Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNWYD.

Celu Genedigaeth yn Glyndyfrdwy

News
Cite
Share

Celu Genedigaeth yn Glyndyfrdwy Yn Llys Ynadol Corwen, ddydd Mercher, gwysiwyd Dora Morris, 2, Sun Terrace, Glyn- dyfrdwy, ar y cyhuddiad o gelu genedigaeth ei phlentyn. Erlynid gan yr Is-brifgwnstabl Morgans. Gohiriwyd yr achos hyd ddydd Gwener er gwneud ymchwiliadau pellach. Dydd Gwener yn Llys Ynadol Corwen, ger- bron R R Roberts, Dr Hindley, David Davies, T. Lloyd Jones, W 0 Williams, a E P Jones, Ysweiniaid. Dygwyd y cyhuddiad uchod yn erbyn Dora Morris, 16 oed. Ond cyn myned ymlaen a'r achos dywedodd Mr. J R. Jordan, yr hwn a erlynai ar ran yr heddlu, er bod hwn yn Llys Barn Cyhoeddus ac na byddai yn briodol ei glirio allan, etto credai ei fod yn datgan dy- muniad y Fainc, pa rai oedd mewn dwin gyd- ymdeimlad a'r eneth yn ei thrwbwl, trwy ofyn i'r cyhoedd ymneillduo yn gydnaws a theimladau yr eneth a'i pherthynasau oedd yn bresenol. Gweithredodd y cyboedd yn union- gyrchol ar yr awgrym trwy fyned allan. Wedi i'r Fainc wrando'r tystiolaethau, tros- glwyddwyd y cyhuddedig i sefyll ei phrawf yn y Frawdlys nesaf a gynhelir yn Rhuthyn.

Family Notices

Advertising