Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

.CSTNGOR DOSBARTH EDEYRNION…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CSTNGOR DOSBARTH EDEYRNION '1 Cynhaliwyd yr uchod prydnawn ddydd Gwener diweddaf, yn Ystafell y Bwrdd, tan lywyddiaeth Mr. R. 0. Roberts, (cadeirydd) yn cael ei gynortwyo gan Mr. R. M. Roberts, Gwylfa, (yr is-gadeirydd); yr oedd hefyd yn bresenol :—Mri. Thomas Williams, Pencraig fawr; 0 A Lloyd, Waterloo House; Thomas Jones, Tre'rddol; D. E. Davies, Gartbiaon; Ellis H. Ellis, Branas J Hughes, Post office; R. James Jones, Primavera; Thomas Wm. Edwards, Glyndyfrdwy Wm. Williams, Pandy; E P Jones, Cileurych; Dr D., E, Edwards, Corwen; E. Derbyshire (clerc) a R D Williams (arolygydd). Mewn Haw, 206p 3a 6c. Gohebiaeth. Derbyniwyd rhestr ó Sanatorias penodedjg gan Fwrdd Llywodraeth Leol i ymdrin ag achosion o'r darfodedigaeth, y lie nesaf hyd yn hyn i Gorwen ydyw Infirmary Gwresam. Gwaith Dwfr. Ar gais Mr T. W. Edwards a chefnogidd Mr E P Jones, pasiwyd fod mantolen o safle arianol gweithydd dwfr Llansaritffraid a Glyn dyfrdwy i gael ei pharotoi erbyn diwedd is Mawrth. Gofalwr. i Yr oedd y personau canlynol yn ymgeisio am y swydd o ofalwr dwfr yn Llandrillo :—j Tbadeus Jones 3p H Williams, Stores 3p i, I Charlie Hughes, Llan 2p 12s Ben Jones, Pwllyrhemp 2p lOa Robt Davies, eto 2p Cynygiodd Mr R J Jones a chefnogodd Mr John Jones eu bod yn dewis Robt Davies. Cynygiodd Mr T W Ed wards gan fod Mr Robert Davies yn byw agos i filltir o Landrillo a Mr Charlie Hughes yn byw yn y pentref, eu bod yn dewis Mr Hughes. Cefnogwyd gan Mr 0 A Lloyd. Pleidleisiodd 3 dros R Davies, a 6 o blaid Charlie Hughes. Ni pbleidleisiodd Mri Ellis H Ellis a John Hughes. I Market Square. Caed amcangyfrifiad gan yr Arolygydd o'r draul am roddi tar macadam ar yr heol uchod Mr E P Jones Oherwydd y pris, cynygiaf ein bod yn gwrtbod gwneud dim i'r heol hon ar hyn o bryd, ac yn hytrach yn gwneud y ffordd sydd yn perfhyn i ni o'r prif heol at y bont newydd. Cefnogwyd gan Mr John Jones. Mr R J Jones: Y mae hwn yn fater pwy- sig i'r dref a'r wlad, gan fod rhai darnau yn hynod beryglus i drafnidiaeth, ac os digwydd damwain y ni gaiff ein dal yn gyfrifol am fod y perchenogion wedi trosglwyddo eu hawl i ni. Mr T. W. Edwards A ydym yn gysson a ni ein huoain yn gwrthod gwneud hyn a ninnau wedi bod yn gofyn i'r Cynghor Sir wneud yr un peth i ffordd Gaergybi. Y maent hwy wedi gwneud eu rhan a'n dyledswydd ninnau yw gwneud ein rhan. Mr E. P. Jones Os gwneir hyn, fe fydd yn rhaid gwneud amryw leoedd eraill yn y dref, Mr 0 A Lloyd: Mewn tref o faint Corwen lie cewch chwi ddarn o ffordd mewn cyflwr mor ddifrifol a hon ? Mr Thomas Williams: Y mae yn syn genyf 03 nad yw darn o ffordd fel hon yn werth ei thrwsio. Mr R M Roberts: Yr wyf yn cynyg fod y gwaith i gael ei wneud, pe na warid ond 5p arni. Mr Thos. Jones Y mae pobl y wlad eisioes yn cwyno fod y trethi yn uchel, am hyny yr wyf yn gwrthwynebu. Mr 0. A. Lloyd: Yn ol gwerth trethadwy y dref ar y wlad y mae genym hawl, am hyny cefnogaf Mr Roberts. Pleidleisiwyd a chafwyd 5 o blaid a 6 yn erbyn gwneud y gwaith. Pwyllgorau. Gyda golwg a'r 'railings' i'w gosod o flaen tai yn Melinywig; llidiart ar ffordd Hendre, Llandrillo; a cyflwr ffordd Tycroes, pasiwyd fod pwyllgorau lIeol i ddod ag adroddiad i'r Cyngor nesaf. Adroddiad y Meddyg. Hysbysodd Dr. Edwards nad oedd achosion heintus wedi tori allan yn ystod y mis, a bod amryw o achosien o'r pfis ar blant yn y dref.

Advertising