Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ICARROG.

News
Cite
Share

CARROG. Rhyddfrydiaeth.-Nos Iau diweddaf bu Mr Roily Williams, y Bala, yn anerch cyfarfod rhyddfrydol yn y lie uchod, a chafodd dder- byniad brwdfrydig. Siaradodd ar Ddad- ;gyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru, Ymreolaeth i'r Iwerddon, Pwnc y Tir, a Mesur Un Dyn Un Bleidlais. Yr oedd ei glywed yn ymdrin a'r materion uchod yn wledd o'r mwyaf. Hefyd cyfeiriodd at y ddeiseb a gymerwyd o gwmpas yr Ymneilldu- wyr. Cafodd Mr Williams hwyl ragorol, a chaed cyfarfod nad anghofir yn fuan. Caed araeth ragorol gan y llywydd Mr. E. P. Jones U.H., Cileurych, a cyfeiriodd at y gwaith mawr a wnaed gan y Weinyddiaeth bresenol. Yn ystod y cyfarfod cynygiodd Mr Robert Roberts, Fedw, y penderfyniad canlynol:- Ein bod yn datgan ein hymddiriedaeth yn Mr Haydn Jones a'r Weinyddiaeth bresenol, ac yn llawenhau yn y rhagolwg y gwelir y mesurau Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr yn Nghymru, Ymreolaeth i'r Iwerddon, a mesur Un dyn un bleidlais, ar ddeddf-lyfr y Wlad yn ystod y tymhor pres- enol." Pasiwyd hyn yn unfrydol ar gefnogiad y Parch. W. Foulkes, Llangollen, gan yr hwn y caed araeth ar Paham yr wyf yn Rhydd- frydwr ? Ymdriniodd ar mater o dan ddau agwedd (1) am yr hyn oedd wedi ei gael gan- ddynt, ac yn (2) am yr hyn oedd yn ddisgwyl gael yn y dyfodol. Barn y mwyafrif ydoedd inai hwn ydoedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a gaed yn yr ardal ers blynyddau. Newidiad-Sylwer mai Ser y Bore (Dan Protheroe) yw y dernyn cystadleuol i Barti o Feibion yn Nghyfarfod Cystadleuol Carrog wythnos y Pasg, ac nid y Gwanwyn ddaeth' fel yr hysbyswyd yn flaenorol. Gweler ein colofnau hysbysiadol am fanylion pellach. ♦

I Colledion Ffermwr..

I YR IS-ETHOLIADAU.

Advertising