Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ICARROG.

I Colledion Ffermwr..

News
Cite
Share

I Colledion Ffermwr. Y dydd o'r blaea yn Nhrallwm, cyhuddwyd morwyn bymtheg oed o'r enw Annie Evans, rhieni yr hon sydd yn byw yn Boat Street, Trallwm, o archolli nifer o wartheg. Dywedwyd i'r eneth fod yn gwasanaethu gyda Mr Owen, Groespluan, er Mai diweddaf, ac yn ddiweddar trengodd deg o wartheg i Mr Owen. Trengodd amryw o'r anifeiliaid o fewn ychydig amser i'w gilydd, ac ymddang- osai'r anifeiliaid mewn poenau dirfawr wrth, drengu. Nid oedd yr archollion yn weladwy ac felly bernid i'r anifeiliaid gael eu gwen- wyno. Modd bynag, dywedodd y Dirpwy Brif Gwnstabl Williams wrth y Fainc nad oedd y ffaith i'r anifeiliaid gael eu gweuwyno yn wir. Yr oeddynt wedi bod yn gwylio yr eneth yn ddiweddar. Ni fedrai fod yn dawel, ac o'r diwedd addefodd wrth ei Meistr iddi gloffi yr oil o'r gwartheg a drengodd. Hydref diweddaf, torodd tin allan ar fferm Mr Owen, ac addefodd yr eneth wrtbo mai ei gwaith hi oedd hwnw hefyd. Yn ystod y gweithrediadau gwenai 'r eneth ac atebai y cwestiynau yn hyf a chyflym, Taflwyd yr achos i'r Frawdlys.

I YR IS-ETHOLIADAU.

Advertising