Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
JBWRDD Y OW ARCHEIDW AID,…
JBWRDD Y OW ARCHEIDW AID, CORWEN, Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; 0. A Lloyd, Waterloo House William Williams, Pandy William Roberts, Gwnodl Bach; Ed. P. Jones, Cileurych R. 0. Roberts, Bryn; E. D. Jones; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys; John Hughes, Llandrillo; John 0. Davies, Maesyrychain E. H. Ellis, Branas T. Williams, Pencraig; E. E. Jones, Pentrellawen; John Jones, Carrog; Miss Walker; Mrs. R. T. Jones; Mrs Richards Hugh Lloyd Samuel Davies David Jones, Rhospengwern E M Edwards Job Evans:; Dr Drinkwater E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr) Yn Haw y Trysorydd, 633p. lis. Ie. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf :-Yr wythnos gyntaf, 84, ail wythnos, 80. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf Y r wythnos gyntaf, 59; yr ail wythnos, 77. « Y Rheidweinyddion. 1 Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol :-Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 23 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, £ 34. Adroddiad y Meistr. Hysbysodd y Meistr fod un marwolaeth wedi digwydd yn y tlotty yn ystod y bythef- nos ddiweddaf, sef Mr Jonathan Edwards, o Gynwyd, yn 87 oed. Cydymdeimlad. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Samuel Williams, Llangwryd, yn diolch am gydym- deimlad y Bwrdd ag ef a'i deulu yn y profed- igaeth ddiweddar. Cadarnhad. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llyw- odraeth Leol yn cadarnhau ychwanegiad o 5p yn nghyflog Mr. R. 0. Davies. Cynrychiolydd. I Derbyniwyd cais oddiwrth Bwyllgor Mam- aethol Dosbarth Corwen yn gofyn i'r Bwrdd benodi un o'r Bwrdd ar eu Pwyllgor. Penodwyd Mr R. M. Roberts. Gorsafoedd bara. I Ar gynygiad Mr E P. Jones pasiwyd i ad- newyddu y contract a'r masnachdai sydd yn gyflenwi yr uchod am fis eto. Tocynau. I Rhoddodd y Meistr adroddiad o'r nifer o docynau ynglyn a'r gorsafoedd uchod yn ystod y mis diweddaf w Tocynau bara a chaws 43 „ bara yn unig] 19 11 Nifer wrthododd docynau 25 Foster Mother. 1 Yn y cyfarfod blaenorol derbyniwyd chwech o geisiadau am y swydd uchod, a tynwyd y nifer i lawr i un, a penderfynwyd fod hono i ddod o flaen y Bwrdd nesaf. Mewn canlyniad daeth Miss Annie.Williams, Conwy, gerbron i gael ei arholi gan Mr. Thos. Thomas (y cadeirydd), Atebodd Miss Williams pob gofyniad yn drwyadl. Darllenwyd llythyrau cymeradwyaeth o'i phlaid oddiwrth Gadeirydd Gwarcheidwaid Conwy Parch J Rice Roberts, Rhiwlas, Pen- traeth, Mon; ac oddiwrth Mr a Mrs Evans, meistr a meistres Tlotty Conwy (gynt o Gorwen ). Pasiwyd i'w dewis yn unfrfdol ar yr amod ei bod yn llwyddianus dan arholiad Dr. H E. Walker, ar gynygiad Mr E D Jones, a chefn- ogiad Mr R M. Roberts. Tenders. Derbyniwyd y prisiau canlynol am gyflenwi I I llyfrau cyfrifon:— Knight & Co 14 10 0 Haddon Best 13 12 6 Shaw & Sons 12 3 0 Ellsworth Bros., Leeds 9 4 6 Pasiwyd i dderbyn yr isaf ar gynygiad Mr. R James Jones a chefnogiad Mr 0 A Lloyd. I Adroddiad. Cafwyd adroddiad pwyllgor yr Adeiladau gan Mr J 0 Davies, hysbysodd iddynt dder- byn llythyr oddiwrth Mrs Eyton Jones yn datgan ei bod yn foddlawn i garthffos Fron- hyfryd fyned trwy tir perthynol iddi. Pasiwyd i Mr Aneurin Jones tynu allan gynllun o'r garthffos. +
