo hwn oddiar y genedl yn y ganolcesau. Y piti ydyw fod yr eiddo gan yr Eglwys cyn y canol oesau, a bod llawer o'r ben weithredoedd drwy ba rai y rhoddwyd ef yn wirfoddol i'r Eglwys ar gael heddyw. Yma eto rywfodd, ffaelodd ffydd ei gyd" Ymneulltuwyr yn y Dydd fel haneswyr. Buont mor ddireswm a chredu i brif haneswyr yr oes, a chredu i'r hen weithredoedd hyny, yn hytrach nag i ddychmygion y Dydd. Nid oes i brophwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun. Dywed y Dydd ei freuddwydion hanesyddol wrth bobl Timbyctw, a diau y credant ef er i'w gymydogion Ymneulltuol wrthod.

I..,.TALYSARN. -III

I CLAWDDNEWYDD. I

Eisteddfod Genhadlaethol Bangor.

.,LLANDRILLO.

Advertising