Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y Ddeiseb a Mesur Dadgyssylltiad.I

News
Cite
Share

Y Ddeiseb a Mesur Dadgyssylltiad. I A ganlyn sydd rai o bethau camarweiniol a goleddir yn y ddeiseb arwyddwyd gan dros pymtheg mil o Ymneillduwyr yn erbyn y Mesur uchod. (1) Cymer yn ganiataol mai'r Eglwys bia 'r mynwentydd yn awr. Anwir yw hynny y plwyf a'r cyhoedd bia'r fynwent ond ei bod yng ngofal offeiriad plwyfol fel 'trustee' y cyhoedd. Mae gan bob un o'r plwyfolion hawl bedd ynddi betb bynag fo'i en wad neu ei ddiffyg en wad. Nis gall y clerig na neb arall ei rwystro. Y cyhoecd a'i pia. (2) Yr oil a wna y Mesur yw newid yr ym- ddiriedolwyr, a rhoi'r fynwent yng ngofal y Cynghor Sir yn lie yng ngofal yr offeiriad. Ac ai nid yw hyn yn fwy cydweddol a dyhead yr oes werinol hon? Sef rhoi'r awdurdod yn Haw cyrychiolwyr y bobl, yn lie bod yn Haw unbennaethol un clerig yn unig. (3) Paham y gwrthwyneba y clerigwyr yn erbyn y cyfnewidiad cyfiawn hwn ? Yn unig am y bydd y drefn newydd yn myn'd a'r 'fees' bocedir yn awr gan yr offeiriad a'r Eglwys, a'u trosglwyddo i'r awdurdod a'i pia. Gall y Cynghor Sir wneud llawn cystal defnydd o honynt er budd y fynwent a'r offeiriad- .08 nad cryn dipyn gwell. Llygad y geiniog sydd wrth wraidd y cwbl. (4) Bydd gan Eglwyswyr yr un faint yn union o hawl i gael eu claddu, etc., yn y fynwent ag sydd ganddynt yn awr. Yr unig un y cwttogir ei hawl yw 'r offeiriad plwyfol. Cant wasanaeth eu Heglwys a'i ffurf-weddi a'r gloch a'r offeiriad heb neb i ymyrryd a hwy tra na bydd gan Ymneilltuwr hawl i'r un 6 honynt. Yr unig fantais ga'r Ymneilltuwr fydd rhwystro i'r offeiriad ddefnyddio ei Ie a'i swydd i wthio arno wasanaeth yr Eglwys yn hytrach nag ei weinidog ei hun dan boen colli lie dewisedig ei fedd. A thybed a oes rhywun yn ei synhwyrau a'i hamddifada o hynny ? Os oes Ymneilltuwr wedi arwyddo'r ddeiseb hon, gan ddymuno hynny a'i lygaid yn agored ni pbetruswn ei alw un ai yn gnaf bradwrus neu yn ffwl anwybodus. (5) Dywed y ddeiseb fod y Mesur yn mynd a l57,000p o waddoliadau hynafol yr Eglwys oddiarni. Ond ni soma air fod pob clerig, deon, prebendari, archddiacon ac esgob i bar- hau i dderbyn eu cyflogau hyd eu bedd. Cant os dymunant, drot yr eiddo mawreddog hwn yn incwm blynyddol--ni(i am oes, ond tra bo dwfr yn rhedeg. A phe gwnaent hynny, byddai gan yr Eglwys 75,000p o incwm par- haol blynyddol yn ychwanegol at y I02,000p a adewir iddi gan y Mesur yn awr. Ni byddai eisieu i'r Eglwys wedyn gasglu ond swm cyd- mbarol fychan yn flyiiyddol i wnewd i fyny yr holl incwm a fwynba yn awr. Adyma'r bobl a haerant fod y Mesur yn eu gadael heb ddim, ac a amgylchant for a mynydd i hud-ddenu Ymneilltuwyr difeddwi a diniwed i arwyddo eu deiseb. (6) Heblaw hyn oil, haera'r ddeiseb mai'r Eglwys fel enwad bia'r 157,000 gymerir oddi arni dan y Mesur. Nid yw hynny yn wir y gened] a'u pia, ac ni wna 'r Mesur ddim mwy nag adfer i'r genedl yr eiddo drawsfeddian- wyd oddiarni gan breladiaid a chlerigaid y canol oesau, Yn wyneb hyn oil, a llawer mwy ellid ddywedyd am y budrwaith deisebol hwn, trueni fod unrhyw Ymneilltllwr wedi bod mor gibddall a chymeryd. ei hudo i'w harwyddo ond i'r bobl a'i liuniodd yn unig y perthyn y gwir waith a'r cywilydd. Ond llawenhawn wrth gofio mai nid a ffwlbri fel hyn y gellir dylanwadu ar y Senedd: gwyr honno ei gwerth, a pha faaged neu simdde i'w thaflu iddi.-O'r 'Dydd.' — f

GAN W YD.

Advertising