CORWEN I
CORWEN Y Clwb Ceidwadol,-Nos Wener diweddaf, cynaliwyd 'smoking concert' yn y lie uchod, y prif ddatgeiniaid, oeddynt :-Mr. Young, o Pwllheli, a Mr. George Jackson, o Langollen. Daeth cynulliad da ynghyd a chaed cyfarfod hwyliog. Deallwn i oddeutu dwsin ymaelodi nos Wener. Yr Ystorm.-Nos Sadwrn a dydd Sul di- weddaf gorlifodd y Ddyfrdwy ei glanau. Gofidus genym ddeall fod amryw o amaethwyr gwaelodion dyffryn Edeyrnion wedi derbyn colledion trymion trwy i amryw o ddefaid gael eu hysgubo ymaith gan y llifeiriant. Dadgyssylltiad.—Y nifer o Ymneillduwyr dros 21ain oed, yn esgobaeth Llanelwy, ag y sydd wedi arwyddo y ddeiseb ynerbyn Dad- waddoli a Dadgyssylltu yr Eglwys yw 15,321. Cynwysa y nifer hwn 5,309 o Fethodiatiaid Calfinaidd, 3,834 o Wesleaid, 2;771 Annibyn- wyr, 1,586 Bedyddwyr, a 1,821 o enwadau eraill. Ymysg y rhai arwyddasant ceir 29 o weinidogion neu bregethwyr, 158 diaconiaid, 56 yn dal awyddau eraill, ag 18 o ynadon. Y syndod yw fod cynifer wedi gwneud pan y cymerir i ystyriaeth fod ceisiadau wedi cael eu gwneud o bronipob eefc fawr drwy y dos- barth am i'w gwrandawyr wrthod arwyddo y ddeiseb.
Advertising
Y Delyn Eto'n 01." CYNHELIR Cyngherdd Uwchraddol YN Ysgoldy Frytanaidd Llawr-y-bettws, NOS FERCHER, CHWEF. 18FED, 1914, LLYWYDD T. LLOYD JONES, Ysw., U.H., CORWEN. Beirniad Cerddorol a Datganydd gyda'r Tannau MR. BOB PARRY (Alawydd Uwchaled), Telynores- Miss LOWRI JONES (Telynores Uwchaled). Beirniad yr AdrodJ-Mr. J. W. Ellis. Cyfeilydd-Miss Vaughan Jones. Detholion ar y Gramaphone gan R. 0. Her-Unawd Y Gwladgarwr (R. S. Hughes), | Cartref fy Nghalon (D. Pughe Evans), neu Can y Marchog" (J. T. Prichard). Gwobr 10s 6ch iY goreu ddatgano gyda'r Tannau (Rhaid i'r Penillion fod yn chwaethus). Gwobr 5s. Her-Adroddiad Ymweliad yr Ysbeilwyr neu "YDiwedd." Gwobr 10s.6d. Gwasanaethir hefyd gan Gerddorion Lleol. Bydd Prelim. ar yr Her-Unawd a'r Her-Adrodd- iad am 5 o'r gloch. Y Ffugenwau i fod yn llaw yr Ysgrifenydd, Chwef. 17eg. Y Cyngherdd i ddechreu am 6-30 yn brydlon. W. R. EVANS, H. LI. W. HUGHES, Trysorydd. Ysgrifenydd. HYSBYSIAD PWYSIG. Stoc Helaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb DYMUNA HUGH HUGHES, Meirion Boot Stores, Corwen HYSBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting "K" Boots, a'r Country 11 K" Boots, Holdfast" a'r "New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am:brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a chyda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yn foddhaol gydag unrhyw eraill. Cofiwch yCyfeiriad- Bridge Street, Corwen.