Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN, Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R, James Jones, Primavera, Corwen; Thomas Jones, Ty'nycelyn William Williams, Pandy; D. Jones, Brynsaint; T. Williams, Pencraig; Geo. Evans, Bryneglwys William Roberts, Gwnodl bach John 0. Da vies, Maesyrychain R. Meyrick Roberts, Gwylfa; John Wynne, Gro Miss C. Walker Ed. P. Jones, Cileu- rych J. 0. Roberts, Bryn E. M. Edwards, Llangollen Hugh Lloyd, Tytanygraig W. H. Parry, Bridge End Mrs. R. T. Jones, Garth; William Pencerdd Williams E. Derbyshire, (clerc), Dr. H. E. Walker; a Lemuel Williams, (meistr). Yn Haw y Trysorydd, llllp. 4s. Oc. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf, 82 y bythefnos gyfer- byniol y llynedd 69. 1" Crwydriaid. I Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf :-Yr wythnos gyntaf, 98; yr ail wythnos, 82. Nifer y crwydriaid dderbyniasant docynau i gael bara a chaws, 91; nifer y rhai wrthod- asant 4. YfRheidweinyddion. I Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 25 Mr. R. 0. Da vies, Llan- gollen, Z38. Cydymdeimlad. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlacl a Mr. John Roberts, Fron, yn ei drallod o. golli ei briod trwy farwolaeth. Adroddiad. I Dosbarthwyd copiau o adroddiad Mr. H. R. Williams, arolygydd Bwrdd Llywodraeth Leol, i'r holl aelodau. Galwodd y Cadeirydd sylw attynt, a llon- gyfarchai y Bwrdd ar eu safle ynglyn a'r draul o'u cydmaru ag Undebau eraill yn Ngbymru. Gohebiaeth. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs Richards, Llangollen, yn gofidio ei bod yn analluog i roddi ei phresenoldeb yn y Bwrdd oherwydd afiechyd. Darllenwyd llythyr o Fwrdd Llywodraeth Leol yn datgan eu cydsyniad i'r Gwarcheid- waid danysgrifio tuag at Nyrs Dinmael. Claddfa Llangollen. Gyda golwg ar le i gladdu tylodion yn Llangollen, derbyniwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leol yn datgan nad oeddynt yn hollol ddeall yr ohebiaeth anfon- wyd attynt yn mis Ionawr diweddaf. Mr. W. H. Parry: Y ffaith am dani ydyw nid oes ond lie preifat i gladdu yn Llangollen ar hyn o bryd. Mr. J. 0. Davies Gan mai llythyr personol ydyw, nid yw yn ddoeth i ni wastraffu amser gydag ef. Mr W. H. Parry Os gadawn y mater hwn yn ddi-sylw, bydd hyny yn taflu ychydig o anfri arnom. Mr E. M. Edwards: Y mae yna ddigonedd o le ar hyn o bryd ar gyfer y tlodion, felly mi gredaf mai gwastraff i'w siarad pellach ar y mater yma. Pasiwyd i adael y llythyr ar y bwrdd. I* Cylch-lythyr. Derbyniwyd cylch-lythyr oddiwrth Mr. Harding Roberts ynglyn a'r cynllun o uno y gwahanol Undebau, ac awgrymai fod Cyn- hadledd o Warcheidwaid Gogledd Cymru yn cael ei chynal i ymdrin y mater. Ar gynygiad Mr Parry a chefnogiad Mr. H. Lloyd pasiwyd i uno a'r Gynhadledd. Dewiswyd Mr R James Jones, y Cadeirydd a'r Clerc yn ddirprwyaeth. YDreth. Pasiwyd ad-dalu yn ol y symiau canlynol o dreth i Gwmni y Great Western yn ol prisiant diweddar, Llangollen Gwledig, 106p.; Llan- gollen Dinesig, 51p. 9s. Hefyd, yn Ngorwen Cynwyd a Llandrillo, 30p. Adroddiad. Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor yr Adeil- au gan Mr. R. M. Roberts, argymhellant fod cynygiad Mr Humphreys, contractor, am godi shed i'r 'petrol plant' yn Fronhyfryd, sef 14p yn cael ei dderbyn. Pasiwyd hyny ar gefnogiad Mr. Davies. Garthffos. Daeth dau gynygiad i law am wneud y garthffos yn Fronhyfryd, sef, W. F. Humphreys 81p. 6s. Hughes & Hughes 55p. 10s. Pasiwyd i dderbyn yr isaf ar gefnogiad Mr Thomas Williams. Cynorthwyo carcharor. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Fisher, ysgrifenydd y 'Discharged Prisoners' Aid Society,' yn cynyg gwaith a chartref i un o'r enw Robert E. Jones, sydd yn awr yn y tlotty ond a fu yn ngharchar. Pasiwyd i'r Meistr ei hysbysu. Trethgasglydd Gwyddelwern. Gan fod y ddau ^mddiriedolwyr oedd gan Mr Jones, Maesgwyn, fel trethgasglydd, wedi meirw, anfonodd Mr. Jones, copi o 'bond' o dan law Cymdeithas y Mutual. Derbyniwyd y cyfryw. I Y 'Contracts.' Ar gynygiad Mr R James Jones, yn cael ei gefnogi gan Mr Thomas Williams, pasiwyd y 'contracts' canlynol:— Glo Edwd. Jones a'i Fab Ironmongery H R Jones Paent, etc. Ellis Evans, Chemist Llefrith Maurice Hughes, Glanalwen Ymenyn Eto eto Cig Mrs Humphreys, Queen's Bara Eto eto Groceries J. Parry & Co Dilladau Alfred Parry I Gorsafau Bara. Gan fod Gorsafau Bara a Threfn Tocynau ar y Ffordd i Grwydriaid yn yr ardal hon wedi cael eu sefydlu y mae pob esgus dros gardota wedi ei symud. Rhoddir i bob Teithydd anghenog a'u ceisio Fwyd a Llety yn Rhad yn y Tlotty ac hefyd cyfran o Fara neu Fara a Chaws fel Pryd Ganol-dydd pan ar ei daith o le i le. Cafwyd adroddiad Pwyllgor y Crwydriad gan Mr J 0 Davies, ac argymhellant i dalu yr un swm i bob Gorsaf Bara drwy'r Undeb, sef lc. am fara, a 3c am fara a chaws. Yr Archeb Newydd. Cafwyd eglurhad gan y Cadeirydd ar yr Archeb newydd sydd yn dyfod i rym yn mis Ebrill; a phasiwyd i dderbyn argymhelliadau y Pwyllgor. Prydiau Bwyd. 0 dan yr Archeb Newydd gorchymynir nad oes ond tri phryd y dydd i'w ganiatau i'r rhai sydd yn y Tlotty. Dywedodd y Cadeirydd mai y rheol yma er, y flwyddyn 1901 ydoedd pedwar pryd. Yr oedd yr hen daflen fel y canlyn :—adeg codi, 6-45; brecwast, 7-30 ciniaw, 12; tê, 4; swper, 6-30. Siaradodd Dr Walker yn gryf o blaid i'r tlodion gael ped war pryd. Pasiwyd i Bwyllgor ystyried y cwestiwn.

Advertising