Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Ymosodiad yn Llanuwchllyn.

News
Cite
Share

Ymosodiad yn Llanuwchllyn. Yn Llys "Xnadon diweddaf y Bala, cyhudd- wyd Thomas Roberts, Frongastell; Hugh Jones, Braichceunant; Evan Robt. Williams, Prys Mawr, ac Edward Jones, Coedtalog, o ymosod ar Mair Evans, Lon, ar y ffordd pan yn dychwelyd o gyfarfod llenyddol yn Llan- uwchllyn ar y 27ain o'r mis diweddaf. Erlynid gan Mr Jordan, ac amddiffynid gan Mr Aneurin Evans. Tystiodd Mair Evans ei bod yn 27 oed, a'i bod yn cadw ty i Edward Jones, Lon. Yr oeddwn, meddai, wedi bod yn y cyfarfod llenyddol yn y Pandy, noson y 27ain o'r mis diweddaf, ac yn dychwelyd adref tua rdeg o'r gloch. Yr cedd Alexander Rees, gof yn y Lon, yr hwn oedd newydd ddod i'r ardal, ac Ellis Owen, 13 oed, yn cydgerdded a mi gar- tref. Wrth Penybont yr oedd Thos. Roberts, Hugh Jones, E R Williams ac Edward Jones, a daethant ar ein bolau. Wrth y Rheithordy fe ddarfu dau ohonynt ymaflyd ynof, yr oedd Thomas Roberts yn un o honynt. Yr oedd ei gap yn ymguddio ei wyneb, mi tynais ef ymaith, fel yr ydwyf yn hollol sicr mai efe ydoedd. Mi gefais ryddid yr adeg hono ac fe aethont o'n blaen ni, ac yr oeddynt yn aros ar ochr y ffordd, a phan yn myned heibio iddynt fe ddaeth Thomas Roberts ataf o'r tu 01, cododd fy nillad, a thaflodd fii lawr ar y ffordd, fel y derbyniais niweidiau i fy nghoes. Nid ydwyf yn sicr pa un ai ymaflyd yn fy nghoes gyda ffon ynte ei law a wnaeth. Ar ol i mi syrthio mi dreiglais ddwywaith cyn i mi allu sefyll ar fy nhraed. Nid oedd Thomas Roberts yn y cyfeiriad i fyned adref y ffordd bono. Ar ol gwrando tystiolaethau Alexander Rees, Ellis Owen, yr Heddwas Williams a'r cvhuddedigion, penderfynodd y Fainc fod y cyhuddiad wedi ei brofi yn erbyn yr oil, a cbafwyd hwy yn euog. Gorcbymynwyd hwy i dalu lp 6s o gostau bob un, a'u rhwymo am flwyddyn i gadw heddwch yn y swm o 5p. Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau cryfion yn erbyn ymddygiad o'r fatb hwn, a dywedodd fod y Fainc wedi penderfynu os bydd i gwyn- ioa o'r natur yma ddyfod o'u blaen etto, y bvdd iddynt ymddwyn tuag attynt yn hollol wahanol i'r hyn y maent yn wneud y tro hwn. Galwodd Dr Williams sylw mewn modd di- frifol at ymddygiad y troseddwyr yn eu hyf- dra yn rhoddi tystiolaethau mor anweddus.

Advertising