Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
BWRDD Y GW ARCHEIDW AID. CORWEN.
BWRDD Y GW ARCHEIDW AID. CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, D.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; David E. Davies, Garthiaen William Williams, Pandy William Roberts, Gwnodl Bach; Ed. P. Jones, Cileurych T Jones, Tre'rddol; T. W. Edwards; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys; Thomas Davies, Tynywern John 0. Davies, Maesyrychain J. Roberts, Vron; T. Williams, Pencraig; W.H.Parry,Bridge End; E Morris, Llanarmon; E. E. Jones, Pentrellawen; David Jones, Brynsaint; Jonn Wynne, Gro; W Pencerdd Williams Miss Walker Mrs. R. T. Jones; R. E. Pugh, Penybryn; E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr). Yn Haw y Trysorydd, 713p. 3s. 10c. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf Yr wythnos gyntaf, 84, ail wythnos, 78. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynortbwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf Y r wythnos gyntaf, 59; yr ail wythnos, 38. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 33 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, £ 38. Adroddiad y Meistr. Hysbysodd y Meistr fod dau farwolaeth wedi digwydd yn y tlotty yn ystod y bythef- nos ddiweddaf, sef Mr Job Roberts, 65 oed, o Corwen, a Mrs Winifred Roberts, 73 oed, o Llandrillo. Claddu yn Llangollen. Bu ymdrafodaeth led faith ynglyn a'r mater hwn, a phasiwyd fod aelodau Llangollen i'w ail-ystvried. A ganlyn yw'r prisiau a dderbyniwyd oddiwrth yr awdurdodau. Cemetery Llan. Marwanedig, ac o dan fis oed 2s6c Mis, a than 12 oed 5s0c Dros 12 oed 1080C Ail-agor (8 troedfedd) tro cyntaf 9s0c ail dro 7s0c trydydd tro 5s0c Mynwent yr Eglwys. Bedd (9 troedfedd) 20s0c Ail-agor, tro cyntaf 18s0c „ ail dro 16s0c „ trydydd tro 14s0c Gohebiaeth. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. Thomas Williams, Pencraig Fawr, i rybuddio y bydd yn y Bwrdd nesaf yn codi y cwestiwn am gael gwell gohebiaeth yn y newyddiaduron o weithrediadau y Bwrdd. Mewn atehÜtd i'r Cadeirydd dywedodd Mr. Williams fod trethdalwyr ardal y Bettws ddim yn cael adroddiadau llawn ar faterion pwysig, hyny yw cael adroddiadau belaethach. Pasiwyd i'r gohebwyr gymeryd yr awgrym. Archeb newydd. Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr. W. H. Parry pasiwyd i bwrcasu 60 copiau o'r archeb newydd Poor Law Institutional Orders. Tenders. Pasiwyd fod y Clerc i anfon am brisiau llyfrau cyfrifon gan y Oyhoeddwyr. Cartref y Plant. Gyda golwg ar gwestiwn y Famaeth i'r uchod trowyd y Bwrdd yn Bwyllgor. Adroddiad. Cafwyd adroddiad y Pwyllgor Ymweliadol gan Mr. R. M. Roberts, yr hwn a ddywedodd fod tri o achosion wedi bod dan eu sylw, sef, Mrs. Wolffe, yr hon oedd wedi anfon o'r tloty at ei mhab am arian. Yr unig beth oedd yr hen wraig eisieu oedd ychydig o arian poced, ac nid oedd sail o gwbl i'r hyn ddywedwyd yn y Bwn d diweddaf ei bod yn anfoddlon ar ei bwyd. Am hyny yr oedd y Pwyllgor yn argymhell yr aelodau £ i beidio rhuthro achos di-sail fel hwn i'r Bwrdd yn y dyfodol. Yr ail achos, Edward Jones o Langollen, yr hwn fu yn gwneud arddangosiad o fwyd y tloty yn Llangollen er pan y bu yn ngholeg Rhuthyn am wrthod wneud ei waith yn y Tlotty, y mae wedi gwella ac yn awyddus am fyned allan i weithio. Y trydydd achos oedd William Williams, o Gorwen, yr hwn oedd yn hwyr yn dyfod i'r tlotty ac o dan ddylanwad y ddiod. Ar ol y wers gafodd gan y Pwyllgor addawodd wella yn dyfodol. Pwyllgor Arianol. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor uchod gan Mr W. 1:1. Parry, cyfanswm y biliau oedd 146p. 14s. 7c. Pasiwyd i'w taiu.
- CORWEN,I
CORWEN, I Soeial y Bedyddwyr.—Cynaliwyd yr nchod dydd Mercher diweddaf yn Mhafiliwn Corwen darparwyd y wledd gan chwiorydd yr eglwys, ac yr oedd y byrddau wedi eu hulio a phob math o ddanteithion blasus, pa rai a fwynha- wyd gan y cynulliad lluosog oedd wedi dyfod ynghyd. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd o dan lywyddiaeth Dr. R. J. Roberts, Llys Alwen, Corwen. Cymerwyd rhan gan y Rydal Action Party, a rhoddasant berfiormiad rha- gorol o raglen chwaethus dros ben. Hefyd caed cystadleuaeth corau meibion ar y dernyn Ser y bore (Protheroe). Daeth dau gor ymlaen sef Plant y Berwyn dan arweiniad Mr. Arthur Humphreys, a Meibion Glannau Ddyfrdwy," dan arweiniad Mr. W. Bradwen Jones. Dyfarnodd y beirniad Mr J E Morris, Llangollen, yr olaf yn oreu.
Family Notices
GANWYD. Ionawr 31ain, i Mr. a Mrs. Robert Davies, Compton Cottage, Corwen, merch. Jan. 29th, to Mr and Mrs J. E. Jordan, 1, Rose Terrace, Madeley, Salop, a son.
Advertising
HM ff? M?? BNs! ?f?. '?*? ??VW Hake Money OUT OF YOUR OLD Hot Water Bottle. An Extraordinary Offer We will allow you is. (One Shilling for your OLD HOT WATER BOTTLE) BRING US YOUR OLD HOT WATER BOTTLE no matter what make or whether it leaks or not. We will allow you Is. for it in exchange for a Rexall Hot Water Bottle that sell regularly at 3/11, 5/6, 6/6 and 7/6. REXALL HOT WATER BOTTLES ARE MADE OF REAL RUBBER, and are guaranteed for two years-are exclusive in design, and of a rich chocolate or deep red colour. They have no canvas lining that quickly perishes, but are real rubber from end to end, and like all other Rexall Rubber goods are guaranteed to give satisfactory service. When we say that we sell Rubber goods almost as cheaply in many instances as our competiors can. by them, we are stating facts that you should take notice of. We are exclusive agents in CORWEN, not only for the Rexall Real Rubber Hot Water Bottles, but also for the Enema Syringes, Douches, and all rubber goods. NOTE.—This offer holds good for 10 days only, from Thursday the 5th to Saturday the 14th inclusive. W. E. EVANS, OHEMIST, MEDICAL HALL, CORWEN